Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. RaiF. CCLXXXII.] MEHEFIN, 1870. [Llyfr XXII. EIN FFÜRFLYWODRAETH EGLWYSIG. GAN Y PAROH. JOSEPH JOiNES, PONT MENAI. PENNOD III. Un o'r pethau cyntaf i sylwi arno wrth draethu am gyfundraeth lywodraethol ydyw ei swyddogaethau, gau mai trwy gyfrwng swyddogion y mae y meddyl- ddrych o lywodraeth yn dyfod yn beth gweithredol ac ymarferol. Ceir rhyw ddosbarth, mae yn wir, ymhob cym- deithas o'r bron, sydd yn barod pan y mynir, i gyfodi eu llef yn erbyn eu swyddwyr; ac felly nid yw i ryfeddu ato bod ambell un o'r fath i'w cael ymhlith y Methodistiaid. Nid bod neb yn proffesu yn ffarfiol eu bod yn wrth- wynebus i swyddau fel y cyfryw; buasai yn ormod dysgwyl i neb wneyd addef- iad o beth mor eithafoL "Yr awdur- dodau y sydd," yn unig ydyw gwrth- ddrych proffesedie eu ffraethebau; ond wrth gymeryd golwg dêg ar duedd ym- arferol ymdriniaethau ambell un o'r cyfryw, y mae yn anhawdd osgoi y dybíaeth mai yr nyn a'u boddiai uwch- law pob peth fyddai cael adferiad o'r halcyon days a fwynhäodd Israel un- waith, am y rhai y dywedir, "Yn y dyddiau hyny nid oedd brenin yn Is- rael; pob un a wnai yr hynoedd uniawn yn ei olwg ei hun." Hwn ydyw yr ideal uchel, dybygid, ag y mae ambell un, sydd yn proffesu mawr zêl dros Fethodistiaeth, yn awyddus i dderchafu einCyfundebiddoarhyn obryd; oblegid, os yw y gorchwylion o ddysgu a llyw- odraethu (yr hyn sydd yn cynnwys y cwbl y meddylir i swyddogion ei wneyd) wedl eu hymddiried i ofal y frawdol- iaeth eglwysig yn gyff redin, ac i gael eu cyflawni gan yr holl aelodau yn ddi- wahaniaeth yn eu cynnulliadau, fel y myn rhai o'r bobl hyn i ni gredu,—pa anghen sydd mwy am swyddogion pen- odol i gyflawni y cyfryw orchwylion ? Yn awr, beth bynag am gywirdeb y syniadau hyn, y mae yn ffaith wybyddus fod eu ffyniant yn Lloegr wedi bod yn doreithiog iawn o anghysur. Dywedir eu bod wedi llwyr anrheithio rhai eglwysi perthynol i enwadau eraill. Fel y dywedodd y diweddar Dr. Camp- bell o Lundain, y mae eu hamddiffyn- wyr wedi eu profi eu hunain, yn ddi- eithriad, yn nerthol i ddinystrio, ond yn ddinerth i adeiladu. Ac os dygwydd iddynt daro clust nifer go fawr o'r Cymry, yr hyn sydd yn beth digon posiM, oblegid fod hygoeledd rhai pobl yn ddiderfyn, pan fydd dynion dibetrus yn ymroi i pandro i'w gwegi, y mae lle i ofni fod ystôr o helbul yn aros rhai eglwysi yn ein gwlad! Ond ni pherthyn i ni ymdroi gyda hyn, am mai nid ein gorchwyl ydyw olrhain a chymharu y gwahanol dybiatf sydd wedi, ac yn -cael eu dal, ynghylch y modd goreu i ddwyn ymlaen waith eglwysig, ond yn hytrach ymofyn pa beth ydyw yr athrawiaeth Fethodist- aidd ar hya. Ni byddai yn fawr amgen na chell- wair âg amynedd ein darllenwyr ped ymgymerem â phrofi yn ffurfiol fod y Methodistiaid <?r dechre wedi dal fod swyddogion sefydlogifod yn yr eglwys. Cymerir hyn, o ganlyniad, yn ganiatäol. Gwneir yr un peth hefyd gydagolwg ar nifer y swyddi. Fel enwadau Ym- neillduol y deyrnas yn gyffredin, yr ydym wedi ein dysgu i gredu mai dwy swydd barhäol a sefydlodd Iesu Grist yn ei eglwys weledig. Y mae y swyddi