Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Rhif. CCLX.] AWST, 1808. [Llyfr XXII. DEFODAETH EGLWYSIG. ARAETH (NATUR EGLWYS) A DRADDODWYD YN Y CYFARFOD ORDEINIO YN NGHYMDEITHASFA YR WYDDGRUG, MEHEFIN 25, 1868. GAN Y PARCH. J. OGWEN JONES, B.A. Colosbiaip iL 20—23: " Am hyny, os ydych wedi meirw gyda Christ oddiwrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megys pettyeh yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau? Na chyffwrdd; ac na archwaetha; ac na theimla; y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer; yn ol gorchymynioa ac athrawiaethau dynion; yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllya grefydd a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni y cnawd." Un o amcanion mawrion yr Arglwydd Iesu yn galw ei eglwys allan o'r byd ydoedd crynhoi, trefnu, a pherffeithio, yr addoliad a'r gwasanaeth sydd yn ddyledus iddo oddiwrth ddynion. Yr eglwys ymhob oes ydyw y cylch o fewn yr hon y mae gwir a phur addoliad y saint yn cael ei gyflwyno. "Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra rha- gorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ol y nerth sydd yn gweithredu ynom ni, iddo ef y byddo y gogoniant yn yr eglwys trwy Gfrist íesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen." Y mae gwir addoliad o'r dechreuad yn ysbrydol o ran ei natur. "Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn ysbryd a gwirionedd." Felly yr oedd addoliad Duw ymhob oes, ac felly y bydd o anghenrheidrwydd i barhâu, am fod y rheswm yn ddigyfnewid. Ond y mae yn perthyn i addoliad Duw yn wastad wasanaeth. Y mae gwahaniaeth rhwng gwasanaeth Duw a'i addoliad, er nad ÿdyw yn waith hawdd egluro y gwa- haniaeth. Y mae y berthynas sydd rhyngddynt mor agoa fel y mae y gwa- haniaeth yn Uai eglur. Y mae addoliad P^w yn fwy mewnol, a'i wasanaeth yn fwy aÛanoL öorff yr addoliad ydyw y gwasanaeth, ac enaid y gwasanaeth yjyw yr addoUad. Hanfod addoliad ydyw jr ymoityngiad a'r parch ysbryd hwnw ag sydd yn ddyledus i'r Crëawd- wr oddiwrth ei grëaduriaid moesol ac ysbrydol. Hanfod gwasanaeth ydy w y cyflawniad allanol hwnw ag sydd yn cael ei orchymyn gan Dduw fel moddion i gyflwyno a dadgan parch ac ymostyng- iad y galon. Mater y gwasanaeth ydyw y sefydliadau a'r defodau yn yr ymar- feriad â pha rai y mae i ni ei gyflawni. Er fod addoliad Duw ymhob oes yn ysbrydol, gall defodau y gwasanaeth fod yn gnawdol. Felly yr oedd o dan yr hen oruchwyliaeth. Geilw yr apostol hwynt yn " ddefodau cnawdoh" wedi eu gosod ar yr eglẁys hyd amser y diwygiad. Ond yr oedd iawn gyflawniad o wasanaeth Duw, er i'r defodau fod yn gnawdol, a'r ymarferiad allanol â hwynt yn gnawdol yr un modd,—yn addoliad, ac felly yn ysbrydol; o herwydd yr oedd yn golygu ufudd-dod, yr hwn sydd o ran hanfod yn ymostyngiad ysbrydol i Dduw fel Bôd ysbrydol. Ar y llaw arall, yr oedd y cyflawniad hwnw o wasanaeth Duw ag oedd yn amddifad o'r ufudd-dod hwn, yn ngolwg Duw, yn ffurfioldeb pechadurus. Hyn yn wir ydyw hanfod ffurfioldeb: cyflawni gwas- anaeth Duw ac ymarfer â defodau ei wasanaeth, heb unrhyw weithrediad o eiddo yr Ysbryd tuag at Dduw; ysgaru gwasanaeth Duw oddiwrth ei addoüad, a thrwy hyny peri iddo beidio a bod yn wir wasanaeth. Yn ganlynol i hyn y mae dynion yn ceisio gwneuthur i fyny