Skip to main content

Y DBYSORFA. Rhif. CCLIV.] CHWEFROR, 1868. [Llypr XXII. ADGOFION PERSONOL AM YR YMWELIAD AG AMERICA YN 1866. GAN Y PARCH. THOMAS PHILLIPS, D.D. PKNN0D I. Goddbfeîi i nii ddyweyd, wrth gy- chwyn, na fu neb erioed o'r blaen yn America ar yr un neges, ac y mae yn anmhosibl i neb fyned eto, yn yr un cymeriad, am flynyddoedd lawer. Un- waith mewn hanner can' mlynedd y cynnelir Jubili ar unrhyw achos; ac amcan blaenaf a phenaf fy anfoniad oedd, i longyfarch y Gymdeithas Fibl- aidd Americanaidd ar gyrhaeddiad blwyddyn ei Jubili, yn enw a thros yr hen Fam-Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Mae yn bleser genyf gry- bwyll fod Cymdeithasfäoedd y Deheu- barth a'r Gogledd wedi bod mor gar- edig â chaniatâu i mi yr anrhydedd o ymddangos mewn unrhy w gynnulliadau o eiddo y Methodistiaid yn yr Unol Daleithiau yn y cymeriad o Gynnrych- iolwr. Gadawsom Liverpool ar ddydd Sad- wrn, yr 21ain o fis Ebrill, yn y llong Scotia, prif agerlestr cwmpeini Cunard, dan lywyddiaeth y Cadben Judkins. Yr oedd ein party yn gynnwysedig o bump: y Parch. Thomas Nolan, B.D., offeiriad Eglwys Sant Pedr, Begent Square, Llundain, fy nghydgynnrychiol- ydd—Mrs. Ranyard, yr hon a adwaenir yn benaf fel L. N. R., awdures enwog y "Booîc and its Story" a llyfrau da eraill—ei phriod, B. Ranyard, Yswain, o Lundain—ynghyd â Miss Ching, merch y Cadfridog Ching, un o gyfeill- esau mynwesol Mrs. Ranyard. Yr oedd y fordaith yn un o'r rhai bèraf; llai na deng niwrnod yn croesi o Liverpool i New York, y pellder o 3,061 o filldir- oedd, yn ol y cyfrif a gadwyd yn feunyddiol ar fwrdd y llong. Yn fuan ar ol myned i'r Atlantic, cawsom wynt cryf; a chyn cyrhaedd pen y daith, cyf- ododd tymhestl ddychrynllyd, nes peri i ni, yr anghyfarwydd, ddeall ystyr y gair storm heb droi i'r geirlyfr. Ar ol diwrnod anarferol o dawel, a hwnw y Sabbath, pan yr oedd pob peth yn gor- phwys, hyd yn nôd y môr mawr ei nunan, newidiodd yr hîn, gollyngwyd y gwynt allan o'r dyrnau Dwyfol, dechreu- odd y llestr rolio, a phitchio, ac ysgwyd, ac felly y parhäodd dros ran fawr o nos- waith. Ond erbyn trannoeth yr oedd yr ystorm wedi darfod, y tònau wedi ym- lonyddu, " a bu tawelwch mawr." Pan byddo eraill yn hongian arnom am gymhorth a chysur mewn trallod, mae yn rhaid, yn y cyfryw amgylchiadau, wrth gryider a hyder, pe na byddai ond er mwyn ein cyfeillion. Gweddio yw y gwaith y tueddir ni ato yn benaf pan yn teimlo nad oes rhyngom â'r byd. arall ond trwch yr astell yr ydym yn cerdd- ed arni, a bod yn bosibl, o leiaf, i'r cwbl fyned yn ddrylliau o'n cwmpas mewn mynydyn o amser. Yr oeddem ninnau, a phawb, am a wn i, yn ceisio gweddio, ond yr oedd rhai hefyd yn treio canu,_a dyma yr emyn â pha un y ceisiais gysuro fy hun ac eraül hefyd,— Jehovah rules the wave, His sovereign will is law ; . And he alone is brave Who views with sacred awe The power of Him who made the seas, And calms the raging storm with ease. Yr oedd, o leiaf, ddau cant o deith- wyr ar fwrdd y Uong, a'r rhan fwyaf o honynt yn first classpassengers; Saeson