Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEISOEFA. Ehip. 597.] GOBPHENAF, 1880. [Llyfr L. B E D Y D D. GAN MR. THOMAS LEWIS, BANGOR, A'R FRON, LLANGBFNI. I. TJn o'r pethau sydd yn taro dyn hynotaf wrth ddarllen y Bibi ydyw, y gwahan- iaeth mawr sydd rhwng crefydd o ran ei ffurf allanol o dan yr oruchwyliaeth newydd ragor yr hen. 0 dan yr hen, yr oedd ffurfiau a defodau afrifed, braidd, a hynod fanwl, i'w cyflawni Ond o dan y newydd, y mae agos bob peth felly fel gwedi eu dileu, a dygiad ymlaen achos crefydd, o ran y drefn allanol, wedi ei ymddiried i synwyr crefyddol pobl dduwiol. Mae yn ym- ddangos fod pob peth cysgodol ac ar- wyddocäol wedi eu cadw allan, gyda'r eithriad o Fedydd a Swper yr Arglẁydd. Paham y sefydlwyd dwy ordinhâd ar- wyddocäol o dan yr efengyl 1 Hwyrach fod yn anhawdd ateb; ond, diau, gan fod yr Arglwydd Iesu Grist ei hun wedi eu sefydlu, a hyny mewn amgylchiadau hynod o neillduol, y rhaid eu bod yn bwysig, ac wedi eu bwriadu i ateb dy- benion pwysig yn ei eglwys. Wrth sylwi ar farn ein cydgenedl am, a'u hymddygiadau at, y ddwy ordinhâd hon, yr ydym yn canfod cryn wahan- iaeth. Y mae hraidd bawb, o drugar- edd, yn teimlo yn wylaidd, parchus, addolgar, wrth ymddyddau am, a nesâu at Swper yr Arglwydd, gan deimlo fod lles a bendith ì'w ddysgwyl trwy hyny. Ond y mae yn dra gwahanol gyda golwgaryrordinhâdoFedydd. Edrych- ìr arni gyda llawer mwy o ysgafnder a difaterwch, dadleuir Uawer yn ei chylch, a dangosir, os nad ydym yn camgymer- yd, fwy o ánwybodaeth yn mherthynas ìddí, gan ein haelodau, a deUiaid yr Ysgol Sabbothol, nag a ddangoair am unrhyw bwnc yn perthyn i'n crefydd. Barn amryw yw, nad yw bedyddio baban yn ddim ond cyfleusdra i roi enw arno ; barna eraill mai yr unig fautais o'i fedyddio yw, tuag at iddo gael cladd- edigaeth gristionogol yn mynwent y plwyf; barna eraill ei fod yn debycach o gyrhaedd y nefoedd ar ol ei fedyddio os bydd farw yn ei fabandod ; a barna eraill nad yw bedyddio baban yn un fantais iddo at farw, ond ei fod yn fan- tais fawr iddo at fyw. Diau nad ydyw ein syniadau fel Methodistiaid Calfinaidd, na'n parch i'r ordinhâd hon, yr hyn y dylent fod; ond pa fodd i'n cael i synio a theimlo yn briodol tuag ati sydd yn bwnc an- hawdd iawn ei benderfynu. Y darnodiad goreu a allwn roddi o fedydd yw, mai ordinhâd arwyddocäol o osodiad Crist ydyw, i'w gweinyddu ar bob un a dderbynir yn ddysgybl iddo, neu mewn geiriau eraill, yn aelod eglwysig. Nid drws i'r eglwys yw bed- ydd, ond peth o fewn i'r eglwys. Or- dinhâd eglwysig ydyw. ííid am fod un wedi ei fedyddio y mae yn aelod eglwysig, ond am ei fod yn aelod eg- lwysig y bedyddir ef. Arwydd o'i fod yn cael ei ystyried yn aelod yw. Nid am yr enwaedid un gynt yr oedd yn Iuddew, ond am ei fod yn Iuddew yr enwaedid ef. Ar ddydd ei choroniad rhoddwyd coron ardderchog iawn ar ben ein grasusaf Frenines; ond nid rhoi y goron ar ei phen a'i gwnaeth yn frenines, eithr yn hytrach, rhoed y goron am ei phen er arddangos a chyd- nabod yn gyhoeddus mẁ eia Brenines