Skip to main content

Y DRYSORFA. K«hf4 CCLXXXI.] MáJ, 1870. [Lltfr XXÍL j l.\ LLEDAENIAD GWYBODAETH 0 DDUW YN NHREFN MADDEÜANT. Pregeth ar Jeremiah xxxi. 34. " Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddweh yr Arglwydd; o herwydd hwynt-hwy oll, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt, a'm hadnabyddant, metii yr Arglwtdd ; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a'u pechod ni choflaf mwyach." Yr ydym yn cael ailadroddiad o'r adnod j hon, a'r tair adnod flaenorol, gyda pheth ! amrywiad geiriau, yn yr wythfed ben- i nod o'r Epistol at yr Hebrëaid, lle eu j cymhwysir at amserau y testament ì newydd, ac y gwneir dethydd o honynt i osod allan dra-rhagoriaeth goruchwyl- iaeth yr efengyl ar yr hen oruchwyl- iaeth. Ceir ynddynt grynodeb gwerth- fawr o fendithion y cyfammod gras a wneir â chredinwyr yn Nghrist Iesu. Yr oedd y gyfraith a roddwyd trwy Moses yn awdurdodol a manwl yn gofyn ufudd- dod, ond nid oedd hi yn gallu estyn i bechadur ewyllys a thuedd atufuddhâu; eithr yma, yn y cyfaramod newydd, mae yr Arglwydd yn addaw, " Myfi a roddaf fy nghyfraith o'u mewn hwynt, ac a'i hysgrifenaf yn eu calonau hwynt." Hi a gaiff fod, nid yn eu dwylaw ac o flaen eu llygaid yn unig, ond yn anian yn eu calonau ; mwy na'i hysgrifenu iddynt, dyma hi yn cael ei hysgrifenu ynddynt, fel nad allant lai na'i chadw, gan y bydd megys yn rhan o honynt hwy eu hun- ain. Yn y gytraith, yr óedd yr Ar- glwydd yn cael ei osod allan yn benaf fel Duw eiddigus, yn ymweled âg anwiredd ei throseddwyr ; ac nis gallasai hyd yn nôd y tref niadau aberthol dan y gyfraith ddilëu pechodau. Adgoffa pechodau oedd yno, ac nid eu tỳnu ymaith. Ond yn y testun wele Dduw, yr un Gosodwr cyfraith mawr, yn sicrhâu gyda golwg ar amserau yr efengyl, y rhoddai efe yn helaeth a chyffredinol adnabyddiaeth hrofíadol o hóno ei hun fel Duw yn maddeu anwiredd. "Ac ni ddyigant mwyach bob nn ei gymydog, aphob nn ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr Arglwydd." Nid y meithriniad an- mheiffaith a chyfyng yn ngwybodaeth Duw ag oedd gan eglwys yr hen desta- ment a fydd mwyach; ond bydd yn oleuni llawer eglurach ei ansawdd ac ehangach ei ddylanwad. "0 herwydd hwynt-hwy oll, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt, a'm hadnabyddant, medd yr Arglwydd." Ac nis gallant lai na'm hadwaen mewn gwirionedd, medd Duw, gan yr amlygaf fy nghalon faddeu- gar iddynt: " Oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a'u pechod ni chofiaf mwy- ach." Mae yr addewid ardderchog hon wedi ei chyfiawni mewn rhan yn llwyddiant yr efengyl yn oesau boreuaf cristionog- aeth, pan yr oedd Duw yn eglurhâu arogledd ei wybodaethtrwy ei weinidog- ion cymhwys ymhob lle. Ac y mae hi yn cael ei chyflawni fwyfwy yn barhäus yn ein dyddiau ni fel y mae goleuni yr efengyl yn ymledu. Ond pan wrandaw- om yn astud ar sŵn y geiriau, " Hwynt- hwy oll, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt, a'm hadnabyddant, medd yr Arylwydd," a phan y tröwn oddiwrth- ynt i edrych ar wledydd y ddaear, ac yn wir ar ein gwlad ni ein hunain, mae yn rhy amlwg fod cyflawniad mawr a thrwyadl yr addewid werthfawr hon hyd yn hyn ymhell ar ôl. Mae hi yn edrych ymlaen i'r un tymmor -dedwydd ag y prophwydodd Esaias am dano: " Y ddaear fydd Uawn o wybodaeth yr Ar- glwydd, megys y mae'r dyfroedd yn toi y môr." Ni a nodwn, er ein haddyeg a'n