Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSORFA. Rhif. COLYI.] EBRILL, 1868. [Llyfr XXII. MAWRION WEITHREDOEDD DUW. PREGETH GAN Y DIWEDDAR BARCH. D. CHARLES, CAERFYRDDIN. (WEDI EI CHYMERYD O'l LAWYSGRD7EN, AC HEB FOD YN ARGRAFFEDIG O'R BLAEN.) "Yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw."—Actau ii. 11. Gweithredoedd Duw ydynt fawrion neu ryfeddol. Achlysur defnyddiad y gair hwn ydoedd tywalltiad yr Ysbryd Glân, fel y llefarwyd mewn amryw ieithoedd. Hyn ydoedd yn beth mawr at ledaeniad yr efengyl. Tŷb wrthun ydoedd y dŷb eu bod yn feddwon: canys nid yw meddwon yn gyffredin yn ílefaru ond am weithred- oedd dynion,—yn fynychaf am eu gweithredoedd hwy eu hunain. Ond y rhai hyn a draethent am weithredoedd Duw. Mae gweithredoedd Duw yn fawr. Efe yw y gweithredwr cyntaf. Gwaith Duw a gwaith dyn yw y cyfan; ond y gwaith o eiddo'r dyn ag a fyddo yn dda, gwaith ydyw ar aü law. Mae dyn yn ymddibynol ar Dduw gyda golwg ar yr hyn oll ag y mae yn ei wneyd. Duw- iolion ymhob oes a ystyrient waith Duw. " Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd wedi eu ceisio gan bawb a'i hoffant." "Myfyriais ar dy holl waith, ac yn ngweithredoedd dy ddwylaw y my- fyriaf." Bod heb ystyried gweithredoedd Duw sydd bechadurus—yn anmharch i Dduw. Mae yr oll o olygiadau sydd gan ddyn- ion ar weithredoedd Duw, nad yw yn eu dwyn i weled Duw ynddynt a thrwy- ddynt, yn wallog ac annuwiol. "Gweith- redoedd dwylaw yr Arglwydd nid ystyr- iant" mewn modd dyladwy. Nid oes dim gweled Duw ond yn ei weithred- oedd. "Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist." Gweithredoedd Duw yw pob peth sydd yn ei ddangos. Gweithredoedd y grëadigaeth: y mae y rhai hyn yn dangos Duw yn ei fawr- edd a'i ddaioni mewn modd rhyfeddoL Mae hanes y grëadigaeth yn hanes rhy- feddol iawn—rhoddi bôd i bob peth trwy lefaru. " Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd; a'u holl lu- oedd trwy ysbryd ei enau Ef "—galw am oleuni, hwnw yn bod—llefaru pob peth i fod ac i drefn ar unwaith, heb eisieu gwella dim—gorchymyn i'r ddaear esgor ar anifeiliaid, ac i'r môr ar bysg ac adar—eu gweled yn codi—ffurfio dyn o'r pridd—holl ranau ei gorff, a'r amry w- iaeth o gnawd ac esgyrn. O'r un pridd yn rhoddi yr un bywyd naturiol iddo ag i'r anifail—rhoi enaid anfarwol iddo yr un pryd—hwnw yn addas i'w le fel pe buasai yn rhan o'r corff. Gwaith rhyfedd Duw ydoedd bod y nefoedd uwch ben a'r ddaear yn addas i'w gilydd ymhob ystyr—gwneyd i'r nefoedd uchod wasanaethu y ddaear isod mor gymhwys ac addas ymhob modd—^pob crëadur yn gymhwys i'w le, a'i le yn gymhwys i'r crëadur—gwneyd yr holl waith i gyd i fod yn gymhwys i ogoniant Duw, i aros fel ag yr oedd, ac hefyd i ateb dybenion Duw mewn gwaith arall, sef gwaith yr iachawdwr- iaeth, er nad arosai y dyn yn nnion fel yr oedd. Felly ei gyfammod â dyn,—yr oedd yn addas i drefn yr iachawdwriaeth ag oedd Duw wedi ddarpar i ddyn. Heo