Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DBYSORFA. Rhif VIII.] AWST, 1847. [Llyfr I 23gÉDgra€5aìí. MRS. EBENEZER MORRIS, Gynt o Flaen-y- ÌFern, Ceredigion- Mes. Moreis ydoedd fereli i Walter Francis Jones, o'r Dinas, a Ruth Davies, orr Cilfallen, plwyf Bettws-Ifan, Ceredigion. Ganwyd hi yn Mherthgeraint, yn y plwyf uchod, yn y flwyddyn 1769. Bu farw ei mham pan nad oedd hi ond saith mlwydd oed. AYedi hyny ei hewythr a'i mhodryb, pa rai oeddent yn ddiblant, a*i cymerasant hi atynt i'r Dinas, yn bìentyn mabwysiedig iddynt. Gan eu bod mewn sefyllfa uchel a chyfoethog yn y byd, rhoddasant iddi yn ieuanc ysgol dda yn nhreû Castell newydd yn Emlyn a Chaerfyrddin. Yr oedd ei mhodryb yn wraig grefydd- ol, a hi a'i maethodd yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ond ni chafodd ei dwyn i fynu o'i mabandod yn yr eglwys, yr hyn sydd ragorfraint i blant credin- wyr, o ba un y mae llawer o ri'eni yn rhy ddiystyr eto. Clybuwyd Mrs. Morris amryw weithiau yn adrodd mai y Parchedigion Daniel Rowlands, o Langeitho, William Williams, o Bant y celyn, ac enwogion eraill, a deithient y wlad yr amser hwnw i bregethu yr efengyl, ac a íettyent yn y Dinas gyda'i hewythr a'i modryb, a fuont, trwy eu cynghorion a'u hannogaethau, yr offerynau penaf, dan fendith, i'w dychwelyd at yr Arglwydd, a'i harwain i'w eglwys; ac yn enwedig y Parch. W. Williams. Efe a sylwodd ar ei hymddygiad gwylaidd a sobr, ac a ofynodd i'w mhodryb a ydoedd y ferch ieuanc wedi ymuno â chrefydd; a phan yr atebodd hi nad oedd, dywedodd yntau y dylasai fod wedi gwneuthur hyny—mai yn yr eglwys yr oedd ei lle; ac felly efe a'i hannogodd yn serchog i ymuno yn ddioed âg eglwys Dduw. Ufuddäodd hithau i'w gynghor gyda gwylder a pharchedig ofn. Yr oedd yn ddeunaw mlwydd oed pan yr ymunodd â'r Methodistiaid Calfìnaidd yn Nghas- tell newydd yn Emlyn. Yr amser hwnw byddai yn gorfod myned yn mhell o fíbrdd i wrandaw yr efeng- yl, oblegyd ychydig o dai addoliad oedd yn Sir Aberteifi yn ei chof cyntaf hi, Byddai y Parch. Daniel Rowlands yn dyfod i gapel y Tvvr-gwyn bob dau neu dri mis i bregethu, ac i weinyddu yr ordinhâd o Swper yr Arglwydd. Bu hi yn myned rai gweithiau o'r Dinas 1 Langeitho ar fore Sabboth y Cymundeb. Yr oedd y daith i fyned a dychwelyd yn llawn hanner cant neu ragor o filltiroedd. Llawer gwaith y dywedodd y byddai y morwynion duwiol a wasanaethent yno yn y dyddiau hyny, yn codi am ddau o'r gloch bore Sabboth y Cymundeb i odro 'r buwchod, ac yn cerdded yn droednoeth, a'u hesgidiau a'u hosanau yn eu dwylaw, oddiyno i Lan- geitho i wrandaw ar yr enwog Rowlands yn pregethu, ac i gyfranogi o ordinhâd Swper yr Arglwydd; ac wedi hyny dychwelent yn ol mewn pryd i odro y pryd- nawn. Onid oedd crefydd yn peri llafur mawr i bobl Dduw yn y dyddiau hyny ? Yr oedd yn peri na byddent na segur na diffrwyth; eto er eu holl drafferth, yr oedd y gwleddoedd a fwynäent yn ddigon o dâl iddynt, hyd yn nod yn y fuchedd hon. Byddai eu telynau mewn hwyl i ganu am y rhan fwyaf o'r holl ffbrdd. Pan yn dair ar hugain oed, bu gwrthddrych ein cofiant niewn profedigaeth go fawr, sef mewn cysylltiad a'i mynediad i'r ystâd briodasol. Yr oedd hi yn cael-ei hystyried yn etifeddes gyfoethog; ac yr oedd dyn ieuanc boneddig a galluog yn^y byd, yr hwn oedd yn berchen Uawer o diroedd yn y gymydogaeth, yn cynnyg ei hunan iddi; a chan fod ei hewythr o dueddjfydol, yr oedd ef yn cefnogi y cynnyg- CrFRES Newydd. ü