Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Rhif. CCLXI.] MEDI, 1868. [Llyfr XXII. YSBRYD ANFFYDDOL YR OES. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A. Papyr a ddarllenwyd yn Nghymanfa G-yŷredinol Llanelli, Ghrphenaf 9, 1868. Nodwedd ysbryd anffyddol pob oes yw ei fod yn gwadu Duw, un ai yn ei han- fod fel Bôd Personol, neu yn ei briodol- iaethau naturiöl a moesol, neu yn ei berthynas â natur a'i deddfau, â dynion a'u hanes, ac â'r efengyl a'i phynciau. Nid yw yn ymddangos yn unig yn y ffolineb sydd yn dywedyd nad oes Duw, ond hefyd yn y ffug-ddoethineb sydd yn peidio dywedyd ei fod, ac yn ceisio dehongli y cwbl sydd, yn annibynol-^r bob ystyriaeth o hono ef a'i briodol- iaethau. Ond nis gall y syniad am Dduw sefyll ar ei ben ei hun ar wahân oddi- wrth syniadau y meddwl am bethau erailL Am fod Duw, yn ol y darluniad Ysgrythyrol o hóno, yn unig fel Bôd anfeidrol, ae ar yr un pryd o herwydd hyny, yn y berthynas agosaf o ran gradd, er nad yr un berthynas o ran natur, â phawb ac â phob peth, y mae y syniad am dano, tra yn gosod arbenigrwydd arno fel gwrthddrych addoliad, ar yr un pryd yn effeithio i raddau mwyfcneu lai ar holl syniadau a theimladau y galon. Ond y mae neillduolrwydd y berthynas a ddadguddir rhwng Duw a dyn yn peri fod y grêd a goleddir am Dduw yn effeithio fwyaf sx y syniadau am ddyn fel person, am ddynoliaeth fel natur, ac am ddynion yn eu perthynas â'ufgilydd. Am hyny y mae yr ysbryd sydd yn gwadu Duw, yn gynt neu yn ddiwedd- arach, yn gwadu dyn hefyd. Ac y mae pob anffyddiaeth yn annynol, mor bell ag y mae yn annuwiol. Ac o'r ochr araÜ, y mae yn anmhosibl cymeryd i'r cyfrif y cwbl ag yw dyn heb gymeryd Duw hefyd i'r cyfrif. Y mae yn wir fod anffyddwyr yn craffu ar ryw un nodwedd, neu ar ych- ydig o nodweddau, sydd yn perthyn i ddyn, ac yn aros ar hyny heb weled Duw o gwbl; o herwydd nis gall rhan o ddyn by th arwain y meddwl at Dduw. Ond pe cymerid yr holl ddyn fel ffaith, heb adael allan o'r cyfrif, yn enwedig yr un o brif nodweddau ei natur, fe fyddai yn safle digon uchel i'r enaid weled Duw oddiarno, ac yn safon cywir iddo farnu ai Duw ai ynte gwaith dychymyg a gynnygir i'w sylw fel gwrthddrych addoliad. Gan hyny dar- luniad anghywir o anffyddwyr yw eu bod yn credu y dynol ac yn gwadu y Dwyfol, ac o dduwinyddion, eu bod yn credu y Dwyfol ac yn gwadu y dynol. Y darluniad cywir a fyddai bod an- ffyddwyr yn gwadu y ddau, a bod duw- inyddion efengylaidd yn credu y ddau. Y mae rheswm yn tystio fod yn rhaid i bob dirnadaeth sydd genym o Dduw, ac o'r hyn syddDdwyfol, foä yn seiliedig ar ddyn, ac ar yr hyn sydd ddynol. Y mae y natur ddynol yn nês at Dduw na'r grèadigaeth faterol, er ei bod'.yn llygredig, ac er mai nodwedd calon dynion yw fod yn gâs ganddynt Dduw. Yn ol darluniad Salm viii., y mae dyn, pa uh ai yn ei wendid yn blentyn bychan ai yn ei gyflawn faintioli, yn arglwydd, yn dangos mwy o ardderch- ogrwydd Arglwydd yr Iôr na'r lloer, a'r sêr, ac anifeiliaid y maes. Am hyny y mae yn haws i ddyn nesâu at Dduw mewn cydymdeimlad â dynion yn eu gwendid a'u plentyndra, yn eu heuog- rwydd a'u llygredigaeth, na thrwy syllu ar olygféydd mwyaf inawreddog natur. Pa beth bynag a ddywedir am faint y