Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

X DEYSOEFA. Rhif. 561.] GORPHENAF, 1877. [Llyfr XLVIL Y BARNEDIGAETHAU I GRIST FEL BRENIN. CRYNODEB O BREGETH A DRADDODWYD GAN Y DIWEDDAR BARCHEDIG "WlLLIAM ROBERTS, AMLWCH. Psalm lxxii. 1: " 0 Dduw, dod i'r Brenin dy farne/ligaethau, ac i Fab y Brenin dy gynawnder." Gweddi yw y geiriau hyn am lwydd- iant teyrnas Crist. Peth. y dylem ei gredu a'i gofio yn wastad ydy w, fod dyg- iad ymlaen achos yr Iesu yn gysylltiedig i raddau mawr â gweddL Ni lwydda yr holl bregethu, yr athrawiaethu, a'r addysgu, ddim heb weddi. Mae achos Crist yn ein mysg ni yn Nghymru wedi ei godi yn uchel iawn erbyn hyn ; ond fe a ä eto yn bur isel mewn gwirionedd, yn isel yn ei bethau ysbrydol, a'i effeithiad er iachawdwriaeth, os collir ysbryd gweddi o'n plith. Ac yn wyneb pob golwg ddigalon, cofier fod gweddi yn ddigon nerthol i daflu caerau i lawr, i ddiffodd angerdd tân, ac i agor beddau er mwyn cael meirw oddiyno yn fyw. Os ydym yn awyddus am gynnydd a goruchafiaeth y freniniaeth a gyfodwyd gan Dduw*r nefoedd, gweddiwn gyda'r Salmydd yma, " O Dduw, dod i'r Bren- in dy farnedigaethau, ac i Fab y Brenin dy ogoniant." Mae'r salm hon o'r un ysbryd a nôd â llyfr Caniad Solomon, ac â'r salmau xlv. a cx., ac felly yn gán i'r Messiah; o herwydd dyna yw y rhanau hyny o'r Ysgry thyrau: cerddi neu ganiadau am y Messiah, wedi eu cyfansoddi cyn iddo ef ddyfod i'r byd ; caniadau iddo ac am dano wedi eu cynhyrfu gan ysbryd prophwydoliaeth; a dyma ni, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd, yn awr mewn cyfleusdra i weled a barnu pa fodd y cyflawnwyd y prophwydoliaeth- au hyny yn Nghrist. Felly am y salm hon: Crist yw ei gwrthddrych mawr, a cheir ynddi hanes ei eglwys ef ymlaen hyd ddydd y farn olaf. Gelwir hi yn y dechre, " Psalm i Solomon;" a gwel- ais rywrai yn darllen, "Psalm Solo- mon," neu " Psalm gan Solomon." Ond y tebygrwydd ydyw mai Dafydd a gyfansoddodd y salm hon, fel y cawn yn ei diwedd, "Gorphen gweddiau Dafydd mab Jesse." Mae yn debyg i Dafydd ei chyfansoddi ychydig amser cyn ei farwolaeth, wedi iddo orchymyn gosod Solomon i eistedd ar orseddfainc breniniaetb Israel, ac wedi i Sadoc yr offeiriad a Nathan y prophwyd ei eneinio yn frenin. Yr oedd Dafydd ar ei wely, a hwnw ei wely angeu, pan glywodd fod ei ddymunìad ynghylch Solomon wedi ei gyflawni, a'i eneiniad i'r deyrngadair wedi dygwydd. Yr oedd ei fab Solomon, hwyrach, yn penünio wrth wely ei hen dad, brenin a pheraidd ganiadydd Israel; a dyna Dafydd yn cyflwyno y bachgen ieuanc, oedd wedì cael eistedd ar orsedd ei dad, i'r Ar- glwydd Dduw mewn gweddi, a Solo- mon, fe allai, yn cofnodi y salm-weddi mewn ysgrifen. Dyma fy mab hwn, fel pe dywedai Dafydd, yn frenin heddyw. A wnei di, O Dduw, ei arddelwi a'i nerthu fel y cyfry w î Tydi yn y nefoedd a biau orseddfainc Israel; nld digon i'r tywysogion a'r bobí gefnogi fy mab Solomon, heb i ti dy hunan roi dy sêl ar hyn, a'i gymeryd yn rhaglywydd drosot. Dysg di ef i lywodraethu, a rhëoled ef dy bobl yn ol dy feddwl a'th gyfraith. " 0 Dduw,