Skip to main content

Y DRYSOBFA. Rhif XII.] RHAGFYR, 1847. [Llyfe I. aSgfograföaö. FELIX NEFF, GWEINTDOG YR ALPS. Ganwyd Felix Neffyn Switzerland, yn y flwyddyn 1798, a threuliodd ei febyd gyd a'i fam, yr hon oedd yn weddw, mewn pentref bychan gerllaw Geneva. Yr oedd o dueddfryd penderfynol a stoicaidd, a gwnaeth yr Arglwydd hyny yn foddion i'w gadw, yn more ei oes, rhag llwybr temtasiwn ; a chafodd ei dueddu at orchwylion a fuont wedi hyny yn dra gwasanaethgar iddo yn ei lafur pwysig. Gosodwyd ef yn gyntaf yn egwyddorwas gyda garddwr, ond arweiniwyd ef weäi hyny, oblegia rhy w anffodau, i enlistio fel milwr pan yn 17 mlwydd oed. Yr oedd ei ddealltwriaeth a'i ymddygiad teilwng yn gyfryw fel y cafodd ei wneuthur, yn mhen dwy flynedd, yn is-swyddog yn y fyddin. Tua'r amser yma y deffrowyd ef gyntaf yn achos ei gyflwr ysbrydol, a dyg- pwyd ef i weddio mewn geiriau y byddai yn fynych yn eu hail-adrodd ar ol hyny pan yn rhoi hanes ei droedigaeth—« O fy Nuw, beth bynag yw dy gymeriad, gwna i mi wybod dy wirionedd, boed yn wiw genyt amíygu dy hunan i'm henaid." Bu gwein- idogaeth y Parch. Dr. C. Malan, ac ereill, dan fendith i'w argyhoeddi o'i euogrwydd a'i ddieithrwch naturiol oddiwrth Dduw, ac i'w arwain at Grist, Cyfaill pechadur- iaid; ac ymddengys fod llyfryn bychan a elwir «Mel yn llifo allan o'r Graig,' yr hwn a gynwysa yn benaf gasgliad o adnodau o'r ysgrythyr, ynghydag egluriadau, wedibod o fuddioldeb tra mawr iddo. Yn 1819 ceisiodd ymryddâd o'r fyddin, ac ymgysegrodd yn hollol i'r gwaith o breg- ethu yr efengyl, gan ymweled â'r pentrefi o amgylch Geneva, lle yr oedd ganddo luaws o berthynasau, yn nhai pa rai y darllenai ac yr eglurai efe air Duw. Llafuriai gydag egni diflino er dwyn y'mlaen lesâd tragywyddol ei gyd-bechaduriaid. Darllenai y Bibl gyda'r gofal mwyaf, a chyfansoddodd Fynegair bychan, mewn trefn i wneyd ei hun yn fwy cyfarwydd â'i gynwysiad. Yn mhen ychydig amser yr oedd yn gallu adrodd amryw o lyfrau yr Ysgrythyr yn llawn ; a'r nodiadau lluosog a orchuddient ymylon dalenau ei Fiblau a'i Destamentau, a brofant iddo fod yn ddyfal a manwl as- tudiwr ar y Gyfrol sanctaidd. Yn 1820 bu yn offeryn troedigaeth i fwrddrwr oedd wedi cael ei ddedfrydu i farw, a'r hwn a fu yn gwasanaethu fel milwr yn yr un gat- rawd ag ef hun. Yn 1821 cydsyniodd â chais un o weinidogion Dauphiny i wasan- aethu yn ei le fel efengylydd, am ychydig o fisoedd. Yn mhen chwe' mis galwyd ef i Mens i gyflenwi lle un o'r gweinidogion yno am dymmor. Bu yma yn llafurio fel pastor-catechist, swydd ag sydd mewn arferiad yn Eglwys Ddiwygiedig Switzerland, er addysgiad crefyddol yr ieuenctid. Cyfarfyddai a'r rhai a osodwyd dan ei ofal bed- air gwaith yn yr wythnos, a dysgai hwynt yn ofalus yn ngair Duw a'r Catechism sydd mewn arferiad yn mysg eglwysi uniongred yn y wlad hono. Bendithiwyd ei lafur yn helaeth iawn. Dawnsio, chwareu cardiau, a darilen llyfrau niweidiol, y rhai oeddynt o'r blaen yn bethau tra chyffredin, a roddwyd heibio, a dygpwyd llaweroedd, yn hen ac ieuanc, ac o wahanol amgylchiadau, i brofi gweithrediadau crefyddol dwysion iawn. Yr oedd yn dra ymroddgar gyda'i orchwylion, a chafodd ei gynal yn rhyfeddol yn ngwasanaeth ei Feistr. Bu ei lafur yn hynod o fendithiol, yn enwedig yn mysg yr ieuenctid. Ymwrthododd lluaws o honynt â deniadau y byd,—cyfarfyddent â'u gil- ydd yn aml i ymddyddan am bethau ysbrydol, i gyd-weddio a chanu mawl i Dduw. Dilynwyd eu hesiampl yn y gymydogaetb, a llawer ag oeddynt wedi eu deffroi i ys- tyriaeth o bwyaigrwydd pethau Dwyfol, yn y rhandiroedd cjmydogol, a ymunasant â'r Cristionogion ieuainc yn Mens, ac a ddechreuasant weithredu yr un modd a hwy- thau. Sefydlwyd Cymdeithas Fiblaidd, a Chymdeithas Traethodau Crefyddol, mewn Cyfres Newydd. g g