Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. 537.] GORPHENAF, 1875. [Llyfb XLV. Y8T7RIAETHA.U AR ADFYWIAD CREFYDDOL. GAN Y PARCH. Í.EWIS EDWARD3, D.D. Hosea ii. 14, 1 j : " Am hyny wele, mi a'i dènaf hi, ae a'i dygaf i'r anialweli, ac a ddy.vedaf wrth fodd ei chalon. A mi a roddaf iddi ei gwinllanoedd o'r fan houo, a dytfryn Achor yn dárŵs gobaith ; ac yno y càn hi, fel yn nyddiau ei hieuenctyd, ac niegys yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aipht." Pennod I. Y Parotöad. Nid oes dim sydd sicrach na pharod- rwydd Duw i dderbyn pwy bynag a gredo yn y Mab, ac y dy lid cymhell pawb i ddyfod at Grist fel y maent, heb aros i geisio gwella eu hunain, nac i gael eu gwella gan yr Ysbryd Glân cyn myned at Grist. Dyma galon ac enaid yr efengyl, fod Crist yn derbyn pob un a ddêl ato, ac mai trwy Grist y mae yr Ysbryd yn aileni, ac yn sancteiddio. Gall hyn ymddangos yn anghyson â'r geiriau ucaod a lefarodd yr Arglwydd trwy y prophwyd, yn y rhai y sonir am barotöad ar yr eglwys cyn y bydd i'r Arglwydd ei dy weddio âg ef ei hun; ac eto nid yw hwn ond un o'r anghyson- derau ymddangosiadol, heb fod felly mewn gwirionedd, y rhai y cyfarfyddir â hwynt mor fynych yn yr Ysgrythyr. Y mae cyfiawnhâd a sancteiddhâd yn dyfod o Grist; a'r ffordd y maent yn dyfod o Grist ydyw trwy ffydd; ac os trwy ffydd, yna nid trwy weithred- oedd mewn un modd nac mewn un rhan. Ond ar yr un pryd, y mae argy- hoeddiad o bechod, ac edifeirwch am bechod, i fod mewn crefydd ; ac y mae yn rhaid ymdrechu i fyned i mewn trwy y porth cyfyng, a marweiddio gweithredoedd y corff trwy yr Ysbryd. Dygir y ddau wirionedd cyferbyn- iol i gylch bychan gan yr Apostol Paul mewn amryw fanau, megys yn Phil. ii. 12, 13 ; " Gweithiwch allan [hyny yw, gweitjiiwch yn drwyadl] eich iachawd- wriaeth eich huuain trwy ofn a dy- chryn; canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef." A chyn hyny y mae wedi ysgrifenu yn Galat. ii. 20 : " Canys yr wyf fi trwy y ddeddf wedi marw i'r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw. Mi a groeshoeliwyd gyda Christ; eithr by w ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi ; a'r hyn yr ydwyf yr awrhon ya ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydä Mab Duw, yr hwn a'm carodd ac a'i dodes ei hun drosof fi." Un prawf o ddwyfoldeb y Bibl yw y cydbwysedd a roddir ynddo i'r ddau wirionedd yma; oblegid tuedd yr eglwys ymhob oes ydyw cymeryd y naill ar wahân oddi- wrth y llall, yr hyn sydd wedi arwain yn fynych i gyfeiliornadau gofidus. Ar un llaw, gosodid allan ryw waith o'r eiddom ni, neu o eiddo yr Ysbryd ynom ni, fel un o'r elfenau hanfodol yn y cyfiawnhâd ; ac yr oedd y rhifedi mwyaf hyd yn nôd o'r Puritaniaid yn dysgu fod yn rhaid i ddyn aros i gael bywyd newydd cyn myned at Grist, heb ystyried mai o Grist y mae bywyd yn dyfod. Ac y mae y duedd hon yn gryfach drachefn mewn cysylltiad â sancteiddhâd, gan mor barod ydym i feddwl fod ein dechreuad a'n cynnydd mewn sancteiddrwydd yn dyfod trwy ein hymdrech ni ein hunain, ac "nid trwy flfydd Mab Duw." Fel hyn yr