Skip to main content

Y. DETSOEPA. Rhif. 604] EBRILL, 1880. [Llyfb L. LUTHER YMYSG EI GYFEILLION. GAN Y PARCH. J. HUGHES, D.D. I. Y ddau ddiwygiwr ag y cysylltir eu henwau yn fwyaf mynych â Luther ydyw Calvin a Melancthon. Mewn unrhyw lyfr ar hanes y Diwygiad yn yr Almaen, canfyddir Melancthon am dymmor hirfaith ochr yn ochr â Luther fel ei brif gydymaith a'i gynnorthwywr. Ac mewn unrhyw draethawd ar naill ai athrawiaeth y Diwygiad, neu le Pro- testaniaeth yn hanes yr eglwys, natur- iol ydyw cysylltu Luther a Calvin fel y ddau brif allu yn y symudiad. Y tri hyn oeddynt y tri chedyrn; ac er fod llawer o wŷr grymus yn eu cynnorth- wyo, yr oeddynt oll, hyd yn nôd Zwinglius, mewn nerth a dylanwad ymheÍL ar ol y "tri chyntaf." Tra yn ìlafurio gyda r un ysbryd yn yr un gwaith, yr oeddynt mewn llawer ystyr yn ddynion pur wahanol i'w gilydd. Anhawdd yw meddwl am ddau mwy annhebyg nag oedd Luther a Melanc- thon; ac er íod Calvin yn gyffelyb i Luther mewn egni a gwroldeb, eto, §yà& hyn o eithriad, braidd yn holí eithi naturiol eu meddyliau nis gellir meddwl am ddau mwy gwahanol. Tyner a gwylaidd oedd Melancthon. Yr oedd efe felly yn naturiol; yr oedd ei ddynoliaeth yn un dra manteisiol i adlewyrchu y " ddoethineb sydd oddi- uchod, yr hon sydd yn foneddigaidd a heddychlawn, yn Uawn cariad a ffrwy th- au da." Nid oedd yn casâu neb o blant Adda: yr oedd yn addfwyn wrth bawb; ei ysbryd yn fwy llednais, ei chwaeth yn burach, a'i eiriau yn foneddigeidd- xach nag eiddo neb o lenorion a duwin- Îddion yr oes. Nid oedd ynddo uu uedd i ddefnyddio geiriau tanllyd mewn ysgrifeniadau dadleuoL Prin y gellir dyweyd ei fod yn casâu y Bab- aeth ei hun. Mab tangnefedd ydoedd mewn gwirionedd; ac er iddo dreulio ei oes ar faes dadleuaeth ac ymryson, yr oedd yn gwneuthur hyny oddiar deimlad o ddyledswydd yn fwy nag oddiar hyfrydwch yn y gwaith. Ym- gysurai yn fawr, ar derfyn ei oes, wrth feddwl am y nefoedd fel cartref tawel na thorid ar ei dangnefedd gan ddim o'r dadwrdd a'r cecraeth duwinyddol oedd wedi blino cymaint ar ei ysbryd yn y bywyd hwn. Er ei fod mor llednais a thyner, yr oedd hefyd yn bur ; a'i gydwybodolrwydd i wirionedd Duw oedd yn ei ddiogelu ar hyd ei oes rhag y perygl y gosodid ef yn agored iddo gan ei lwfrdra naturiol. Yr oedd Luther, er ar amserau yn cael ei orlethu gan brudd-der ac ofh, yn un o'r ysbrydoedd mwyaf grymus a mawrfrydig ymysg meibion dynion. Cymeriad mawreddog dros ben oedd Luther. Gan mai pechadur oedd, fel y lleill o blant Adda, nid oes eisieu dyweyd nad oedd yn gymeriad di- frychau; ac nid oes achos âm guddio ei ffaeleddau. Nid oedd efe ei hun yn eu celu; yr oedd y gwaelaf o bawb am wneuthur hyny, trwy fod ei gymeriad yn berffaith dryloew. Yr un pryd, cymerer ef drwodd a thrwodd,*'edrycher arno o bob cyfeiriad, yn »yf[cyhoedd, ymysg ei gydweithwyr, ac ar yr ael- wyd gyda'i wraig a'i blant, ac fe saif ger ein bron fel cymeriad o'r mwyaf ardderchog, yn eijryra a'i gyf- lawnder, yn hoU| hanes yr -eglwys. Byddwn weithiau yn barod i ofyn, A