Skip to main content

Y DRYSORFA. Iìhif. CULXXVIII.] CHWEFROR, 1S70. [Llyfr XXII. YR OES HON A'R OES O'R BLAEN YN EU PERTHYNAS A METHOD- ÌSTIAETH GALFINAIDD YN SIR GAERNARFON. Gan y Parch. Hurh Roberts, Bangor. Pennod I. N0DIADAI7 ARWEINIOL. Diciion y bydd yn hyfrydwcli gan rywrai oddarllenwyr y Drysorfa gael ychydigad- roddiad o hanes yr en wad hwn yn y Sîr hon, a hyny gan nn sydd wedi byw a symnd ymhlith y Methodistiaid yn y wlad hon dros lawer o flynyddau. Y mae i Sir Gaernarfon le mawr yn hanes Methodist- iaid Cymru. Y mae y wlad hou yn wlad amaethyddol a masuachol, yn ëang ei therfynau, yn lliosog ei thrigolion, a dylanwad yr efengyl i'w gantod mor nerthol ynddi âg yn un wlad yn Nghymru ; ac y mae wedi ei meddiaünu nior llwyr gan Fethodistiaeth â nemawr wlad berthynol i'n cenedl. Pa wlad yn Nghymru y cododd mwy o bregethwyr ynddi, yr adeil- adwyd mwy o gapelau, y mae ei haelodau eglwysig yn amlach, a'i gwrandäwyr yr efengyl yn lliosocach ? a pha wlad o fewn y Dywysogaeth sydd yn fwy ífyddlawn i'r iaith Gymraeg, mor ddarllengar a gwyb- odus, mor gefnogol i'r wasg, ac yn fwy haelionus yn ei chyfraniadau at acho3Ìon tramor a chartrefol crefydd ? Ond pa wlad o fewn Cymru oedd gynt yn fwy anwybodus ac ofergoelus, a llygr- edig ei moesau ? a pha wlad a ddangos- odd fwy o wrthwynebrwydd i ddyfodiad yr efengyl iddi trwy offerynoliaeth prif ddiwygwyr Cymru yn y canrif a aeth heibio? Ymha wlad y cafodd Howell Harris, Daniel Rowlands, a "Williams, Pantycelyn, lai o dderbyniad a mwy o er- Hdigaeth nag yn Sir Gaernarfon ? Na fydded i ni yn yr oes hon anghoiì,- y graig ein naddwyd, a cheudod y íf ôs uin cloddiwyd o honynt; a bydded i ni gofio einrhwymedigaethau i'r efengyl achrefydd. Gyda phob prîodoldeb y gallwn ddywed- yd, " xr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion." Y mae oe^oedd y byd yn ymdaflu ar eu gilydd megys tòuau y môr, fel nad y w yn hawdd pendeifynu ymha le y mae y aaill yn dechreu ac un arall yn terfynu. Y mae perthynas rhwn^ y naill oes a'r llall, fel y mae y naill yn effeithio ar y llall; ond er hyny y mae gwahaniaeth rhyngddynt, am fod cyfnewidiadau mwy rhyfedd yn cy- meryd lle mewn rhai oesoedd rhagor eraiíl. Y mae un oes yn aml yi^ esgor ar gyfnew- idiadau y bu oesoedd eraill yn beichiogi arnynt; ac y mae oesoedd yn gwisgo gwa- hanol nodweddiadau. Nid yr un yw tem- tasiynau, a phrofedigaethau, a manteision y naill oes a'r llall. Mae perthynas rhwng crefydd a'r byd, fel y mae y cyfnewidiadau sydd yn y byd yn effeithio cyfnewidiad i raddau mawr yn ffurf crefydd. Y mae gan amser ac amgylchiadau ddylanwad raawr ar grefydd yn ei phethau allanol. Er nadywhi o'r byd hwn, etoymaehiynybyd hwn ; a chan hyny y mae gau amser ddy- lanwad arni fel pob peth arall. Er ei bod yn gwisgo delw y nefol, y mae hi yn gwisgo delw y daearol hefyd. Er ei bod yn deyrnas ddisigl, y mae ynddi ymhob oes bethau a ysgydwir. Gwyddom fod gwahaniaeth mawr rhwng Methodistiaeth yr oes hon rhagor yr oes o'r blaen ; a rhaid yw hyny, am fod gwahaniaeth rhwng yr oes hon a'r oes o'r blaen. Y mae profed- igaethau Methodistiaid yr oes hon yn wa- hanol i brofedigaethau yr oes o'r blaen; ac y mae eu manteision yn llawer helaethach. Ond er hyny y mae cymaint o wahaniaeth rhwng Methodistiaid yr oes hon âg un enwad arall, ag a fu mewn nn oes, er dichon fod rhagfarn y naill enwad tuag at y llall yn llai. Yr un yw ei hathrawiaetk a'i ffurf eglwysig er y dechreuad. Manteii- iodd yr oes hon lawer ar yr oes o'r blaen,