Skip to main content

Y DEYSOEPA. Eìhif. 560.] MEHEFIN, 187< [Llyfr XLVII.' DUW YN DDUW I'W BOBL YN DDIDDIWEDD. Matthew xxii. 31, 32: "Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw." Y MAE'r geiriau hyn yn rhan o ateb yr Arglwydd Iesu Grist i'r Saduceaid, y rhai, fel y Phariseaid a'r Herodianiaid o'r blaen ar yr un diwrnod, a ddaethant ato oddiar hyder ffrostgar, dybygid, y byddai y gofyniad a roddent hwy iddo yn sicr o'i ddyrysa, a thrwy hyny wan- hâu ei ddylanwad gyda'r bobl. Yr oedd y Saduceaid yn gwadu adgyfodiad y meirw, a sefyllfa ddyfodol raewn byd arall; ac y maent yma yn adrodd yr hyn a dybid ganddynt yn ymresymiad anwrthwynebol yn erbyn yr athraw- iaeth hono ar ddull hanes, eithr yr hyn, mae yn debyg, nad ydoedd ond chwedí ffugiol, yn cael ei sylfaenu ganddynt ar un o orchymynion deddf Moses. Yn ol ordeiniad Moses i'r neb a fyddai marw yn ddi-blant, yr oedd, meddynt, saith o frodyr wedi priodi yr un a'r unrhyw wraig yn olynol, y naill ar ol marw y llall; ac i ba un o'r saith, gan hyny, y byddai hono yn wraig yn yr adgyfodiadî Oni byddai y cyfryw amgylchiad yn rhwym o beri annhrefn ac anghysur mawr mewn byd arall, od oedd yn wir y fath sefyllfa i'w dysgwyl? Ond y mae'r Iesu gyda yr hawsder mwyaf yn eu hateb i ddystawrwydd. Mae efe yn gyntaf yn ceryddu eu hanghredìniaeth, gan briodoli eu cyf- eiliomad i'whanwybodaetho'r Ysgryth- yrau, ac o hollalluogrwydd Duw; ac yna y mae yn dangos fod eu cwestiwn yn un gwag ac ofer, gan eu bod hwy yn gwneuthur rhyw anfeithlun ffol o'r adgyfodiad, fel pe nas gallasai fod yn ddim aragen nag ailargraffnd o'r dull presennol o fyw ar y ddaear. Na, yr oeddid i edrych ar y ddeddf y cyfeirient ati, yn perthyn yn unig i'r bywyd hwn. Yr oedd pob peth perthynol i briodas, ac i'r rhywogaethau gwrywaidd a ben- ywaidd fel y cyfryw, yn perthyn i'r ddaear; ac felly yr oedd buehedd yr adgyfodiad yn rhwym o fod o natur hollol wahanol, sef, yn gyffelyb i'r bywyd angylaidd, heb ddim tebyg i gysylltiadau a pherthynasau teuluaidd yn achlysur o eiddigedd na dadL Ae wediunioni eu camolygiad ar yr athraw- iaeth, wele Grist yn y testun yn ei chadarnhâu, a hyny allan o yegrifen- iadau Moses, i'r rhai yr ymddengys fod y Saduceaid yn proffesu y parch mwyaf, ac o ba le, yn ol eu tyb hwy, yr oeddent yn cael yr wrthddadl gryfaf yn erbyn í)yd yr ysbrydoedd a'r adgyfodiad. Gallem nodi fod y geiriau hyn, megys lliaws o eiriau eraill a lefarwyd gan Grist, yn brawf penderfynol o ddilys- rwydd ac awduidod ddwyfol llyfrau Moses, y rhai a welir yn wrthddrychau neillduol ymosodiadau anffyddol ein dyddiau ni. Amlwg yw nad yw yn bosibl gwrthod ysgrifeniadau Moses heb wrthod hefyd awduidod geiriau Iesu Grist. "Ac ara adgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw î" neu, fel y cawn yn Marc, "Oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berthT' 'Gan fod genych yr adroddiad am hyny yn ngair ysbryd- oledig Duw, mae yr hyn a lefarodd efe