Skip to main content

Y DEYSOEPA. Rhip. 558.] EBRILL, 1877. [Llyfr XLVII. ASTUDIO'R BIBL. GAN Y PARCH. J. MORGAN JONES, CAERDYDD. Gobeithio nad oes eisieu argyhoeddi neb o ddarllenwyr y Drysorfa fod y Bibl yn haeddu cael ei astudio, a'i astudio yn drwyadl. Haedda hyny ar gyfrif ei hynafiaeth, ei deilyngdod llen- yddol, a'r safon uchel o foesoldeb a adysgir ynddo, ond yn arbenig am ei fod yn gyhoeddiad awdurdodol oddi- wrth Ly wydd nefoedd a daear i ddadgan ei fwriadau at fyd pechadurus. Pe byddai un o'r taleithiau Prydeinig, ar ol gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth, a chael ei gorchfygu yn yr ymdrech, yn derbyn cyhoeddiad awdurdodol oddi- wrth y Frenines i hysbysu ei bwriadau tuag at y preswylwyr, byddai yr holl wlad mewn cyffro am wybod ei gyn- nwys. Darllenid ef yn fanwl o'r dechre i'r diwedd. Pwysid ystyr pob brawddeg. CrefSd yn ofalus ar bob gair a sill. Ni adawai y trigolion un gàreg heb ei throi tuag at ddeall cyhoeddiad a fyddai yn taflu goleu ar eu dyfodol, ac yn hysbysu pa un ai cosbedigaeth ddiarbed am eu gwithryfel oeddynt i'w ddysgwyl, neu ynte a oedd gobaith am faddeuant ar sail edifeirwch. Cyhoeddiad yn enw Duw i fyd gwrthryfelgar yw y Bibl, yn dadgan ei dosturi tuag atom er ein bod wedi codi ein sodlau i'w erbyn, yn egluro ei drefn rasol i gadw cyfiawnder ei orsedd yn ddilychwin ar y naill law, ac ì estyn maddeuant i'r troseddwr euog ar y llaw aTall, ac yn dangos yT unig vhj s*.*hyd Da un y 8allwn gael adferiad i'w ffafr. O ganlyniad, y mae bod yn anghyfarwydd yn yr Ysgryth- yrau, ac esgeuluso unrhyw foddion fyddo yn debyg o daflu goleu ar eu hystyr, yn anfaddeuol yn mhawb sydd yn credu mewn sefyllfa ddyfodol a chyfrifoldeb i Dduw. Ond, er ein galar, rhaid cyfaddef fod yr Hen Lyfr yn cael ei esgeuluso i raddau pechadurus, a hyny, nid yn unig gan ddynion diofal, sydd wedi ymwerthu i'r byd yn ei gyfoeth a'i fwyniant, ond hefyd gan grefyddwyr proffesedig. Gwell gan lawer ddarllen am y Bibl na darllen y Bibl ei hun. Y mae lliaws yn Nghymru wedi dar- llen cyfrolau dirif ar athrawiaeth yr iawn, ond heb dreulio hanner diwrnod erioed i chwilio beth a ddywed yr Ysgry thy r ar y p wn c. Rhai o'r cy fr olau mwyaf poblogaidd ymhlith ein cymyd- ogion yn Lloegr yw y rhai sydd yn cynnwys crynodeb o Hanesyddiaeth Ýsgrythyrol. Gall llyfrau or natur yma fod yn ddefnyddiol i ryw bersonau dan rai amgylchiadau; ond gwell ac mwy blasus genym ni yn wastad yw darllen yr hanes yn ngeiriau ac ar du dalenau y Bibl ei hun. Pa raid i ni fyned i gyrchu dwfr i bistyll neb, â lîygad y ffynnon yn agored i ni, lle nas gall un ammheuaeth fod am loewder ac iachusrwydd y dyfroedd ì Nid oes diw- edd ar y cyfrolau a gyhoeddir ar "Hanes Bywyd Crist." Mewn un ystyr, dylem deimlo yn llawen oblegid hyn, gan ei fod yn ddangoseg o'r dyddordeb dwfn a chynnyddol a deimla y byd yn Syl- faenydd Cristionogaeth; oud y maent oll yn ymddifad o'r swyn, yr eneihiad nefol, a'r gallu i gynhyrfu dyfnderoedd yr ysbryd, a deimlir wrth ddarllen adroddiad syml a diaddurn y PeJwar Efengylwr. Nid ydym m'or ffol â dadl- eu yn eibyn darllen llyfrau da, ac ar