Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSOEFA. Rhip. CCLXIII.] TACHWEDD, 1868. [Llyfr XXII. Y DIWEDDAR BARCH. DAVID JOXES, TREBORTH. EHAN I. Am ŵr fel y Parch. David Jones, yr hwn a fu dros ddeugain mlynedd yn bregethwr enwog, cymeradwy, a defn- yddiol—yn arweinydd medrus ymhlith ei frodyr crefyddol—a chyda hyny, yn fardd a llênor da, y mae yn ddiau fod Methodistiaid Calfìnaidd Cymru yn gyffredinol, heblaw lliaws o bersonau o enwadau eraill, yn dysgwyl am i gyfrol nid bechan o fywgraffìad am dano ymddangos cyn hir. Hyderwn na chawn ein siomi yn hyny, ond y gwneir darpariad i gael cofiant teilwng o hóno yn gyhoeddedig ar fyrder. Yma ni ddysgwyìir, ac nis gallwn roddi, dim amgen na bỳr goûtiâd, a sylwadau o natur gyffredinol, am ein hanwyl frawd ymadawedig. Ganwyd Mr. Jones ar ddydd Sul- gwyn, Mehefin 2il, 1805. Yr oedd ei rieni, John ac Elinor Jones, yn byw yn Tan y castell, Dolyddelen, hen gar- tref am oesau i deulu ei dad. Bu ei dad farw pan nad oedd efe ond dwy fiwydd oed. Ymddengys fod John Jones yn ŵr cymeradwy iawn yn ei blwyf, yn un o alluoedd meddwl uwchlaw y cyffredin, ac yn hylaw gyda phob gorchwyl yr ymaflai ynddo. Yr oedd efe, cyn ei ymuniad â chrefydd, o fucheädiad moesol, ond daeth i'r eglwys Fethodist- aidd yn Nolyddelen, yr hwn nad oedd ond ieuanc y pryd hyny, nid yn Phari- sëad hunangyfiawn, ond gan dderbyn teyrnas Dduw fel dyn bach. Cyn hir, dewiswyd ef yn ddiacon; a pharhäodd üyd y diwedd yn y swydd hono yn ffyddlawn a gweithgar, gan gario dylan- wad mawr ar yr eglwys. Bu am yspaid Si oruchwyliwr ar chwarel llechau olyddelen, yr hori yr oedd Mr. Thomas Pugh, Dolgellau, gẃr cyfxifol a blaenor defnyddiol gyda'r Methodist- iaid, yn un o'i phrif berchenogion; ac arferai "gadw dyledswydd" bob dydd yn swyddfa y chwarel gyda y chwarel- wyr. Cifodd hir nychdod yn ei dym- mor diweddaf; ac adroddir y byddai Mr. David Jones, âg efe yn blentyn dwy flwydd oed fel y nodwyd, yn myned lawer gwaith bob dydd at ei wely gan ofyn, "Mae tada bach?" a dywedai yntau, " Druan oedd fy mach- gen bach i! yr Arglwydd a'i bendithio, ac a ofalo am dano." Un noswaith, ychydig cyn ei farwolaeth, yr oedd rhai o'i gyfeillion crefyddol wedi dyíod i ymweled âg ef, eithr nis gallasai efe ädywedyd un gair wrthynt. Ond bore drannoeth dywedai dan wylo, "Fy mrodyr anwyl wedi dyfod i edrych am danaf, a minnau yn methu dywedyd gair wrthynt! Ond câf fì dafod rhydd i siarad â fy mrodyr yn fuan. Yr oedd dammeg y deng morwyn wedi gafaelu yn ddwys ar fy meddwl, a bron a fy lladd i. Ond diolch i Dduw! mi a ddaethum trwyddi am byth!" Ar ol hyn, wrth weled ei anwyl wraig yn wylo uwch ei ben, dywedai wrthi, "Mae yn anhawdd i chwi beidio âg wylo, Elin bach, wrth feddwl fy mod ar eich gadael. Mae yn ddiammheu eich bod yn methu gwybod pa beth a ddaw o honoch gyda naw o blant bach fel hyn. Oud na ddigalonwch: yr wyf wedi eu rhoddi i'r ArgLwydd neithiwyr; a bu yn galed iawn arnaf trwy'r nos. Ond bore heddyw, atebodd fy ngweddi, a dywedodd wrthyf ei fod yn derbyn fy mhlant. Cëwch chwi weled na bydd arnoch chwi na'r plant eisieu dim byth; a chewch weled hefyd y rhydd Duw ras i fy mhlant i yn ei amser,