Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y. DHYSOIEiIFA. Rhif. 562.] AWST, 1877. [Llyfr XLVII. TRYSOEI AR Y DDAEAR. GAN Y DIWEDDAR BARCH. DAVID MORGAN, CEFNCOEDCYMER. Matthew vi. 19 : "Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear." Y mae esbonwyr yn dd'ieithriad, mor bell ag y gwydäom ni, yn methu pen- derfynu i sicrwydd gysylltiad y para- graph hwn yn y bennod. Y dybiaeth gyffredin yw fod yma ellipsis; rhyw ran o'r bregeth wedi ei gadael aílan ; ac am hyny gosodir ymadroddion i mewn rhwng cromfachau, i wneyd i fyny gysylltiad â chyfanrwydd y bennod. Yr oedd Iesu Grist yn feddyliwr cysylltiol fel pob pregethwr mawr. Y mae unoliaeth a chysylltiad yn ei bregethau ; nid ar y wyneb mae'n wir, eto y mae cysylltiad yn bod rhwng pob rhan â'r oll, a rhwng yr oll â phob rhan. Felly yma; ond beth yw y cysylltìad y mae yn anhawdd iawn penderfynu. Ymddengys i ni mai hyn yw y cysyllt- iad : y gellir edrych ar yr adnod 1 yn y bennod hon fel y testun, yn cynnwys pwnc neu fater y bennod, a'r ymad- roddion sydd yn canlyn feí y bregeth. " Gochelwch rhag gwneuthur eich cyf- iawnder "—cyfiawnder yw y darlleniad goreu, ac nid elusen fel yn y Testament Cymraeg—"yn ngwydd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt; os amgen ni chewch dâl gan eich Tad yr hwn sydd yn y neioedd." Dyna'r testun, sef bydolrwydd. Yn awr am y Tbregeth. Y mae yma dri phen i'r bregeth hon hefyd. Yr oedd Iesu Grist yn codi penau wrth bregethu ; yn dechreu trwy arddangos rhyw egwyddor neu wirionedd cyffredinol, yna yr egwyddor hono mewn amrywioí ■weddau a than wahanol benau. Byd- olrwydd: dyna bwnc neu fater y breg- eth, a'r penau yw y rhai yma. Yn gyntaf, bydolrwydd fel rhagrith ; ac y mae yn traethu arno yn y wedd yna yn y tri pharagraph cyntaf, o adnod 2 hyd adnod 19. Yn ail, bydolrwydd fel trysori; dyna fater paragraph y testun, o adnod 19 hyd adnod 24. Yn dryd- ydd, bydolrwydd fel rhagofalu; dyna fater y paragraph olaf yn y bennoä, o adnod 24 hyd aânod 34. Ail ben y bregeth yw yr hyn y traethir arno yn mharagraph y testun. Y mae bydolrwydd a chrefydd yn cael eu gosod allan yma fel trysori; y naill ar y ddaear, a'r llall yn y nef. Yn wir, amcan yr holl bennod hon yw cymharu a chyferbynu bydolrwydd â chrefydd ; arddangos y tebygobrwydd a'r gwahan- iaeth sydd rhyngddynt. Fel yr awgrym- wyd, y mae bydolrwydd yn cael ei osod allan mewn tair gwedd yn y bennod hon, ac y mae y gweddau hyny yn dy- hysbyddu'r pwnc. Y gyntaf yw byd- olrwydd yn y wedd o gariad at ym- ddangosiad, ac felly yn arwain i ragrith. Bydolrwydd yn y ffurf o drysori, ac felly yn arwain i gybydd-dod, yw yr ail. A bydolrwydd yn y ffurf o orofalu, ac felly yn arwaln i annuwiaeth a phagan- iaeth, yw y drydedd wedd. Dyna bob- peth y byd, a phobpeth bydobwydd gan hyny: y byd yn ei glod; ceisio enwogrwydd bydol—y byd yn ei fedd- iannau ; ceisio trysorau bydol—a'r byd yn eì anghenrheidiau; ceisio bwyd a dillad. Fel y mae yma dair gwedd ar fydolrwydd, y mae yma hefyd dair gwedd gyfatebol ar grefydd, neu, ar