Skip to main content

Y. DEYSOEFA. Rhif. 574.] AWST, 1878. [Llyfr XLVIII. PERAROGL CRIST. OyNGHOR GwEINIDOGAETHOL A DRADDODWYD YN NgHYFARFOD YR ORDEINIO YN Nghymdeithasfa Gwrecsam, Mehefin 13, 1878, G A N Y P'ARCH. E D W A R D MATTHEY/S. ( Wedi ei ysgrifenu ir Drysorfa ganddo efti hun.) 2 Corinthiaid ii. 14, 15, 16: " Canys i Dduw y byddo y diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yn Nghrist, ac sydd yn eglurhâu arogledd ei wybodaeth trwom ni ymhob lie. Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig: i'r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r lleill yn arogl bywyd i fywyd ; a phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" Ceir yr Apostol Paul, o dan wahanol gymhariaethau, yn ymdrin cryn lawer â natur a phwysfawrogrwydd gwein- idogaeth yr efengyl, yn enwedig yn yr epistolau hyn at y Corinthiaid. Defn- yddia yma, yn y geiriau a ddarllenwyd, y gymhariaeth o berarogl, er egluro y mater pwysig, ie, y pwysdcaf o gwbl i greadur, o ddal y cyfrifoldeb o weinidog y testament newydd. Mae rhai esbon- wyr yn meddwl fod y gymhariaeth yn cyfeirio at aiferiad o roesawu gorchfyg- wyr adref i'r prifddinasoedd, ar ol ennül buddugoliaethau mawrion. Arweinid, meddir, y gorchfygedie yn rhwym wrth y eerbydau, yn arwyddìon y buddugol- iaethau. Gellid meddwl nad yw hyn yn annaturiol; canys yn ddiau, y mae geiriau mewn cysylltiad â Chrìst, fel buddugoliaethwr mawr, yn debyg o fod yn gyfeiriol at arferion felly: " Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i'n herbyn ni, yr hon oedd yn ngwrthwyneb i ni, ac a'i cymerodd hi oddiar y ffoidd, gan ei hoelio wrth y groes ; gan yspeilio y tywysogaethau a'r awdurdodau, efe a'u narddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi." Dywedir y byddai rhai o'r carcharorion gorchfygedig hyn dan obaith sicr o ollyngdod wedi cyrhaedd y ddinas, ond yn unig eu dangos ar gy- hoedd feí arwyddion o fuddugoliaethau. Yr oeddent yn sicr o aibediad bywyd, er bod yn ddarostyngedig i anfri a darostyngiad mawr. Yr oedd y lleill, eilwaith, o dan sicrwydd marwolaeth ddiarbed. Byddai'r bobl, i'r dyben o roesawu eu dewrion, yn gwneuthur per- arogl llysieuog, ac yn taenu blodau ar hyd y fryrdd, ac ystrydoedd y ddinas, nes pereiddio yr awyr â'r arogl hyfryd. Yn gymaint a bod rhai yn golledig, wedì eu sicrhâu y lleddid hwy ar ol cyrhaedd y ddinas, yr oedd marwolaeth iddynt hwy yn dyfod yn nôs gydag arogl y blodau, a bywyd a rhyddhâd i'r Ueill ag oedd o dan addewld arbediad. Felly, yr oedd y perarogl yn arogl marwolaeth i'r nailL ac yn arogl bywyd ì'r lleilL Yn yr adnod gyntaf o'r testun, dy- wedir fod " Duw yn eglurhâu arogledd eì wybodaeth ymhob fle" drwy ei gen- adon, " ac yn peri i ni oruchanaeth yn Nghrist." Yn ol yr esboniad uchod, y meddwl yw*; Dyma ni vn cael ein dwyn drwy yT holl wledydd", i'n dangos íei rhai gorchi;-?edJg, ac felly yn esiainpl o allu gras. 'Dau.josir ynom ni fod Crist yu orchfygwr mawr ar holl aliu y gelyn,