Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif VII.] GORPHENAF, 1847. [Llyfr I. 33pfograflíarj. Y PARCH. DAYID CHARLES, CAERFYRDDIN. RHAN III. Yr ydyrn wedi rhoddi hanes lled helaeth, yn y ddau rifyn diweddaf, am Mr. Charles fel pregethwr, ac yn ol ein haddewid ni a orphenwn y Cofiant hwn gyda rhai sylwadau ar ei gymeriad cyffredinol fel cristion, cyfaill, a phen-teulu. Nid rhyw beth a roddai mewn ymarferiad fel gweinidog, neu a ddylanwadai ei gymeriad cyhoeddus yn unig, oedd duwioldeb Mr. Charles, ond yr oedd yn perth- ynu i'r dyn—yn egwyddor lywodraethol ei holl feddyliau, ac yn rheol ei holl weith- rediadau. Yr oedd cyfansoddiad ei feddwl y fath, íel na buasai byth wedi dyfod yn addysgydd cyhoeddus oll, oni buasai y teimlad tra-dwys o wirionedd, pwys- fawredd, a gogoniant yr efengyl ag oedd wedi cymeryd meddiant o'i galon. Yr oedd o naturiaeth yn hynod o wylaidd; enciliai rhag y meddwl o'i fod yn gymhwys i fbd yn ddysgawdwr i eraill, ac nid allai, ac ni ddarfu dim dynol yn unig ei ddwyn allan i gyfarfod cynulieidfa o'i gyd-ddynion, i fod yn ddysgawdwr iddynt. Nerth Duw—grym y cymhelliad, yn codi oddiar olwg ar ogoniant Duw, a'i Iachawdwr- îaeth, yn unig oedd " ddigonal" iddo ef yn y golygiad hwn, Yr oedd yn bregeth- wr trwy gymhelliad;—yr oedd cariad Crist yn ei gymhell, ac yr oedd y symbyliad grymus hwn yn rhwym i fod mor hir hoedlog â'i weinidogaeth; yr ydoedd felly mewn gwirionedd—ni allasai bregethu yr un bregeth yn rhagor gyda rhwyddinet) wedi i'r gallu hwnw ei adael. Nid oedd o dan un rwymedigaeth ddynol, unrhyw bryd, i barâu yn y weinidogaeth un awr yn hwy; yr oedd pob ymdrech personol yn offrwm gwirfoddol i Ben mawr yr eglwys; a phenderfynodd yntau na dderbyn- ìai un wobr am dano ond a ddeuai oddiwrth yr Hwn a'i gorchymynodd. Yr hyn a barai arswyd, gobaith, a syndod, a llawenydd annhraethadwy a gogoneddus i'w enaid ei hun, a'r hyn a rwymai ei fywyd mewn cariad ac ufudd-dod, oedd y pethau y llefarai am danynt wrth eraill; a siaradai am y pethau hyny, ar achlysuron pri- odol, yn ddirgel yn gystal ag yn y cyhoedd. Ceisiai ddwyn eraill i feddiannu yr hyn a fwyneid ac a ymarferid ganddo ef ei hun. Mae ei bregethau yn dangos pa mor oleu a dyrchafedig oedd ei syniadau; ac amlygid ei ffyddlondeb mewn ceisio eu gwasgu at feddyliau a chalonau eraill yn ei lythyrau at ei gyfeillion, o ba rai y dodwn yma enghraifft neu ddwy. Y cyntaf a roddwn sydd ran o lythyr at wr ieuanc pan ar fin trancedigaeth, ar ol treulio ei oes mewn oferedd;— " Yr wyf yn gobeithio y gwnaiff Ehagluniaeth yn dirion eich adferu i'ch teulu. Ond y mae un peth o fwy pwys i chwi, ac yt wyf yn meddwl ei fod yn pwyso mwy gyda mi na'ch adfer- iad i iechyd. Chwi a ddeallwch heth wyf yn ei feddwl—di/chweliad at Dduw a chrefydd. Yr ydych wedi clywed cymaint ar hjm, fel mai o'r braidd y mae genyf ddigon o galondid i ddyweyd dim ychwaneg; ond WTth ystyried yr holl berthynasau ac amgylchiadau yr ydych wedi cael eich gosod yndd\mt gan Ragluniaeth, nis gallaf ymattal rhag dyweyd rhai o'r lluaws pethau sydd ýn ymgymheìl i'm meddwl ar y mater pwysig. Pe gallai fy ysgrifell ufuddâu i mi, gosodai o'ch blaen yr oll ag oedd yn hawddgar a duwiol jm y rhieni a gladdasoch, eu holl esiamplau duwiol, eu cynghorion lla\vn o ofal a serchawgrwydd a phrydcrwch jr'nghylch eich llesâd penaf yn yr holl waredigaethau trwy ba rai y cawsoch y& drugarog eich cipio o safn marwolaeth. ÄIi a'ch cyfeiriwn at yr hawl sydd gan eich teulu jm eich gofal a'ch serch; ac uwchlaw y cwbl mi a blediwn gyda chwi fy hunan trwy yr oll sydd yn arswydol, dychrynad • Cyfres Newydd. II