Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 538.] AWST, 1875. [Llyfr XLV. YSTYRIAETHAU AR ADFYWIAD CREFYDDOL. GAN y parch. lewis edwards, d.d. Hosea. ii 10, 20 : " A mi a'th ddyweddiaf â nii fy hun yn dragywydd; ie, dyweddiaf di â mi fy hnn mewn cyflawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau. A dyweddiaf di â mi mewii flyddlondeb ; a thi a adnabyddi yr Arglwydd. " PENNOD II. Y Dyweddìad. TüAG at ddwyn yr Eglwys yn ol o'i gwrthgiliad, a'i chael yn gysegredig iddo Ef ei hun, ac hefyd er mwyn ei chysuro yn yr anialwch, a throi dyffryn trallod yn ddrŵs gobaith, y mae yr Arglwydd yn rhoddi o'i blaen yr add- ewid fawr hon, y bydd iddo Ef ei dyweddio âg ef ei hun yn dragywydd. Y mae hyn yr un peth a dywedyd y byddai iddo ei phriodi; oblegid yr oedd dyweddio yn cynnwys, nid cytundeb gyda golwg ar briodi, ond y cyfammod priodasol ei hun. Wedi dyweddio Mair â Joseph, " cyn eu dyfod hwy ynghyd," gelwir ef " ei gŵr hi;" a phan feddyl- iodd ef am ei rhoi hi yniaith yn ddirgel, dywedodd yr angel wrtho, " Nac ofna gymeryd Mair dy wraig." Felly yn un o'r adnodau o flaen y testun : " Y dydd hwnw, raedd yr Arglwydd, y'm gelwi, Issi," hyny yw, Fy Ngŵr. Y mae rhai wedi sylwi nad oes un crybwylliad am y cyfammod hwn yn llyfrau boreuaf yr Hen Destament, ac mai yn y Salm xlv. y dadguddiwyd y gwirionedd hwn gyntaf i'r Eglwys. Yr oedd sôn mynych am gyfammod ; ond un peth yw cyfammod, a pheth arall yw cyfammod priodasol. Y mae cyfam- mod rhwng y meistr a gwas ; ac nid yw yn ymddangosfod Abraham na Moses wedi gweled mwy na hyn. Yr oedd yn ihaid dysgu yr Eglwys am filoedd o flynyddoedd; yr oedd yn rhaid iddigyr- haedd syniadau eglurach am Dduw yn y cnawd, cyn y gallasai dderbyn y meddwl am briodas rhwng y Crëawdwr a'i grëaduriaid. Ond ryw ddiwrnod, nid ydym yn gwybod yn sicr trwy bwy fel ysgrifenydd, nac ar ba achlysur, dacw y meddwl hwn yn ddadguddiedig i'r oyd mewn salm, ac yn crëu cyfnod newydd yn mhrofiad yr Eglwys. Wedi ei gael, gorfoleddai yr Eglwys ynddo ; cyfansoddwyd un llyfr o gân sanctaidd i'w osod allan; y prophwydi a'i cy- hoeddent fel cysur penaf y saint; Ioan Fedyddiwr a ymffrostiai yn ei swydd fel cyfaill y Priodfab ; cyfeirir ato yn rhai o ddammegion Crist ei hun ; y mae iddo y lle uchaf a phwysicaf yn rhai o'r epistolau ; ac y mae yn taflu llewyrch dysglaer ar rai o'r prophwydoliaethau tywyll yn llyfr y Dadguddiad. Ond os cymerwn y Testament Newydd i es- bonio yr Hen, gwelir mai Duw yn mherson y Mab sydd yn priodi yr Eglwys. Ac y mae hyn yn amlwg hefyd yn y Salmau a Llyfr y Caniadau. Yn eu perthynas â'r Tad, y mae y saint yn feibion; ond yn eu perthynas â'r Mab, y maent wedi eu crynhoi yn un ddyweddi, yn briodasferch, yn wraig yr Oen. Felly ni a gymerwn yn ganiatäol am y geiriau hyn yn Hosea mai Duw yn mherton y Mab sydd yn dywedyd, " A mi a'th ddyweddiaf â mi fy hun yn dragywydd." Am fod y gair "dyweddio" daŵ gwaith yn yr adnodau hyn, barnai rhaì