Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. 534.] EBRILL, 1875. [Llyfr XLV. Y GOLLED A'R AD-DALIAD. PREGETH A DRA.DDODWYD YN NGHYFARFOD MISOL ABERPORTH, CHWEFROR 11, 1875, MEWN CYFEIRIAD AT FARWOLAETHA.U Y PARCHEDIGION JOHN JONES, BLAENANERCH, A DANIEL DAVIES, TANYGROES. GAN Y PARCH. JOHN EVANS, ABERMEUFJG. Esaiah vi. 1: " Yn y flwyddyp y bu farw y brenin Uzziah, y gwelais hefyd yr Arglwydd yn eistedd ar cisteddfa uchel a àyrchafedig, a'i odre yìi llenwi y deml." Y mae Uzziah yn un o'r breninoedd hyny ar Judah y dywedir am danynt eu bod wedi " gwneutlmr yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Arglwydd." Pa nior bell bynag y mae hyny yn myned i brofi duwioìdeb, y mae yn debyg o fod yn golygu cymeriad moesol da mewn cyferbyniad i'r rhai y dywedir am danynt eu bod wedi £ígwneuthur yr hyn oedd ddrwg yn ngolwg yr Ar- glwydd." Dywedir iddo "geisio yr Arglwydd" tra fu byw y prophwyd duwioí Zechariah, ac i'r Arglwydd o'r herwydd ei lwyddo. Mae yn wir fod hyny yn awgrymu cyfnewidiad er gwaeth ynddo ar ol marwolaeth ei ar- weinydd ; eto, nid ydym yn cael hanes iddo wrthgilio oddiwrth Dduw mor bell â'i dad Amaziah, na Joas ei dadcu, trwy fyned at eilunaddoliaeth. Mae y cyn- nyg ffôl a wnaeth at arogldarthu yn y deml, am yr hyn y taräwyd ef â gwa- hanglwyf hyd ddydd ei farwolaeth, yn myned ymhellach i brofi y diffyg o Byniadau cywir am grefydd na'r diffyg o deimlad da tuag ati. Gall y taro â gwahanglwyf hefyd gyfranogi yn fwy o gerydd tadol ar blentyn er mwyn ei weÜâu nag o gosbedigaeth ar ddyn an- nuwiol rhyfygus. Nid ei daro â marw- olaeth a gafodd, ond ei daro hyd ddydd ei farwolaeth, fel y cafodd amser i droi at y Duw a geisiodd am ran fawr o'i oes. Mae sefyllfa lwyddiannus crefydd yn ei ddyddiau yn cael ei benderfynu gan y ffaith i bedwar ugain o offeiriaid, gydag Azariah yn arweinydd arnynt, feiddio argyhoeddi y brenin am ei bechod yn ei wyneb, a'i hollol rwystro i arogldarthu. Ac er ei bechod ef yn awr, mae yr un ffaith yn profi ei fod yntau ar hyd ei oes wedi bod yn bleidiol i'r deml a'i gwasanaeth, onidê ni buasai yno gymaint o allu sancteiddrwydd i'w rwystro ef i gyflawni yr hyn a fwriad- odd. Beth bynag, uchelgais penaf ei fywyd ef oedd dyrchafu y deyrnas i anrhydedd a dylanwad mewn ystyr wladol; a llwyddodd i wneyd hyny i'r fath raddau fel na fu teyrnas Judah mewn cymaint o fri er dyddiau Solo- mon. Defnyddir ymadroddion fel y rhai hyn i ddangos ei lwyddiant: "Efe a ymgryíhäodd yn ddirfawr, a'i enw ef a aeth ymhell; canys yn rhyfedd y cynnoithwywyd ef nes ei gadarnhâu." Mae pob peth yn dangos mai nid peth bychan i'r wlad oedd colli brenin mor ddefnyddiol â hwn—un a'i cododd i sefyllfa mor gadarn a chlodfawr, fel yr oedd ei harswyd ar yr holl genedl- oedd cylchynol. Mae rhai yn meddwl mai ei farwolaeth i ddefnyddioldeb, pan daräwyd ef â gwahanglwyf, a feddylir; ac mai yn ganlynol i wroldeb yr offeir- iaid, ac yn wobr am hyny, yr ymddan- gosodd Duw fel yma yn y deml. Gallai hyny fod; ond nid oes anghen am y fath olygiad er mwyn profi cysondeb yr adnod 'hon â'r adnod gyntaf yn y llyfr,