Skip to main content

Y DRYSORFA. r„if IV.] EBRILL, 1847. [Llyfb I. 33gíngraföatí. CELIO SECUNDO CURIO, Y DIWYGIWR ITALAIDD. Ee fod gorseddfainc Pabyddiaeth yn Itali, gweithiodd y Diwygiad Protestanaidd ei fibrdd hyd yno yn more yr unfed ganrif ar bymtheg, ac aennillodd sylw nid bychan drwy ei hamrywiol wledydd. Derbyniwyd egwyddorion y Diwygiad yn groesaw- gar gan laweroedd, yr hyn a barodd i'r awdurdodau Pabaidd gyffroi mewn llid- ìawgrwydd, ac ni orphwysasant nes llethu y Diwygiad yn ngororau Itali trwy gar- chariadau a llofruddiaethau y Chwil-lys melldigaid. Un o'r rhai enwocaf a fu yn oíferynol i ledanu egwyddorion Protestaniaeth yn Itali y pryd hwnw ydoedd Celio Secundo Curio, enw yr hwn a ddylai fod yn llawer mwy adnabyddus nag y mae; ac y mae yn dda genym ein bod yu gallu cyflwyno ychydig o'i hanes nodedig i'n cydgenedl. Ganed ef yn Turin, prif-ddinas Piedmont, yn 1503 ; yr oedd yn îeuengaf o dri Ar hugain o blant. Gadawwyd ef yn blentyn amddifad pan nad ydoedd ond naw mlwydd oed, ond cafodd er hyny y fantais o dderbyn dysgeidiaeth helaeth yn mhrif-ysgol ei ddinas enedigol. Darfu i'w dad adael iddo fel cymynrodd gopi ysgrifenedig hardd-deg o'r Ysgrythyr Lân, yr hwn a ddarllenwyd yn ofalus gan- ddo, a'r hâd sanctaidd a wreiddiodd yn fore yn ei feddwl. Pan yn ugain oed, cafodd gyíîeusdra, trwy garedigrwydd rhai o fynachod Awst- inaidd Turin, i astudio ysgrifeniadau y Diwygwyr Germanaidd. Yr oedd eu heg- wyddorioa hwy yn cydweddu â syniad ei feddwl ac arehwaeth ei galon; a'r fath oedd ei awyddfryd gwresog am ddyfod yn fwy cydnabyddus âg athrawiaethau Protestaniaeth, fel y cychwynodd tua Germany, a dau wr ieuanc gydag ef, y rhai a hynodasant eu hunain wedi hyny trwy eu zel o blaid y Diwygiad. Ar eu taith dygwyddodd iddynt fyned i ddadleuaeth wresog gyda rhywrai ynghylch rhai o'r pynciau Pabaidd, a daeth hyny i glust esgob Ivree, un o gardinaliaid Rhufain, ac efe a daflodd y tri gwr ieuanc i garcharau gwahanol. Yr oedd Curio yn perthyn i rai o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd yn Piedmont, a chafodd ei ryddâu yn fuan trwy ddylanwad ei berthynasau. Y cardinal wedi d) fod yn gydnabyddus â don- iau helaeth y gwr ieuanc a gynnygodd ei gynncrthwyo i gael mwy o ddysgeidiaeth, ac a gafodd dderbyniad iddo yn mhrîordŷ St. Benigno oedd yn y gymydogaeth, gan feddwl y byddai i hyny ei gadarnâu yn y ífydd Babaidd. Ond yr oedd athraw- iaethau Gair Duw wedi suddo mor ddwfu i fynwes Curio, fel nas gallasai gael blas ar ddaliadau a defodau Pabaidd; ac efe a ymroddodd â'i holl egni i geisio argy- hoeddi y mynachod o flblineb eu hymarferion ofergoelus, ac o'r anghenrheidrwydd o ddyfal chwilio yr Ysgrythyrau. Pa fodd bynag, oddeutu y flwyddyn 1530, bu raid i Curio flbi ymaith am ei fywyd o'r mynachdŷ. Yr oedd wedi sylwi ar flwch a adawsid ar yr allor, yr hwn oedd yn cynnwys ynddo rai creiriau (reìics) pabaidd, ac efe yn ddirgelaidd a'i hagorodd, ac a gymerodd ymaith y creiriau, gan ddodi yn eu lle gopi o'r Bibl, gyda'r arysgrifen ganlynol:—" Dyma arch y cyfammod, syäd yn cynnwys didwyll ymadroddion Duw, a gwir weddillion y saint." Yr oedd uchel- wyl fw chadw yn fuan wedi hyny, ac yn yr wyl agorwyd y blwch yn gyhoeddus i arddangos y creiriau sanctaidd, pryd y cafwyd fod cynnwysiad y blwch o ansawdd tra swahanol i'r hyn a ddysgwyhasìd weled gan y mynachod. Yn y fan syrthiodd Cyfres Newydd. * " k