Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. GGLXXX.] EBRILL, 1870. [Llyfr X-XH. EIN FFÜRFLYWODRAETH EGLWYSIG. GAN Y PARCH. JOSEPH JONES, PONT MENAI. PENNOD II. Amcanwyd dangos yn yr ysgrif o'r blaen mai un o hynodion ffurflywodr- aeth eglwysig Methodistiaid Cymru ydy w ei hyblygrwydd. Tra yn credu ei bod yn cyfateb i'r cynllun ysgrythyrol 0 ran ei phrif nodweddion, nid oes neb yn hawlu gwarant ddwyfol i fanylion y drefn, ond y mae y rhai hyn wedi eu galw i weithrediad, a'u hystumio gan amgylchiadau : ystyr yrhyn mewngeir- iau eraill ydyw, bod y fath ystwythder yn nghyfansoddiad y cyfundeb fel y mae wedi ymgyfaddasu atanghenion neilldu- 01 gwahanol adegau, a hyny mewn per- ffaith gysondeb â'r egwyddorion gwreidd- iol ar ba rai y mae wedi ei sefydlu. Ac y mae hyn yn ddiau yn un o hynodion mwyaf gwerthfawr ein trefn eglwysig. Un achos o'r neillduolrwydd yma, mae yn debygol, ydyw, mai nid oddiar unrhyw gwestiwn eglwysyddol y cafodd Methodistiaeth Gymreig ei chychwyn- iad, ond mewn Uatur efengylaidd. Pwnc eglwysyddol ydyw càreg sylfaen rhai eglwysi; yr Eglwys Babaidd er esiampl, ac Eglwys Sefydledig Lloegr. Y pwnc hwnw yn y naill eglwys ydyw uchaf- iaeth y Pab, ac yn y llaLL yr uchaf- iaeth breninoL Gwaith esgob Rhufttin yn trawsf eddiannu y teitl o iod yn esgob cyffredinol, ac yn ficer Iesu Grist ar y ddaear, a roes fod i'r Eglwys Babaidd. Hyny ydyw, y pryd hwnw, yn ol barn yr esbonwyr mwyaf cymeradwy, y peidiodd yr eglwya Orllewinol â bod yn eglwys i Grist, ac y daeth y peth anghristaidd a gormesol y dangosodd ei bod ar ol hyny. A gwaith Harri yr VHI. yn ymwrthod âg uchafiaeth y Pab ar Eglwys Loegr, ac yn cymeryd yr urddas hwnw i'w feddiant ei hun, a roes fôd i'r Eglwys Anglicanaidd. Ac megys mai o bwynt eglwysyddol y cododd yr eglwysi hyn, y meddylddrych glwys- lywiol ydyw meddylddrych blaenaf y ddwy, a'r prif, os nad yr unig, rwymyn cysylltiol rhwng eu deiliaid â'u gilydd, tra y mae pobpeth ynddynt mewn athrawiaeth, dysgyblaeth, addoliad, a defod, yn cael eu dal mewn darostyng- iad i'r meddylddrych hwn. Ac, fel y dywedodd archddiiacon pur adnabyddua yn Eglwys Loegr yn ddiweddar, pe bae yr eglwys hono yn cael ei dadgysylltu oddiwrth y wladwriaeth, mewn geiriau eraill, pe dyddymid yr uchafiaeth bren- inol, yr ymranai ar unwaith i liaws dir- fawr o fân sectau. Ond nid cwestiwn eglwysyddol o un math ydyw meddyl- ddrych llywyddol Methodistiaeth, am mai nid o bwynt eglwysyddol y cafodd ei tharddiad; ond fe'i cychwynwyd, fel y mae yn ddigon hysbys, trwy waith dau ŵr ìeuanc duwiol ac anymhòngar, un yn llëygwr a'r llall yn glerigwr, oddiar dosturi at eu cydwladwyr oedd- ynt bron yn gyffredinol yn " eistedd yn mro a chysgod angeu," yn myned allan, a hyny yn gwbl ddiarwybod i'w gilydd ar y dechre, i'w rhybuddio o'u perygl, heb yr un cymhelliad i wneuthur hyn ond cariad angerddol at y 'Gwaredwr, na'r un amcan ond awydd anorchfygol i achub eu heneidiau. Dyma oedd starting point Methodist- iaeth—yr elfen gychwynol. A'r medd-