Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif XI.] TACHWEDD, 1847. [Lltfr I. 13öb)graföa&. MR. DAVID RICHARDS, Dowlais, Sir Forganwg. Ganwyd Davîd Riohards mewn lle a elwir Cwm-y-cae-bach, plwyf Llanfair-ar-y« bryn, Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1811. Yr oedd gan ei rieni saith o blant, ac efe oedd yr ieuengaf o honynt oll. Bu farw ei dad pan ydoedd ond naw niis oed, gan adael gweddw a saith o amduifaid ar ei ol. Ni chafodd ond ychydig o fanteision crefyddol yn ei ddygiad i fynu o herwydd pellder y flbrdd oedd i fyned i foddion gras. Yr oedd ei fam yn ddynes grefyddol, ac ymdrechar iawn i fagu ei plüant yn ofn yr Arglwydd. Yr oeäd o'i febyd yn blentyn syml a hoff, a phob amser yn ufudd i'w fam. Bu Ysbryd yr Arglwydd yn yraryson ag ef er yn foreu iawn. Pan ydoedd ond pedair blwydd oed, daeth ystyrlaeth am dragywyddoldeb yn ddwys iawn i'w feddwl, nes ydoedd yn methu a chysgu y nos. Pan yn ddeg oed ymroddodd i ddysgu darllen, a myned i bob moddion o ras. Pau yn 14eg aeth i ddysgu y gelfyddyd o ddilledydd, at Mr. W. Jones, Pentref-nant-pain. Yn mhen blwyddyn a hanner symudodd oddiyno i Gil- cwm, lle yr ennillwyd ef i wneuthur proffes gyhoeddus o Grist, ac ymlyniad wrth ei bobL Yn y flwyddyn 1839 daeth i Dowlais. Wedi ymsefydlu o hono yn Dowlais, ffuríìwyd tuedd yn ei feddwl at waith y weinidogaeth, a chryfäodd hòno yn fwyfwy, fel y gorfu arno ddyweyd am y tyw- ydd yr oedd ynddo wrth un o'r hen flaenoriaid, yr hwn yn ei ateb a ddywedodl wrtho, fod yn dda iawn ganddo glywed. " Neithiwr, (cbe'r hen flaenor) bu y brawd John Pugh yn dywedyd wrthyf fod yr un peth ar ei feddwl yntau." Felly rhoddodd yr hen flaenor achos y ddau fraŵd hyn o flaen yr eglwys, a chydunodd yr eglwys yn unfrydol i'w hachos gael ei ddwyn i Gyfarfod Misol y Sir; a chawsant eu rhyddid i arfer eu dawn yn gyhoeddus yn y rhan hòno o'r gwaith. Golygiadau y cyfeillion y pryd hyny am y brawd David Richards fel pregethwr oedd, nad oedd ei ddrychfeddyliau ond byrion, eto yn naturiol a chywir. Yr oedd ei ysbryd yn iraidd a bywiog, ei eiddigedd yn danllyd, a'i iaith yn sathredig a di- rodres, a chywirdeb ei amcan yn boddâu ei gyfeillion yn fawr iawn. Byddai yn danllyd mewn zel nefolaidd pan y caffai hwyl o ran ei feddwl gyda'r tannau dwyfol hyny, sef y Cyfryngwr, a'r Iawn bendigedig; ac ymroddodd i'r gwaith gyda diwydrwydd mawr. Byddai ei holl ymdriniaethau ag achosion eg- lwysig yn onest a diduedd, heb gymeryd swydd, oedran, na sefyllfa neb, yn rheol i'w ymddygiadau tuag atynt. Dywedai y gwir withynt yn ddidderbyn wyncb. Gallai fyned yn agos ìawn at ddynion lled anhawdd myned atynt, a dywedyd y gwir llymaf wrthynt heb eu tramgwyddo. Fel pregethwr, fel y gwyr Uawer, ni chyrhaeddodd efe dir eang iawn mewn gwybodaeth gyffredinol, a dawn ennillgar; er hyny, nid canwyll dan lestr, na halen diflas, na gwas diog, a fu y brawd hwn, ond yr oedd ei olygiadau bron bob amser ya rhai priodol yn ol eu gradd; a cheid ganddo bethau na buasid yn dysgwyl am danynt. « Bu yn ffyddJawn ar ychydig, gosodwyd ef ar lawer: aetb i mewn i la- wenydd ei Arglwydd." Cyfres Newydd. d d