Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhip. 535.] MAI, 1875. [Llyfr XLV. CREDINWYR YN GWNEYD I FYNY GORFF DIRGELEDIG YR ARGLWYDD IESU* GAN Y PARCH. JOHN LEWIS (Homo Ddu), CAERFYRDDIN. 1 Corinthiatd xii. 27: "Eichr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran." Un o brif wirioneddau y bennod hon yw, mai amrywiaeth mewn unoliaeth yw deddf fawr yr Eglwys Gristionogol, neu gorff dirgeledig yr Arglwydd Iesu; a bod amrywiaeth nid yn unig yn gyson â'r meddylddrych o unoliaeth, ond yn hanfodol er cyfansoddi undod yr eglwys. Cyfunir y ddwy egwyddor hyn ymhob corff; gwelir hwynt yn amlwg yn y corff dynol, yr hwn a ddefnyddir yma fel arwyddlun i osod allan yr eglwys fel corff Crist. Y mae y gwahanol ranau a berthyn i'r corff naturiol wedi eu huno yn y fath fodd fel ag i ffurfio un cyfanwaith. Ond er fod y corff yn nn, eto cynnwysa lawer o aelodau; ac y mae yr amry wiaeth yma yn hanfodol i unoliaeth y corff; oblegid pe na chyn- nwysai lawer o aelodau, ni byddai yn un corff cyfluniaidd. "Felly y mae Crist hefyd," ebe'r apostol; hyny yw, y Crist dirgeledig, sef yr eglwys. Y mae yr eglwys yn un, ac eto y mae iddi ael- odau lawer, a chan bob aelod ei swydd a'i ddawn ei hun ; ac awgrymir gan yr apostol yma fod sail yr holl amry wiaeth doniau hyn yn y dalent naturiol oedd gan bob un o honynt. A rhag i un brawd ddiystyru brawd arall a ddygwyddai fod yn llai ei ddawn nag ef, dywed yr apostol fod yr holl ddoniau wedi dyfod o'r un ffynnonell, en bod oll wedi dyfod o'r un Ysbryd, a'u bod yn cydweithio er dwyn oddi- •Traddodwyd y sylwadau hyn yn Nghyfarfod Ordeinio Oymdeithasfa Awst, 1874, yr hon a gyn- naliwyd yn Mhontrhydfendigaid. amgylch yr un amcanion goruchel; adeiladu y saint, gwasanaethu Crist, a gogoneddu Duw. "Eithr chwychwi ydych gorff Crist, ac aelodau o ran." Credinwyr yn gwneyd i fyny gorff yr Arglwydd Iesu yw mater y geiriau hyn. 1. Mae yr eghoys yn gorff Grist am fod ei byioyd ysbrydol hi, fel yr eiddo ei Phen, yn deillio o, ac yn sylfaenedig ar, y dirgelwch a elwir yn y Bibl yn ei berthynas â chredinwyr yn " adgenedliad," ac yn ei berthynas â Christ ei hun yn genedliad tragywyddol. Edrychir ar yr eglwys, a Uefarir am dani yn y Testament Newydd, fel corff Crist, am mai Efe yw ei Phen, ac am fod ei fywyd a'i natur yn treiddio trwyddi ; ond nid dyna'r gwirionedd a ddysgir gan yr apostol yn y bennod hon. Y gwirionedd a gyflwynir i'n sylw yn adnod 13eg yw mai trwy fedydd, hyny yw, bedyäd yr Ysbryd Glân, adgenedliad ysbrydol, neu gyf- ranogiad o'r bywyd Dwyfol, y mae credinwyr yn cael eu gwneuthur yn gorff yr Arglwydd Iesu. Os dadleuir fod yr ymadrodd, "Trwy un Ysbryd y bedyddiwyd ni oll i un corff," yn cynnwys cyfeiriad at yr or- dinhâd o fedydd, yna y mae yn rhaid i ni edrych ar yr ymadrodd olaf yn yr ad- nod, " Ac ni a ddiodwyd oll i un Ys- bryd," fel yn cyfeirio at sacrament swper yr Arglwydd. Ond nid yw cys- trawen yr adnod, nid yw amser (tense) y ferf a gyfìeithir " diodwyd," yn can- iatâu yr esboniad hwn. Y mae y ddwy