Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORPA. Rhif. CCLXXXIV.] AWST, 1 70. [Llyfr m/ TAITH 1 WLAD CANAAN. Oan Mr. Thomas Lewís, Bangor. PENNOD VIII. BoitEü Lluu y Pasc, cyehwyuasom am daith o bedwar diwrnod i ymweled â Je- richo, yr Iorddonen, y Môr Marw, a Heb- ron. Hon yw y daith fwyaf beryglus yn Palestiua, a hyny, o bosibl, am fod cynifer o'r Bedouins yn arfer gwersyllu yn nghym- ydogaeth yr Iorddonen. ÎTid oe3 neb yn myned i'r dath hon heb osgordd o filwyr oddiwrth y llywodraeth i'w hamddiffyn, ac y mae y llywodraeth hefyd trwy hyny yn myned yn gyfrifol ped yspeilid hwy. Wrth fyned o Jerusalem i Jericho gynt y syrth- iodd y gŵr hwnw ymysg lladrou, pryd y cymerodd y Samaritau drugaredd arno; a dyma y fan y mac mwyaf o berygl gwneyd yr un peth hyd y dydd hwn. Wedi rhyw awr o waeddi, ymrafaelio, ac yinryson am y ceffylau a'r cyfrwyau goreu, cychwynas- om allan o'r ddinas trwy borth Stephan. Yr oedd wyth o honom heblaw y drago- man a phedwar o tìlwyr ; yr ocdd dau o'r rhai hyn ar feircb, a gwaewffon fawr oddeutu tair llath o hyd gan bob un, a'r ddau arall ar draed â gynau mawr ar draws eu cefnau. Yr oeddym oll yn arfog, gwr- ogys lledr am ein canol, a'r revolvcr yn rhwym wrth un ochr, a'r bwlèdi a'r pow- dwr mewn llogell wrth yr ochr arall. Aethom dros afon Cedron a mynydd yr Olewydd, a thrwy bentref bychan Bethan- ia, a'n hwyneb tua'r dwyrain am Jericho. "Myned i waered o Jerusalem i Jericho " a raid yn awr fel cynt. Y mae Jericho, yr hon sydd ar wastadedd yr Iorddonen, yn sefyll yn llaweriawn îs na Jerusalem. Saif Jerusalem 2,500 o droedfeddi uwchlaw wyneb Môr y Canoldir ; ond y mae y Môr Marw—ac nid yw Jericho ymhell oddi- wrtho—yn 1,300 troedfedd islaw ei wyneb ; felly rhaid ei fod agos i bedair mil o droed- feddi yn îs na Jerusalem. Yr oedd y llwybrau yn ddrwg iawn, yn garegog, llitimg, a pheryglus; ofnem braidd bob mynyd i'r anifeiliaid syrthio danom. Mae y myny ldoedd yr ochr hon i Jensalem yn dra gwahanoli'rrhaiyrochrarall; ynllawer mwy llwm a diffrwyth ; y cymydogaethau hyn a elwid gynt yn "ddiffaethwch Julea," Wedi teithio rhyw ddwy awr, daethom i'r fan yr yspeiliwyd, y dynoethwyd, ac y clwyfwyd Syr Prederick Henniker gan y Bedouaid yn 1320, ac y gadawsant ef fel un marw. Yn fuan yr oeddem yn teithio amyspaidar hydgwely afon Cerith, o'r hon yr yfai Elias gynt, pan ddygai y gigfran iddo fara a chîg y boreu, a bara a chîg y prydnawn. Yma hefyd y mae dyffryn I Achor, yn yr hwn y llabyddiwyd Achau a'i | deulu o herwydd y llafn aur a'r fantell Babilouig dêg. Rywbryd ar y daith, taen- I wyd y mat mewn hen furddyn ar ben 1 myuydd, er i ni orwedd arno. Yna agor- | odd Joseph, y dragoman, yr hen sach fawr I yr eisteddai arni ar gefn ei farch, a'r hon | oedd fel walct yn cynnwys ystôr o ymborth ! a llestri blith draphlith yn ei dau ben, a I thynodd allan y lunch. Yr oedd ganddo fara a dwfr, a lliaws mawr o ŵyau a chyw- I ion wedi eu berwi yn Jerusalem cyn cy- | ehwyn, &c.; a thrwy fod gan bawb ar- chwaeth dda, gwnaethom hollol gyfìawnder â'r trugareddau. Yn fuan cyrhaeddasom i waelod y bryn- iau, ac i gẁr dyffryn yr Iorddonen; ac wedi troi ychydig ar ein llaw chwith, gwelem ein pebyll, ynghyda rhai perthynol i gwni arall o deithwyr, wedi eu codi ar ryw domenydd mawrion, gwỳnion, o ad- feilion rhyw hen ddinas fawr ; a'r ddinas hono oedd Jericho. Adfeilion perffaith yw yr 'hen Jericho yn awr, heb un tỳ nac adeilad o un math arni. Y mae pentref bychan, tlawd, ryw filldir o'n blaen, ar y gwastad- edd, o'r enw Rjíha, yn sefyll ar y fan lle yr oedd Jericho y Testament Newydd, yn yr hon y bu Crist a'i apostolion, a lle y pre- swyliai Zacchëus. Ond yn y fan hon yn, ddiddadl y safai Jericho yr Hen Destameat.