Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CULXXXyiII.] RHAGF5TR, 1870. [Llyfr YR OES HON A'R OES O'R BLAEN YN EU PERTHYNAS A METHODISTIAID SIR GAERNARFON. Gan y Parch. Hugh. Roberts, Bangor. Pennod VI. BLAEN0RIAID YR OES O'R BLAEN. Cafodd yr eglwysi yn yr oes o'r blaen eu breintio â blnenoriaid oedd yn anrbydedd ac yn feudith i'r enwad. Hufen yr eglwysi oeddynt. Yr oeddent, gan mwyaf yn y sîr hon, yn fy amser i, yn benafgwyr, yn ddyn- ion synwyrol, pwyllog, doeth, gwybodus, crefyddol, a dylanwadol- Y mae yn wir nas gellir dyweyd hyn am yroll o honynt; ond yr wyf yn tybio y geliir ei ddyweyd am y mwyafrif o honynt. Yr oedd gwa- hanol ddoniau yn eu mysg hwy, ac yr oedd ganddynt eu gwahanol safleoedd yn eu perthynas â Chyfarfodydd Misol y sîr a'r Cymdeithasfäoedd. Byddai amgylch- iadau, ynghyda chymbwysderau personol rhyw ddosbarth yn eu plith, yn caniatâu iddynt wasanaetbu yn amlach yr eglwysi y perthynent iddynt fel eu cynnrychiolwyr yn Nghyfarfod Misol y sîr, ac hefyd gwas- anaethu y Cyfarfodydd Misol fel eu cen- adon yn y Gymdeithasfa Chwarterol. Yr oedd anghenrheidrwydd am hyn er mwyn cael cydweilhrediad rhwng blaenoriaid a gweinidogion yn nhrefniant yr hyn a herthynai i'r cyfundeb. Yr oedd dîogelu gweinidogaeth deithiol i'r sîr yn rhan bwysig o'u gwaith; ac nid oedd un man yn fwy manteisiol i hyny na'r Cyradeithas- fâoedd. Yr oeddynt yn ofalus iawn hefyd yn y dyddiau hyny i gadw undeb rhwng y Deheu a'r Gogledd, yr hyn a ystyrid o fawr bwys er llwyddiant yr achos; canys yr oedd doniau y Deheudir mewn bri mawr yn y Gogledd, a doniau y Gogledd yn dra dylanwadol yn y Deheudir. A buont yn dra llwyddiannus i hynyma yn yr oes o'r hlaen. Yr oedd dosbarth arall o fiaenoriaid yn fwy cartrefol a Ueol, ond yn myned i Gyf- arfodydd Misol yn achlysurol, ac i'r Cym- deithasfäoedd yn ddamweiniol. Yr oedd y blaenoriaid, fel y gallesid tybied, ao fel y maent yn bresennol, yn llawer mwy llioaog na'r pregethwyr. Yr oedd llawer o eglwysi trwy y wlad heb yr un pregethwr neu weinidog yn eu plith yn cartrefu; nid oedd yno i lywio ond blaenoriaid yn unig, fel nas gallasai Paul, na'r un gweinidog arall, pe buasai yn byw yn yr oes o'r blaen, gyfeirio ei lythyr at nifer fawr o eglwysi yr oes o'r blaen yn y sîr hon fel y gwnai yn ei ddydd at eglwys Phiiippi: "Paul a a Timothëus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yn Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philippi, gyda'r esgobion a'r dîaconiaid." Ond y mae yn hawdd penderfynu mai am- gylchiadau a barai y diffyg hwn, ao nid syniadau; o herwydd yr oedd y blaenor- iaid yn gwneyd pob ymdrech oedd yn eu gallu i gyflenwi y diffyg hwn oedd yn an- ocheladwy yn yr oes hono trwy brinder pregathwyr, yngbyda'r oysylltiad oedd rhwng pregethwyr â'u galwedigaethau a'u masnach. Os dygwyddai dau bregethwr fod yn yr un ardal, ao yn pertbynu i'r uu society, byddai yn anhawdd symud un o un eglwys i eglwys arall oedd heb breg- ethwr, o herwydd cysylltiad pregethwr â'i alwedigaeth neu fasnaoh yn y fan lle yr oedd yn aros. Byddai y blaenoriaid yn gwahodd y pregethwyr oyfagos i'w cyn- northwyo mewn cyfarfodydd eglwysig, ac yn eu cydnabod am hyny yn null yr oes hono; ac mewn manau eraill byddent yn trefnu cyfarfodydd eglwysig ar nos Sadwrn, er fod hyny yn anghyfiëus, er mwyu dîogelu presennoldeb y pregethwr a fyddai yn eu gwasanaethu ar y sabbath. Byddai blaenoriaid yr oes o'r blaen yn dra gofalus ynghylch yr athrawiaeth, ar ei bod hi yn ol cysondeb y ffydd gan y preg- ethwyr. Byddai mwy o sylw yn cael ei dalu i hyn o'r braidd nag i gymhwysderau gweinidogaethol y pregethwr. Y raae yn wir fod nifer fawr o'r, blaenoriaid yo y dyddiau hyny yn ddynion oraffus, a chai-