Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. RaiF. CULXXXVII." TACHWEDD, 1870. [Llyfr XXTTT.Ì Y CYFARFODYDD EGLWYSIG, A'R DULL GOREU" I'W CYNNAL. ] [Papyr a ddarllenwyd o flaea y Gymanfa Gyífredinol yn Aberhonddu, Gorph. 14eg, 1870, yn unol â phenodiad y Gyinanfa Gyffredinol yn Liverpool, 1869: ac a gyhoeddir ar gais y Gymanfa yn Aberhonddu. ] GAN Y PARCH. GRIFFITH PARRY, LLANRWST. Nid oes ar neb yn Nghyfundeb y Meth- odistiaid Calfiaaidd anghen am eglurhâd ar ystyr yr enw "Cyfarfod Eglwysig." Er hyny, fe geir yn gyffredin fod dar- nodiad o fater, pa mor hysbys bynag, yn fantais i ymdria âg ef, ac yn gyn- northwy yn fynych i ffarfio syniadau mwy cHr a chywir am dano. Ni fuasai yr enw Gyfarfod Eglwysig ddim yn cyflëu yr un ystyr ymhob gwlad Gristionogol â'u gilydd, nac ymhob cyfundeb Cristionogol yn yr un wlad. Mewn rhai gwledydd a chyfun- debau, nid yw yr enw yn bod o gwbl, a hyny am nad yw y peth ei hunan yn bod, o leiaf yn yr ystyr ag yr ydym ni yn ei rhoddi iddo. Mewn engreifftiau eraill, fe geir yr enw, ond y mae y peth a gynnrychiolir ganddo yn dra gwa- hanoL ac yn îsraddol hefyd, fel yr ydym yn tybied, i'r hyn a ddeallir genym ni wrth Gyfarfod Eglwysig. A chan ein bod yn meddwl hyn, hwyr- ach na waeth i ni ei ddyweyd ar un- waith—ac eto ni fynem mewn un modd ei ddyweyd mewn ysbryd o ymffrost sectaiäd na chenedlaethol, ond yn nnig fel pwnc o hanes—fel mater syml o ffaith—fod y Cyfarfod Eglwysig yn ei wir ystyr ac yn ei ífurf uchaf, yn blàuhigyn sydd wedi tyfu yn naear Cymru, ac yn naear Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Ond er ei fod wedi dechreu yn ein plith ni, nid ydym am ei gyfyngu i ni eìn hunain, Ÿ mae i ni, aelodau y cyfundeb hwn, o'i sefydliad cyntaf hyd yn awr, trwy gyfrwng y cyf- arfodydd hyn, gymdeithas felus â'n gil- ydd—"ein cymdeithas nì yn yr ef- engyl:" a dymunem argymhell bûddy cyfarfodydd hyn, pe gallem, ar ein cyf- eillion crefyddol ymhob cyfundeb a gwlad, yn yr un ysbryd ag yr oedd yr Apostolion am arwain y credinwyr boreuol i gydnabyddiaeth fanylach â hanes y Gwaredwr—"fel y caffont hwythau hefyd gymdeithas gyda ni." Mewn un ystyr, gellid galw pob cyf- arfod crefyddol yn Gyfarfod Eglwys- ig. Y mae yn wir foä yr olwg yma yn cael ei chymeryd gan un cyfundeb yn ein gwlad oddiar egwyddor gyfeil- iornus. Yn ol syniad y cyfundeb hwnw,—am fod eu Heglwys hwy yn sefydledig trwy gyfraith y tir, ac felly yn un â'r wladwriaeth, edrychant ar yr eglwys fel yn gyfled â'r genedl; ac ystyrir y deiliaid yn gyffredinol fel rhai wedi derbyn bedydd Cristionogol, yn Gristionogion, ond fod nifer mawr wedi gwerthu eu genedigaeth«fraint, ac yn byw ýn annheilwng o'u breintiau a'u proffes,—^naill ai trwy fuchedd anfoesol ac annuwioldeb amlwg,—^neu ynte^(yr hyn sydd lawn mor ddrwg gellid meddwl yn nghyfrif rhai, os nad yn wir yn fwy anobeithiol) trwy grwydro o'r gorlan Eglwysyddol, a chyfrgolli yn anialdir- oedd Ymneillduaeth. Yn ol y syniad hwn, y mae pob cynulliad o eiddo uyr Eglwys" yn gyfarfod o aelodau eglwysig 1 Y mae yma gyfeiliornad dyblyg: cyf- yngu eglwys Crist yn y wlad i'w cyf- undeb eu hunain, ac ar yr un pryd, di- lëu y gwahaniaeth Ysgrythyrol rhwng y byd a'r eglwys. Ond fel yr awgrymwyd, y mae ystyr wir yn bod, yn yr hon y gellid edrych ar bol» cyfarfod crefyddol yn Gyfar- fod Eglwysig. Mewn unrhyw gyn- nulliad i addoii Duw ac i gyfranu addysg grefyddol, y mae yr Eglwys yn bresen-