Skip to main content

X DEYSOEÍA. Rhif. 563.] MEDI, 1877. [Llyfb XLVII. YR ANGEL A'R EFENGYL DRAGYWYDDOL. Pregeth a draddodwyd yn y Flwyddyn 1825, gan y diweddar Barchedig john elias. Dadguddiad xiv. 6, 7: '' Ac nii a welais angel arall yn ehedeg yn nghanol y nef, â'r efengyl dragywyddol ganddo, i efengylu i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a Uwyth, ac iaith, a phobl, gan ddywedyd â llef uchel, Oínwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant, oblegid daeth awr ei farn ef; ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a'r ddaear, a'r môr, a'r ffynnonau dyfroedd." Y mae arnaf ofn fod llawer o'r Cymry yn eu hyspeillo eu hunain o'r budd a'r pleser a geir yn llyfr y Dadguddiad, trwy ymgadw rhag ei ddarllen a'ì ehwüio, yn debyg fely gwna'r Pabydd- ion, dan addysg eu noffeiriaid, â holl lyfr Duw. Ni ddarllenant hwy ddim o hono; ac y mae lliaws gyda ninnau nad ydynt ond anfynych, os byth, yn darllen iddynt eu hunain y gyfran hon o air yr Arglwydd, sef, Dadguddiad Ioan y Duwinydd. Meddwl y maent nad oes iddynt ddysgwyl lles a bendith oddiwrth ei ddarllen a'i astudio. Ond y mae ysgrifenydd sanctaidd y llyfr, äan ysbryaoliaeth Duw, yn dywedyd, " Dedwyad yw yr hwn sydd yn darllen, a'r rhal sydd yn gwrando geiriau y brophwydoliaetn hon, ac yn cadw ý pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi." Mae yn wir fod rhai pethau yn llyfr y Dadguddiad ag y mae yn anhawdd pen- derfynu yn eu cylch—anhawdd i'r belrniaid dysgedig yn gystal âg i'r werin—^megys, penderfynu amserau a phrydlau y dygwyddiadau y rhagddy- wedir yn weledigaethol am danynt Ond y mae ynddo athrawiaeth dda 1 hyfforadi, a gwlrioneddau cysurlawn i däyddanu egîwys Crist hyd ddiwedd amser. Mewn tymmorau o erlidf gaeth- au ar yr eglwys, neu o adfelliadau yn yr eglwys, mae Úyfr y Dadguddiad yn werthfawr fel y mae yn cyflwyno syl- feini ffydd a gobaith am lwyddiant achos Duw er, ac ar ol, ie, a thrwy bethau blinion, gan ddangos fel y mae'r nefoedd yn goruwchreoli helyntion y ddaear, i ddwyn ymlaen amcanion mawrlon y prynedigaeth. Os na chan- fyddir tywyniad haul yn ffurfafen Dad- guddiad Ioan yn peri dydd goleu, eto hi a welir wedi ei britho â'r ser dysgleir- iaf, y rhai y mae yn ddifyrus lawn î ni, yn ein hadeg nosol, bwyntio atynt, a cheisio eu gwneyd yn adnabyddus 1 ni ein hunain ac i'n gilydd. Mae'r Uyfr rhyfedd hwn yn cyn- nwys dadguddiad o amgylchiadau eg- lwys Crlst ar y ddaear o'r pryd yr oedd yr apostol Ioan yn ei ysgrifenu hyd y äydd yr ymddengys yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda ei angylìon nerthol, I farnu'r byw a'r meirw, pan y bydd y baradwys a gollwyd yn dyfod eto i ran Êlant Duw, ond yn llawer gwell a elaethach nag ei caed yn Eden. Yn y bennod o'r blaen (y xiil), dar- lunir dau fwystfil erchyll; y bwystfil cyntaf, fe dybygid, yn gosod allan Rufain Baganaidd, a'r ail, Rufain Bab- aidd—Rhufain dan awdurdod eglwysig gau-grifltionogaeth. Ni bu ac nid oea y fath elyn I wir eglwys Dduw âg Eglwys Rhufain. Nid oedd yr erlldig- aethau trwy Rufain Baganaidd, er cyn- ddrwg oeddynt, ond megys chwareu wrth yr erlidigaethau gan Rufain Bab- ". j