Skip to main content

X DEYSOEFA, Rhip. 568.] CHWEFEOE, 1878. [Llyfr XLVIII. SYLWAUAÜ ÁE BREGETHU HÜNAN A PHEEGETHU CEIST. GAN Y PARCH. DR. EDWARDS. 2 Coiunthiaid iv. 5 : "Canys DÌd ydyra yn ein pregethu ein hunain, ond Críst Iesu, yr Arglwydd ; a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu." RHAN II.* Wedi crybwyll pa beth nad oedd ef a'i frodyr yn ei bregethu, y mae yr Apostol yn myned ymlaen i ddangos pa beth yr oeddynt yn ei bregethu, sef Crist Iesa yr Arglwydd. Ni fu dau wrthddrych erioed. yn fwy croes i'w gilydd na Christ a hunan. Os Crist, nid hunan : os hunan, nid Crist. Y mae uno y ddau yn beth na aU y cryfaf a'r ëangaf ei gyrhaeddiadau byth ei wneuthur. Pe meddyliem am Grist yn unig fel esiampl, nid oes dim yn fwy analwg ynddo na hunanymwadiad. Daeth yma er mwyn eraül, bu fyw i wneuthur daioni i eraill; y rhai yr oedd crefyddwyr yr oes hono yn eu dirmygu, yr oedd efe yn hoffi bod yn eu plith; ac yn y diwedd ymwadodd âg ef ei hun nes y rhoddodd ei hun yn aberth er mwyn eraill. Un o bethaa rhyfeddaf y dyddiau hyn ydyw, fod y rhai sydd fwyaf gel- yniaethol i'r gwlrionedd am Grist yn dadleu am ryw grefydd wedi ei gwneu- thur i fyny o hunanymwadiad. Bu amser pan oedd gelynion Cristionogaeth yn gosod dedwyadwch y dyn ei hun fel y prif nôd iddo gyrchu ato. Ond yn awr y maent wedi cymeryd tir hollol wahanol. Y mae pob dyn i farw iddo ei hun mor bell ag i gael ei ddedwydd- wch mewn credu y bydd eraill yn ddedwydd, er iddo ef ei hun beidio â bod pan yr ymedy â'r fuchedd hon. * Coir y Rhan Gyntaf yn y Drysorfa am 1877, tu dal. 361 a 401. Fel hyn y mae y naill elthaf yn arwain í eithaf arall; ac y mae yma enghraifft newydd o'r gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd uwchlaw rheswm â'r hyn sydd yn groes i re3wm. Er nad yw y Bib1, fel y gyfundraeth hon, yn gofyn ditn sydd yn afresymol, y mae yn gosod o'n blaen gynllun o gariad a hunanym- wadiad sydd uwchlaw pob amgyffred, cynllun y mae ein dedwyddwch yn gynnwysedig mewn ymdebygoli iddo. Nid oes modd pregethu Crist yn ysgrythyrol heb ei ddangos fel y mae yn esiampl i ni i'w ddilyn; oblegid celr fod yr ysgrifenwyr ysbrydoledig, yn dra mynych wrth son am Grist, yn ei gymhell fel cynllun i ni fod yn debyg iddo. Hyn yw yr amcan yn yr ail bennod o'r epistol at y Philippiaid. Dengys yr Apostol mai y feddyginiaeth rhag ymryson ac anghydwelediad ydyw gostyngeiddrwydd : " Gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain." Nid Euodias yn unig yn rhoddi parch i Syntyche, ond Syntyche yr un modd yn rhoddi yr un parch i Euodias; ac felly pob un yn teimlo parch at yr oll, a'r oll at bob un. Lle byddo y gostyng- eiddrwydd hwn, nis gall fod ymryson nac anfrawdgarwch ; ond y gofyniad ydyw, Pa fodd y ceir ef? Y mae yr Apostol yn ateb, " Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu." Ac yna mae yn canlyn rai o'r adnodau cyfoethocaf yn yr holl Ddadguddiad Dwyfol, oll wedi eu bwr- iada i ddangos Crist fel esiampl, ac i'n