Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. CCLIX.] GORPHENAF, 1868. [Llypr XXII. METHODISTIAETH A'R GENADAETH. GAN Y PARCH. WILLIAM EVANS, M.A., PEMBROEE DOCK. Mab yn anmhosibl argapmawl i ormod- edd yr yradrechiadau mawrion sydd yn cael eu dwyn ymlaen yn ein plith fel Cyfundeb yn y dyddiau hyn mewn ad- eiladu lleoedd addoli hardd a chyflëus. Yn gyíochrog â'r ymdrechion hyn, ac heb fod yn ail iddynt mewn pwysig- rwydd, y mae y gwaith mawr o osod y ddwy Athrofa ar seiliau ëang a sicr, yr hwn sydd yn parhâu i gael ei gytìawni gyda'r fath frwdfrydedd a phender- fyniad. Mae MethodÌ8tiaid Cymru wedi mwynhâu braint fawr, hefyd, mewn cysylltiad â'r amcan i sefydlu ysgolion dyddiol rhâd a rhydd ar hŷd a llêd y Dywysogaeth, ac yn neillduol yn y gyfran helaeth yr ydym wedi ei rhoddi mewn moddion a dynion tuag at y aefydliad Normalaidd yn Mangor. Ond y mae un adran o'r gwaith sydd yn disgyn arnom mewn cysyUtiad âg addysg eto hôb dderbyn y sylw%yladwy. ^'r ydym yn cyfeirio at addysg plant ein boneddigion, yn enwedig y merched. Gwir fod amryw o'n gweinidogion, a rhai llëygwyr parchus, wedi cychwyn sefydl- iadau ar eu cyfrifoldeb eu hunain, yn y rhai yr addysgir nifer ll'iosog o'r bechgyn sydd yn perthyn i'r dosbarth uchaf yn ein plith. Ond yr ydym yn hollol amddifad, mor bell ag a wyddom ni, o ysgol i'r hon y gellir danfon ein boneddigesau ieuainc. Mae y Method- istiaid yn Nghymru yn dyoddef yn fawr. oddiwrth y diffye hwn. Danfonir merched ein cyfoethogion a'n masnach- ^yr i ysgolion sydd yn cael eu dwyn ymlaen gan foneddigesau yn perthyn ir Eglwys Sefydledig; a thra yn yr V9íîolion ânt i'r Eglwys ddwywaith y îbath; mae yr offeiriaid yn ymweled â'r ysgolion yn wythnosol, yn arholi y dosbarthiadau, yn traddodi anerchiad, ac yn talu sylw parchus i bob un o'r ysgoleigesau. Nid oes dim i'w ddyweyd yn erbyn yr ymddygiad hwn o eiddo yr offeiriad; eithr o'r tu arall y mae yn ganmoladwy iawn, ac yn esiampl dda i weinidogion y Methodistiaid i'w hefel- ychu trwy gymeryd mantais ar bob cyfle o'r fath a gynnygir i ni yn ein gwahanol gylchoedd. Nid ydym ychwaith yn beio arferiai yr ysgolfeistres, os eglwys- yddes a fydd hi, o gymeryd y boneddig- esau dan ei gofal yn orymdaith ddwy- waith bob Sul i'r Eglwys; mae rhesymau cryfìon dros hyn o drefn, ae yn erbyn gadael y plant i fyned lle y mynont. Modd bynag, pan y dychwel ein bonedd- igesau ieuainc o'r cyfry w ysgolion, maent yn y cyffredin wedi colli pob blâs ar y capel, ac yn diystyru Methodistiaeth; ae yn aml iawn fe'u colli'r hwynt o'r cyf- undeb. Pan oedd y plant yn fân, ac oli gartref, yr oedd eisteddle y teulu yn y capel yn llawn; ond erbyn heddyw y mae y tŷ yn rhanedig—gwylier na syrthio! y mae y tad, a'r faui, a'r ddau fachgen bach, fel arfer, yn myned i'r capel; ond y mae y ddwy ferch (ar ol gorphen eu haddysg?) yn troi ar yr aswy i Eglwys y Plwyf. Dymunwn gan hyny alw sylw arweinyddion ein cytun- deb at yr anghenrheidrwydd o sefydlu ysgolion da in boneddigesau ieuainc, íle nid yn unig yr addysgir hwynt yn briodol, ond hefyd y gwneir Methodist- iaid da o honynt, mewn manau fel Bangor neu Bala, Aberystwyth neu Abertawe, neu leoedd eraill cyffelyb, yn y rhai y mae, Methodistíaeth yn Ue- wyrchus, ac yn meddu safle uchel a pharchus.