Skip to main content

Ý DETSOEIÁ. Rhif,^ö93.] MAWRTH, 1880. [LlYFR L. YR ANGHENRHEIDRWYDD AM DYWALLTIAD O'R YSBRYD GLAN. GAN Y PARCH. WILLIAM ROBERTS, D.D., UTICA, AMERICA. Titus iii. 6'. "Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr." Cyfeirir yn y geiriau hyn at y Tri Pherson yn yr Hanfod Ddwyfol. Cyf- eirir at y Tad o dan y rhagenw per- sonol, "efe." "A dywalltodd efe*sef Duw ein Hachubwr (adn. 4). Cyf- eirir at y Mab o dan y teitlau anrhyd- eddas, " Iesu Grist ein Hiachawdwr." Cyfeirir at yr Ysbryd Glan o dan y rhagenw perthynasol, " Yr hwn" (adn. 5). Gorwedd ynddynt hefyd dybiaeth o barth safle neillduol y Tri yn nhrefu- iant gogoneddus iachawdwriaeth dyn. Tybir mai y Tad yw flynnonell awdur- dod, neu yr achos gwreiddiol yn y trefniant; am hyny dywedir, " Yr hwn a dywalltodd efe." Y Tad, yn ol llun- iaethiad cyfammod y prynedigaeth, sydd yn tywallt yr Ysbryd Glân. Tyb- ir hyn hefyd yn y darnodiad, "Duw ein Hachubwr" (adn. 4). Tybir mai y Mab yw cyfrwng gweinyddiad y fen- dith, neu yr achos haeddiannol o honi; am hyny dywedir " Yr hwn a dywallt- odd efe, trwy Iesu Grist ein Hiachawd- wr." Trwy haeddiant Crist, fel Awdwr ein hiachawdwriaeth, y tywelltir yr Ysbryd Glân. Tybir mai yr Ysbryd Glân yw y cymhwysydd, neu yr achos effeithiol yn achubiaeth dynion; am hyny dywedir, " Yr hwn a dywalltodd efe curnom ni." Fel hyn addurnir y testun â'r nodwedd, "llawer mewn ychydig." Wrth sylwi ar y cysylltiad yn yr hwn y gorwedd y geiriau, gwelir i'od y cyfeiriaä at weithrediadau aehubol yr Ysbryd Glân, ac nid at ei ddoniau gwyrthioL Sylwer ar yr adnod flaen- orol, " Nid o weithredoedd cyfiawnderj y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol ei arugaredd yr achubodd efe nyni" Yr oedd ei ddoniau gwyrthiol yn cael eu ty wallt yn helaeth ar yr Apostolion ac eraill, yn sefydliad cristionogaeth. Yr oeddynt yn anhebgorol, ar y pryd, er argyhoeddi dynion, trwy brofion gwel- edig, o wirionedd a dwyfolder crefydd Iesu Grist. Ond wedi gorpheniad a pherífeithiad y Dadguddiad Dwyfol, nid oeddynt mwyach yn anghenrheidiol. Yr oedd, modd bynag, wjTthiau mor aruchel i gael eu cyflawni yn y byd moesol ac ysbrydol, fel nad oedd y rhai a effeithid yn y byd materol ond ar- wyddluniau neu ddelweddau gwan o honynt, sef " golchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Giân." Y wyrth fwyaf a wnaeth Duw erioed, mewn cysylltiad â dynion pechadurus, yw eu hadenedigaeth; ac y mae y wyrth ryfedd hon yn parhâu yn ei grym a'i rhinwedd trwy "olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ys- brydGlân." Ni a edrychwn ar y darnodiad "golchiad yr adenedigaeth" fel yn cynnwys anghen y byd, ac ar y dynod- iad, "adnewyddiad yr Ysbryd Glân," fel yn gosod allan anghen yr eglwys. Mae y byd mo.wn anghen am adenedig- aeth, a'r e^lwys mewn anghen am adnewyddiad; a'r nnig foddion, o or- deiniad Duw, er effeithio y fcnaül a'r