Skip to main content

Y DEYSORFA. Rhif. CCLYII.] MAL 1868. [Llyfr xxn. MARW CRIST A BYW Y CRISTION. GAN Y PARCH. BENJAMIN MORRIS, CEFN, MERTHYR TYDFIL. 2 Corinthiaid v. 15 : " Fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd." Y mae dau o faterion pwysig a pherth- ynasol yn cael sylw arbenig yr Apostol yn y rhan hon o'r epistol, sef, marw Crist, a byw y cristion. Dros bwy y bu Crist farw ? ac i bwy y mae y crist- ion i ymdrechu byw ? "Ac efe a fu farw dros bawb." Ac mor sicr a'i tod ef wedi marw "dros bawb," daw y "pawb" hyny, yn ol amcan, bwriad, a dyben y farwolaeth fachniol hono, yn nghyflawnder amser Duw, un ac oll, i fyw i'r hwn a fu farw. Ni bu yr Ar- flwydd Iesu farw heb amcan Dwyfol.a wriad tragywyddol. Ac megys na bu efe farw heb amcan, mae yr un mor sicr nad yw yr amcan i fethu. Bydd dynion yn amcanu lliaws o bethau, ond yn meirw yn fynych cyn byth eu cyf- lawni ; o ganlyniad, bydd eu bwriadau hyny yn meirw gyda hwy. Ond am Iesu Grist, y mae yr holl sicrwydd sydd genym eì fod ef wedi marw unwaith, yn gauarnhâd i'n ffydd am sicrwydd cyflawuiad amcan y farwolaeth hono. Oa na welir holl wrthddrychau marwol- aeth y Ceidwad rywbryd yn byw iddo, o bawb by w efe ei hun a gaiff y siom- edigaeth fwyaf. Mae yr Apostol yn y rhanau hyn o'r epistol, wrth ymresymu, yn ei amddi- ffyn ei hun am ei waith yn pregethu yr efengyl i'r cenedloedd, gan gyhoeddi graB Duw y tu allan i gylch gweinydd- ìad ordinhadau gras o dan yr Hen Destament Yr oedd yn cymeryd Uawer iawn o drafferth i chwalu rhagfarnau, a dadgysylltu serchiadau dynion, yn enw- edig y çenedl Iuddewig, oddiwrth eu hen dybiau a'u syniadau Iuddewaidd. A'r cenedloedd paganaidd yr un modd, oeddynt yn coleddu serch cryf at eu hamrywiol dduwiau, a'r credöau hyny yn y rhai y cawsent eu haddysgu. Y mae yn ymresymu â'r Iuddew cul yn ei farn, a chryf yn ei ragfarn, tuag at y cenedlddyn, ac yn profi fod gan Fugail mawr y defaid olwg ar y cenedloedd yn gyffredinol, yn gystal â'r genedl Iuddew- ig, pan y rhoddodd efe ei einioes yn bridwerth dros lawer—mai Cyfryngwr ydyw rhwng Duw a dynion, ac nid rhwng Duw âg unrhyw genedl mwy na'u gilydd "Ac efe a fu farw dros bawb." Dywedodd Iesu Grist ei hun air i'r un perwyl a'r geiriau yna o eiddo Paul cyn dyoddef o hóno: " A minnau, os dyrchefir fi oddiar y ddaear, a dỳnaf bawb ataf fy hun." Y pawb sydd mewn golwg gan Grist yma ydyw y "pawb" sydd gan yr Apostol yn y testun. Mai nid rnywbeth diamcan, a dinôd—nid rhyw fath o hapchwareu ydoedd marw- olaeth y Ceidwad, sydd amlwg. Y "pawb" a dỳn efe ato ydyw y "pawb" y bu efe farw drosto, yn ol a fedrwn ni weled. Wedi iddo eu caru â chariad tragyw yddol, a'u prynu trwy waed y cyfanimod tragywyddol, a dwyn eu pechodau yn ei gorff ar y pren, nid yw yn beth tebygol y gedy ffyddlondeb tadol, a gallu Dwyfoì, y gwrthddrychau hyny, gynifer ag un o honynt, byth yn gaeth- ion yn ngafael y gelyn ýr ysigwyd ei ben ar Galfaria. Gan mai un .o ddyben- ion Crist yn marw dros wrthddrychau ei gariad ydoedd eu cael hwythau, un ac oll, i amlygu eu cariad ato trwy fyw iddo, y mae noll bwys, gwerth, a mawr- edd yr Iawn, yn sicrwydd am, ac yn rheswm dros, eu cael hwythau bob un