Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYSORFA. Ehif VI.] MEHEFIN", 1847. LLltfr I. 23píxigraf5aö. Y PARCH. DAVID CHARLES, CAERFYRDDIN. RHAN II. Dygasom hanes Mr. Charles, yn ein rhifyn diweddaf, hyd at ei ordeiniad, ac awn rhagoni yn awr i nodi rhai o'r pethau mwyaf hynod yn ei gymeriad fel gweinidog yr Efengyl, gan ddefnyddio yn benaf, fel o'r blaen, sylwadau awdwr y Cofiant Saesonig. Yr oedd Mr. Charles, yn ystod yr ugain mlynedd y bu yn fiaenor eglwysig, yn gweithredu ar yr egwyddor o wneyd pregethiad yr efengyl i'r annghrediniol yn un peth, ac adeiladaeth yr eglwys yn beth arall. Cyfyngai ei lafur ei hun i wasanaeth yr olaf; a phan y cafwyd ganddo, wedi hyny, draddodi ei syniadau yn fwy cy- hoeddus, y rhai mwyaf ysbrydol yn mysg fprofíeswyr fyddent yn cael mwyaf o adeiladaeth. Yr oedd yr hyn a ddywedai yn dwyn y fath berthynas â phethau uwchaf Ysbryd Duw, fel mai anfynych yr oedd 'y dyn anianol' yn ei ddirnad. Perchid ef yn fawr iawn gan y gwrandawyr yn gyffredinol; ond ni ennillodd fesur mawr o'r poblogrwydd hwnw a arddangosir trwy ymgynulliad tyrfaoedd mawrion. Ymddengys nad oedd y pregethau a draddodai ond cynifer o gasgliadau o'r medd- yliau hyny â pha rai y ceisiai adeiladu ei frodyr, pryd nad oedd neb ond hwynt hwy yn unig yn bresenol i wrando arno, Nid yw ei apeliadau at bechaduriaid anedifeiriol, a dirmygwyr cyhoeddus crefydd, ond ychydig o ran nifer ; ond y maent yn gyffredin yn hynod o darawiadol a difrifol; ac ymddangosant, mewn rhyw ystyr, i gyd o'r un nodwedd: cyfodant oddiar ystyriaeth o Dduw yn mawrydi ei natur a'i berffeithiau, yn ngogoniant ei unig iachawdwi-iaeth, ac yn nodwedd y byd tragywyddol. Fel pe dywedai—" Os yw y pethau hyn felly, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur ?—Os yw y pethau hyn felly, paham yr esgeuluswch, yr oedwch, neu y digalonwch?—Os yw y pethau hyn felly, pa fodd y gellwch chwi oddef dydd ei ddyfodiad ?" Yr oedd ei eiriau, yn gyífredin, wedi eu bwriadu i'r rhai adgenedledig a sanct • ieddiedig yn mysg ei wrandawyr; ac yr oedd efe iddynt hwy fel cenad arbenigol o'r nef, yn dwyn gydag ef sypiau o fírwythau mwyaf' dewisol gwlad yr addewid. Ond yr oedd ei ddull yn tueddu i gynyrchu yr argraífîadau mwyaf dymunol ar gydwybodau pawb. Ni allai neb ammheu ei grediniaeth ef o'r pethau a draddodai, pa un bynag ai llefaru a wnai am Dduw yn ei gariad a'i drugaredd, ai ynte fel y Duw sydd yn dân ysol;—yr oedd pawb yn deall ei fod yn credu ac yn teimlo gwirionedd y ddau. I'r " neidr fyddar" yn unig yr oedd siawns i ddianc rhag gallu y swyn a godai oddiar ddysgleirdeb a difrifoldeb ei enaid ef. Yr oedd ei bregethau yn ddiwastraff o ran geiriau a meddyliau ; ni alîai neb osod ei fys ar un rhan o bregeth o'r eiddo, a dyweyd ' Nid wyf yn cuddio unrhyw syniad buddiol.' Nid peth i gellwair âg ef ydoedd achos tragywyddol dyn, gydag ef; a phan y byddai yn cyfarch profieswyr, ni byddai un amser yn colli golwg ar y posiblrwydd y gallai fod rhai rhagrithwyr yn sefyll o'i flaen; a phan y ceisiai ad- fywio gobaith a llawenydd y gwir gredadyn, arddangosai lawer o farn affyddlondeb yn ei ymgais i chwalu rhyfyg yr hunan-dwylledig, a dychrynu y twyllwr ymwy- bodus allan o'i annuwioldeb hyí Çyfres Newydd. p