Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEFA. •Rhif. 571.] MAI, 1878. [Llyfr XLVIII. LLYGAD SYML. GAN Y PARCH. 0. EDWARDS, B.A., LLANELLL Matthew vi. 22, 23 : " Canwyll y corff yw y llygad; aui hyny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn oleu. Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fj'dd yn dywyll. Am hyny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch ]" Mae yn debyg mai yn y gelrlau hyn y gorwedd egwyddor fawr y bennod hon. Saif y geiriau tua ehanol y bennod— nid yn y dechreu, ac nid yn y diwedd; mae ysbryd y bennod, nid fel crynodeb 0 honl ar y dechreu, neu ar y diwedd, ond fel lefaln yn y canol i lefeinio yr oll. Nld amcan y Bibl ydyw profi el wlrioneddau, ond eu dadguddio. Mae y Bibl yn profi wrth ddadguddio, ac nid yn dadguddio trwy brofi. Pe bu- asai y bregeth ar y mynydd yn bregeth i bregethwr daearol, mae yn debyg y buasai y pregethwr hwnw yn gosod i lawr yr egwyddor gyffredinol i dde- chreu, ac wedi hyny yn rhestru y man- ylion dani; neu ynte fe fuasai y preg- ethwr o'r ddaear yn myned trwy y manylion—y pynciau neillduol—yn gyntaf, ac wedi hyny gyda ffurfioldeb daearol yn eu symio 1 fyny trwy osod 1 lawr yr egwyddor gyffredinol sycld yn cynnwys ac yn esbonio y manylion hyny. Ond yma y mae y Pregethwr o'r nef yn gosod í lawr yr egwyddor gyffredinol tua chanol y bennod. Mae yr egwyddor hon yn ymgodi i sylw yn nghanol y bennod fel mynydd uchel yn nghanol gwastadedd ëang. Y ffordd oreu i gael golwg ar y gwastadedd ydyw esgyn i ben y mynydd cyfagos. Yr un modd, y ffordd 1 gael golwg briodol ar fanylion y bennod ydyw cymeryd eln safle ar yr egwyddor fawr sydd yn ym- ddyrchafu l sylw yn nghanol y bennod. Beth ynte ydyw yr egwyddor hono ? Mae yn eglur y gosodir ht allan trwy j gymhariaeth neu ddammeg ; ac y mae i ddammeg ddwy ran—yr arwydd, a'r J hyn a arwyddoceir. Dyma arwydd y ! ddammeg hon : " Canwyll y corff yw y l' llygad." Defhyddir yr arwydd mewn | cysylltiadau eraill yn y Bibl. Mae wedi ei ddefnyddio eisoes yn y bregeth hon : " Ac ni oleuant ganwyll a'i dodi dan lestr." Dywedir am Ioan Fed- I yddiwr el fod yn "ganwyll yn llosgi \ ac yn goleuo," mewn gwrthgyferbyniad i'r " gwir oleunl," hyny yw, y goleuni fwreiddiol a gwirioneddol. Desgrifia 'etr hefyd " aur slcrach y prophwydi " | fel "canwyll yn llewyrchu mewn lle i tywyll, hyd oni wawrio y dydd, ac oni ; chodo y seren ddydd yn eich calonau j chwi." Gwelir foi y galr "canwyll" neu j "lamp" yn dynodi, nld goleunl ' gwreiddiol, ond goleuni wedl ei dder- ! byn. Nid y ganwyll ydyw ffynnonell goleunl; nld y llygad ydyw tarddle y ! goleuni. Cyfrwng yw y llygad i dros- I glwyddo goleuni i'r corff. Y llygad— dyma un o'r cyfryngau trwy ba rai y mae y byd oddlallan i ni yn dyfod yn adnaoyddus i nL Mae yna gjrfryngau eraill trwy y rhai yr ydym yn derbyn gwybodaeth am y byd a'i bethau. Yr ydym yn gwybod llawer am y byd oddi- allan trwy y glust, llawer trwy y llaw, ond trwy y llygad yr ydym yn gwybod mwyaf. Pe buasem yn gwybod mwy trwy y glust nag a wyddom tr wy y llygad, yna buasat priodoldeb mewn dyweyd, " Cauwyll y corff y w y glust."