Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSOHFA. Rhip. 536.] MEHEFIN, 1875. [Llyfr XLV. Y DDINAS NEFOL HEB IDDI DEML OND DUW A'R OEN. Dadguddiad xxi. 22 : "A theml ni welais ynddi ; canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw ei theml hi." Yr ydym yn cael yn y bennod ryfedd hon ddarluniau mawreddus o'r ddinas sanctaidd, y Jerusalein newydd, yr hon a welodd Ioan yn dyfod i waered o'r nef oddiwrth Dduw—yn cael ei dal, fel pe byddai yn yr awyr, yn gyflëus iddo ef edrych yn fanwl arni, fel ag i allu cofnodi ei hansoddau ardderchog. Y mae rhai yn esbonio hyn am eglwys Crist yn ei llwyddiant milflwyddol, pan y bydd y ddaear yn llawn o wybodaeth a gogoniant yr Arglwydd. Ond y farn fwyaf cyffredin ydyw mai desgrifiad arwyddluniol sydd yma o'r eglwys yn ei gogoniant nefol a thragywyddol. Dyna y golygiad mwyaf naturiol, fel y tybygem ni, oddiwrth sefyllfa'r weled- igaeth hon yn y llyfr hwn o weledig- aethau. Mae hi yn dyfod i mewn ar ol gweledigaeth y farn olaf; ac y mae gweledigaeth y farn yn dilyn gweledig- aeth rhwymiad Satan a theyrnasiad y saint am y mil blynyddoedd. Ac y mae, hefyd, y gwynfydedigrwydd a osodir allan ynglŷn â'r Jerusalem newydd, yn ymddangos yn rhy bur a digymysg i'w fwynhâu mewn un cyflwr ar y ddaear, hyd yn nôd yn nyddiau'r münwyddiant: pob dagrau wedi eu sychu, pob melldith wedi ei symud ymaith, pob aflendid wedi ei gau allan, ie, "a marwolaeth ni bydd mwyach." Yn ddiau, rhaid mai portrëad o'r nef- oedd yw hyn, ac nid o'r ddaear. Felly hefyd arbenigrwydd y wlad well yw hyn: " A theml ni welais ynddi; canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw ei theml hi;" canys nis gall- wn feddwl am un tymmor ar y ddaear pan na bydd ar gristionogion eisieu teml weledig—pan y bydd yn ddi- anghenrhaid iidynt am gysegroedd neu addoldai, ac yr elont uwchlaw ymarfer âg ordinhadau a defodau crefyddol. Mae yn ddiau fod hybarch weledydd Patmos yn lliosog ei adgofion am yr hen Jerusalem; ac felly gwyddai yn dda mai ei theml oedd yr adeilad hynotaf, penaf, a gwychaf ynddi, a'r hon oedd yn rhoddi iddi yr enw o ddinas a phalas y Brenin Mawr. Yn awr, dyma efe yn cael ei anrhydeddu â gweleäiad o'r Jerusalem newydd : y ddinas oedd â'r gemau gwerthfawrocaf, a'r rhai hyny oll yn grugiau mawrion, iddi yn sylfeini; y mûr o'i hamgylch wedi ei wneyd o'r gemfaen jaspis, a'i heol fawr, oedd yn gannoedd o fìlldiroedd o hŷd, wedi ei phalmantu âg aur pur, a hwnw yn dysgleirio fel gwydr glöew. 0 fewn y fath ddinas ogoneddus, gallasai ddysgwyl cael gweled teml annhraethol ysblenydd, ac un llawer mwy ei maint na theml fawr gweledigaeth EzecieL Ond er craffu ar a chwilio drwy yr holl ddinas, ni chanfu efe ynddi yr un adeilad neillduol yn deml. " A theml ni welais ynddi." Ai nid oedd hyny yn ddiffyg nodedig ynddi ? O n»c oedd ; o herwydd yn lle myned i deml Dduw, mae ei phreswylwyr ,yn cael Duw ei hun yndeml: "Yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a'r Oen, yw «i theml