Skip to main content

Y DRYSORFA. UaiF. CULXXXIII.] GORPHEtfAF, 1870. [Llyfr XXÍÍ. ADGOFION, HANESION, AO AWGRYMIADAU. GAN 7 PIRCH. THOMAS PHILLIPS, D.D. Pennod II. Yr oeddwn yn ddarllenwr cyson o'r " Cronicl Cenadol," ar ddiwedd yr i: Evangelical Magazine;" ac nid oedd dim yn fy nghynhyrfu yn fwy na hel- yntion y cenadau yn Affriea ac ynys- oedd Môr y Dê. Teimlais awydd cryf i fyned yn genadwr i Ddeheudir Affrica; i ddyweyd am Iesu Grist wrth yr Hot- tentots oedd fy nymuniad mawr. Yr oedd hyn yn cael ei ddeall gan y brod- yr ; ac yn fuan fe ddywedwyd wrthyf fod yn anghenrheidiol i mi arfer f'y nawn i gynghori ychydig gartref cyn cymeryd y mesurau arferol i ddwyn yr achoso flaen Cyfarwyddwyr Cymdeithas Genadol Llundain, i'r hon y perthynai y Methodistiaid o'r dechreuad. Yr oedd hyn yn agor byd newydd o flaen fy nieddwl; pregethu, a minnau mor ieu- anc, diwy bodaeth, a dibrofìad! Fe ddygwyd yr achos o flaen y society, ac oddiyno dygwyd ef yn rheolaidd i Gyf- arfod Misol y sîr. Trefnwyd cenadau i ddyfod i Lanymddyfri i ymddyddan â dau frawd ieuanc o flaen yr eglwys. Yr oedd y cenadau yn dri mewn nifer, —Mr. Charles, o Gaerfyrdjáin, Mr. Rich- ard Dafydd, o Gaio, a Mr. Owen Lewis, blaenor parchus o Landdeusant. Heb- law yr anfonedigion hyn, yr oedd yn bresennol y Parch. John Williams, o Bantycelyn, a Mr. John Evans, y ddau yn perthyn i society y dref. Attolwg, a welwyd erioed y fath rifedi a'r fath allu, ar y fath achlysur ? Dim llai na phump o wŷr cyhoeddus yn ymgymeryd â'r gorchwyl o holi dau fachgenyn, yr henaf o honynt dan ddeunaw, a'r ílall heb fod yn un ar bymtheg oed! Yi ydym yn darllen am "bryf yn dyrnu mynyddoedd ;" ond yma yr oedd myn- yddoedd yn dyrnu pryf! Yr oedd yno allu, ond yr oedd yno dynerwch hefyd; ac yr oedd yr holl drafodaeth yn dangos y tiriondeb mwyaf. Yr oedd yno holi ac ateb ; ond y mae yn ddigon tebyg fod yr aTholwyr yn cyfaddasu eu cwest- iynau i alluoedd yr ymgeiswyr ieuainc. Yr oedd Mr. Charles yn dangos mwy o hynawsedd a thynerwch brawd a thad, nag o nerth y duwinydd, a mawredd y barnwr. Ar orpheniad yr holi, fe osod- wyd y mater o flaen yr eglwys ; gofyn- wyd am eu barn yn ngwyneb yr hyn a glywsent, a cheisiwyd ganddynt roddi arwydd, os oeddynt wedi cael boddlon- rwydd. Mor belJed ag yr wyf yn cofio, yr oedd y cydsyniad yn hollol unfrydol. Ar hyn dywedodd Mr. Charles nad oedd ganddo ef dàim yn groes; os oedd Eglwys Loegr yn myned yn rhy bell trwy beidio caniatâu urddau i neb dan dair ar hugain oed, fod yn bosibl i ninnau gyfeiliorni ar y llaw arall trwy ganiatâu rhyddid y pulpud i rai rhy ieu- ainc. " Ond," meddai, " os ydych chwi fel blaenoriaid ac fel eglwys yn galw y brodyr ieuainc hyn i arfer eu dawn gartref, mae yn ddigon tebyg y bydd y Cyfarfod Misol yn cydsynio." Rhodd- wyd i ni lawer iawn o gynghorion rhagorol, ac felly terfynwyd gwaith y cyfarfod pwysìg hwnw. Yr oedd hyn ar yr 31ain o fìs Hydref yn y flwyddyn 1821. Mor fuan ag y cafwyd cenadwri gy- meradwyol o'r Cyfarfoä Misol, fe ben- odwyd nóswaith i ni gael treio pregethu. Rhag i ni gael ein gwanhâu a'n digaloni gan bresennoldeb Uîaws o edrychwyr a barnwyr, penderfynwyd nad oedd neb i fod yn bresennol ond Mr. John Evans, y pr egethwr," yr hen broph wy d," a'r blaen- oriaid eraiíl, a rhy w ychydig o'r aelodau