Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORPA. Hhif. CGLXXIX.] MAWRTH, 1870. [Llyfr XHÍ EIN FFÜRFLYWODRAETH EGLWYSIG. GAN Y PAECH. JOSBPH JONES, PONT MENAI. PENNOD I. SYLWADAU ARWEINIOL. Y mae dau syniad yn ffỳnu yn y byd crefyddol ynghylch y cwestiwn pa un a ydyw y Testament Newydd yn dysgu cyfundrefn benodol o lywod-ddysg eg- lwysig ai peidio. Mỳn rhai ei fod. Haerant fod cynllun cyfiawn a manwl o ffurfiywodraeth eglwysig yn cael ei osod i lawr ynddo, ac, yn gyson â hyn, bod yn ofynol i bob eglwys ymhob oes ac amgylchiad gael ei ffarfio, a'i gweith- rediadau eu dwyn ymlaeD, yn gywir yn ôl y drefn hon, a bod pob ymadawiad oddiwrthi yn anapostolaidd, ac i'r graddau hyny yn adfeiliad. Ond y mae eraill yn ystyried y golygiad yma yn llawer rhy eithafoL ac mai yn ofer yr edrychir i'r Testament Newydd am ddadblygiad manwl o unrhyw gyfun- drefn o lywodraeth eglwysig. Dadleu- ant y buasai i'r apostolion osod i fyny gyfundrefn fanol o'r fath yn ymadaw- iad oddiwrth eu dullwedd arferol hyd yn nôd wrth ymdrin â phethau trymach teyrnas y Gwaredwr, a bod arwyddion i'w cael o wahaniaeth mewn pethau bychain yn nhrefniadau yr eglwysi oedd o dan eu harolygiaeth bersonol hwy eu hunain, yr hyn na fuasai yn bod pe buasent wedi gosod i fyny gyfundrefn unfforf i lywodraethu yr holl eglwysi. Ac fel prawf ymarferol o anghywirdeb y golygiad cyntaf a nodwyd, cyfeirir at y ffaith fod y rhai sydd yn dal yn fwyaf tỳn dros fod ffarf benodol wedi ei dad- guidio, yn methu cyttuno â'u gilydd ynghylch eu nodwedd: bod Eagobydd- wyr yn hòni mai Esgobyddiaeth, Hen- aduriaethwyr mai Henaduriaeth, ac Annibynwyr mai Annibyniaeth ydy w. Deallir nad oes neb, âg y mae eu syniadau yn deilwng o sylw yma, am faentumio bod yr eglwys yn ei gwêdd weledig wedi ei gadael heb yr un cyf- arwyddyd ynghylch y modd yr oedd i ymgorffori, ac i ddwyn ymlaen ei gweithrediadau. Ystyrir bod prif egwyddorion llywodratìth a gwaith eglwysig yn cael eu rhoi i lawr yn eglur yn y Testament Newydd, weithiau mewn gosodiadau athrawiaethol, ac weithiau yn actau neu weithredoedd ein Harglwydd a'i apostolion; ond credir fod gweithio allan a chymhwyso yr egwyddorion hyn yn eu manylion, yn ngwahanol amgylchiadau cymàeith- as, wedi ei adael i farn a phrofiad crist- ionogion eu hunain. Yn gyson â'r golygiad hwn, gall ffarf y llywodraeth eglwysig, o ran ei man- ylion, wahaniaethu yn y naill wlad oddiwrth y llall, ac yn yr un wlad mewn gwahanol amgylchiadau, heb fod y naill na'r Uall yn milwrio yn erbyn yr egwyddorion cyffredinol a osodir i lawr yn yr Ysgrythyrau. Ac y mae y cyfry w wahaniaeth yn cylateb i ansawdd pethau yn y byd gwladwriaethol. Y mae yn hysbys mai nid yr un ffurf- ly wodraeth sydd yn ffỳnu ymhob gwlad ar yr adeg bresennol; ac fe ddywedir fod y fath anghyfartaledd rhwng gwahanol genedloedd o ran gwareiddiad a diwylliant fel y byddai yr anmhriod- oldeb mwyaf yn yr ymgaís i'w llywio yn ôl yr un gyfundrefn lywodraethol. Er esiampl, byddai anghymhwysder mewn gosod i tyny lyẁodraeth gyn- nryebioüadolmewn Ueoedd fel Hindoa-