Skip to main content

X DETSOEPA. Rhif. 557.] MAWRTH, 1877. [Llyfr XLVII. "ONTD HWN YW Y SAER?" Marc vi. 3 : " Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawd Tago, a Joses, a Judas, a Sirnon? ac onid yw ei chwi'orydd ef yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef." Iesu Grist a geir yma yn ddiystyredig gan ei hen gydnabod a'i gyd-drefwyr yn Nazareth, ar gyfrif anenwogrwydd ei deulu, a'i alwedigaeth gyffredin pan yn eu mysg. Mae rhai yn tybied mai yr un ym- weliad â Nazareth oedd hwn â hwnw yr adroddir am dano yn Luc iv., pan ar y sabbath yn y synagog y cyfododd yr Iesu i fyny i ddarllen, ac y rhodded ato lyfr y prophwyd Esaias, ac y dar- llenodd yntau y brophwydoliaeth hono am y Messiah, " Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf, &c," gan ychwanegu, " Heddyw y cyflawnwyd yr ysgrythyr hon yn eich clustiau chwi." Y pryd hwnw wele y rhai oedd yn y synagog, ar ol rhyfeddu i ddechre wrth ei eiriau grasusol, yn ymgynddeiriogi ar ei waith yn cymhwyso'r gwirionedd yn argy- noeddiadol atynt hwy, ac yn myned mor bell a cheisio gwneyd pen am ei einioes. Ond fe dybygid mai cywirach yVr syniad mai ymweliad arall oedd hwn, am ba un y coffhëir hefyd gan Matthew: yr Iesu, yr hwn nad oedd byth yn diffygio yn gwneuthur daioni, heb gymeryd ei ddigaloni gan y gwrth- odiad o hono a'r anfri arno y tro blaen- orol, yn dyfod drachefn "i'w wlad ei hun," sef i Nazareth, lle y magesid ef. Yno ar y dydd sabbath, fel o'r blaen, y mae efe yn athrawiaethu yn y synagog; yn cyhoeddi eto ei genadwri rasol i'r rhai a gawsai mor anhynaws ac anni- olchgar. Ond derbyniad cwbl annheil- wng o hono a roddasantiddo y tro yma drachefn. "Synu a wnaeth llawer â'i clywsant;" nid oddiar gymeradwyo ei athrawiaetb, ond oddiar genfìgen wrth ei allu a'i fedr, a chan gyfeirio yn iselhäol at ei gysylltiadau teuluaidd, a'i ddygiad i fyny yn eu plith. " O ba le y daeth y pethau hyn i hwn ì" meddynt; " a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwnaed y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylaw efî" Nis gallent wadu nad oedd doethineb digymhar yn ei lef- erydd, a nerthoedd digyffelyb ynglýn â'i weithredoedd ; ond yr oeddynt yn methu cysonì hyny â'i iseider gynt. Nis mynent weled a chydnabod y Dwyfol yn y dynol, ac yn enwedig mewn dyn na chawsai fanteision cyf- oeth a dysg. " Hwn !" meddynt, gan bwyntio ato yn ysgornllyd; "hwn !" Y mae efe yn sicr yn dyweyd a gwneyd pethau rhyfedd; ond yr ydym ni yn methu deall pa fodd: " y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylaw ef!" y dwylaw fu yn gweithio gwaith saer yn ein tref a'n cymydogaeth. "Onid hwn yw y saer?" Yn yr adroddiad gan Matthew, ni a ddar- llenwn, " Onid hwn yw mab y saer ì" Yr oedd y bobl hyn yn Nazareth yn arfer y ddau ymadrodd ; ac felly y mae Matthew yn coffhâu y naìll, a Marc y llall. "Onid hwn yw y saer, mao Mair 1" Fe fernir fod Joseph, tad cyf- rifol yr Iesu, wedi marw rywbryd cyn i Grist ddechre ar ei weinidogaeth gy- hoeddus. Ond dyma ei fam eto yn fyw; a gwyddent hwy yn Nazareth nad oedd yno ddim mawredd allanoì, neu rwysg bydol, yn peithyn iddi" "Mab Mair, a brawd Iago, a Joses, a