Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DRYSOHFA. Rhif. 596.] MEHEFIN, 1880. [Llyfr L. PA LE I AROS, A PHA LE I BEIDIO AROS. Preoethwr viii. 3 : " Na ddos ar frys allan o'i olwg ef; na sâf mewn peth drwg; canys efe a wna a fyno ei hun." Yr Efe yma yw y brenin, at yr hwn y cyfeirir yn yr adnod íiaenorol a'r adnod ganlynoL Dy wed y naill, " Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorcby- myn y brenin, a byny onerwydd llw Duw;" ac medd y llall, "Lle byddo gair y brenin y mae gallu; a pbwy a ddywed wrtho, Betb yr wyt ti yn ei wneuthur?" Esbonir byn yn gyffredin am frenin daearol; ac yn ol hyny, mae yr adnodau yn gosod allan yr ymddarostyngiad a'r ufudd-dod sydd yn dyledus oddiwrth ddeiliaid i'r awdur- dodau gorachel, dan ba rai, yn rhag- luniaeth Duw, y maent wedi eu gosod. Ond y mae rhai o'r esbonwyr rhagoraf ar lyfr y Pregethwr yn golygu mai ara y Brenin nefol, Jehofah y Brenin Mawr, y mae yr adnodau hyn yn cael eu llefaru; ac fe welir fod yr ymad- roddion a ddefnyddir am allu ac awdur- dod y brenin yma—" Efe a wna a fyno ei hun—a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur î" yn rhai a ddefnyddir am y Duw byw mewn lleoedd eraill o'r Ýsgrythyr, ac yn iaith ry fawr a chref i'w harfer yn yr ystyr manylaf am un creadur. Ac, yn wir, os dewisir y golygiad mai at frenin daearol, at y llywodraethwr yn Israel, v mae cyfeiriad uniongyrchol y geiriau hyn, y mae yn weddus a chyson felly i m eu cymhwyso at Dduw, yn yr hwn y maent yn cael eu sylwedau yn gyf- lawn. Math o raglaw neu îslywydd dros Dduw, a chysgod o hono ef, ac nid penaeth hollol ac annibynol, oedd brenin tymmorol Israel. Am hyny y^ dy wedir am Solouon pan yr aetb efe i deyrnasu, "Felly yr eisteddodd Solo- mon ar orseddfa yr Arglwydd ;" ac yn gvwir y dywedodd brenines Seba wrtho, "Yr Arglwydd dy Dduw a'th hoffodd di i'th osod ar ei orseddfa ef, yn frenin dros yr Arglwydd dy Dduw." Duw ei hun, mae ja amlwg, oedd gwir frenin yr ísraeliaid. Ganddo ef y cawsant eu cyfreithiau; a rhyfedd drwy yr oesoedd fu ei lywyddiad gwyrthiol a goruwchnaturiol ef ar wladwriaeth Is- rael. Yn briodol gan hyny y gallwn edryeh ar yr adnodau hyn mewn cy- sylltiad âg Ef, yr hwn sydd uwch na'r uchaf. " Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y Brenin," i gadw cyt'raith yr Arglwydd, "a hyny o herwydd llw Duw." Yr wyt ti, Hebrëwr, dan gyf- ammod i'r Arglwydd, i wrando ar ei lais ef; mae "llwon y llwythau" yn rhwymo holl feibion Jacob i fod yn ffyddlawn i Dduw fel Brenin IsraeL " Na ddos ar frys allan o'i olwg et" Nid oedd hyn, dybygem, mor gymhwys i'w arddodi fel rhybudd cyffredinol frda golwg ar freniniaethau dynion. id peth hawdd, agored i bawb, oedd myned i lŷs a gwyddfod brenin dwyr- einiol; a gallem farnu mai yn gyffelyb yr ydoedd gyda breninoedd Israel. Ac wedi cael myned i ŵydd y brenin, yx oedd raid ymddwyn, aros, a myned oddiyno, nid yn ol mynpwy, ond yn ol gweddeidd-dra rheol a threfn. Ni cheid myned i mewn ato, ac allan oddi- wrtho ef, fel y mynid, megys gyda dyn cyffredin. Ond cymerer hyn am Dduw, ac y wae yn rnybudd diírifol rhag