Skip to main content

Y DRYSOBFA. Rhif IX.] MEDI, 1847. [Lltfb I. 33yíoarafKaö. MRS. PETERS, CAERGWRLE. [RnODDASOM yn cin rhifyn diweddaf fywgraffiad o un o'r Maniau yn Israel yn Neheubartü Cymru, a chyhoeddwn yn awr hanea un o'r rhai hynodaf a adwaenem yn y Gogledd, gan hyderu yn o gryf y cydsynia cin holl ddarllenwyr à ni yn y farn fod y ffeithiau dyddorol a adroddir am dani hi ac creill yn gwneyd vr hanes vn dra theilwng o'r lle a roddasom iddo.] Ganwtd Mrs. Peters, Gorphenaf 22ain, 1763, mewn tyddyn a elwir y Cymmau, yn mhlwyf Eystyn, neu Ilope, gerllaw Caergwrle, Swydd Fíìint. Ei rhieni oedd- ynt Edward a Mary Ellis, i ba rai y bu deg o blant,—chwech o feibion a phedair o ferehed ; a Dorotby—gwrthddrych y cofiant hwn—oedd yr ieuangaf. Yr oedd ci rh'ieni (yn enwedig ei mam) yn hynod am eu helusengarwch, ac er cymaint a gyfranent i'r tlawd, yr oedd eu hamgylchiadau bydol yn llwyddo. Cyfrifid hwynt hefyd yn mysg y rhai blaenaf mewn moesoldeb, ac yn yr hyn a ystyrid y dyddiau hyny yn grefydd. Yr oedd y tad yn fanwl iawn mewn cadw y Sabboth, a gofalai am ddwyn ei blant gydag ef i'r Èglwys, yn gyffredin ddwywaith bob Sabboth. Rhoddwyd i'r plant ddysgeidiaeth gyifredinoî, ac edrycbid arnynt oll fal rhai wedi cyrhaedd standard moesoldeb a chrefydd. Un o'r meibion ydoedd Robert Ellis, yr hwn oedd yn mysgy rhaicyntaf a alwyd i weinyddu yr ordinadau yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd yn 1811,* ac a fu farw yn y Wyddgrug yn y flwyddyn Ì820. Aeth i Lundain pan oedd gwrth- ddrych ein cofiant tua 17 mlwydd oed, a gwnaed sylw o hono yn lled fuan gan ryw bersonau a berthynent i Athrofa yr Arglwyddes Huntingdon yn Cheshunt, y rhai a'i gosodasant ef yno. Pan y daeth, yn mhen ysbaid o amser, i ymweled a i deulu, canfu Dorothy gyfnewidiad mawr ynddo, canys yr oedd, tra bu yn Llundain, wedi cael ei wneyd, nid yn unig yn bregethwr ond yn gristion hefyd; a dychwelai adref o ganlyniad yn ddyn newydd ; a bu gweled y fath gyfuewidiad wedi ei effeithio gan wir grefydd arno ef yn fendithiol i'w dwyn hithau i feddwl yn ddwys am fater ei henaid. Yr oedd cyn hyn wedi profi gradd o ddwyseiddiad meddwl trwy gynghor- ion hen wr duwiol o'r enw Thomas Êdwards, yr hwn oedd yn Droellwr wrth ei alwedigaeth, ac yn byw yn Nghaergwrle, a'r cyntaf (hyd yr ydys yn gallu olrhain) a fu yn proffesu crefydd yn y lle hwnw. N"id anmhriodol, debygid, yw rhoddi gair o goffâd yn y fan yma am yr hen gristion a enwyd. Gan faint oedd ei awyddfryd am foddion gras, byddai yn arfer gweithio wrth ei alwedigaeth am rai wythnosau, ac wedi casglu ychydig o arian, efe a ddilynai y pregethwyr a ddeuent i'r ardal o ían i fan tra y paräent, ac yna dychwelai at ei waith, i wneuthur fel o'r blaen. Ac mewn trefn i gael pregethu i'r pentref cymer- odd Lease (yr hon oedd i barâu dros ei oes) o ddarn o dir, ac adeiladodd arno gapel bychan. Gwnaeth hyn bron yn hollol ar ei draul ei hun; a llafuriai yn ddyfal i gael oedfàon yn y capel mor aml ag y byddai modd. Dygwyddodd iddo unwaith ofyn i ]\Ir. Jones, Llangan, pan oedd ar daith yn y Gogledd, pa bryd y deuai i Gaergwrle, ac atebai y gwr parchedig, " Pan ddeui di i Langan i fy nhol * Gwel " Cyffes I-fydd." Cyfres Newydd.