Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DBYSORFA. Rhif III.] MAWRTH, 1847. [Ljlyfe I. Y PARCII. ROBERT GRIFFITHS, DOLGELLAIT. Rhan II. Yn ein rhifyn diweddaf, gadawsorn wrthddrych ein cofiant yn adrodd ei brofiad fel crefyddwr ieuanc yn Liverpool; ac yn awr cawn ei ddilyn yn ei ddychweliad i Ddolgellau, a gwrandaw arno yn myned ymlaen â'i hanes hyd ddechreuad ei wein- idogaeth:— " Byddai rhai o honom ag oedd yn deall Saesonaeg yn myned yn fynych i wran- daw ar y Parch. S. Medley, gweinidog enwog gyda'r Bedyddwyr yn Liverpool, ar ol y bregeth Gymreig naw o'r gloch boreu Sabboth; ac nii a fyddwn yn ddiau yn cael Hes yn aml dan ei weinidogaeth. Un tro yr oedd yn sylwi fod rhai dynion yn dysgu y Bibl, yn lle gadael i'r Bibl eu dysgu hwy; a bod rhai yn arwain Rhaglun- iaeth, yn lle gadael i Ragluniaeth eu harwain hwy. Meddyliais mai niyfi oedd y dyn a wnaeth hyny droiau. Bum, pan yn llencyn ieuanc, megys yn arwain Rhag- luniaeth yn yr Âmwythig* ac yn Llundain, ac ar y môr un daith i Dublin, ond yn ol y byddwn yn dyfod yn fuan; eithr yr oedd yn ddiammheuol genyf mai Rhag- luniaeth a'm harweiniasai i Liverpool, canys yno y cefais grefydd, a rhoddodd cref- ydd i mi feddwl boddlawn. * Elw mawr yw duwioldeb gyda boddlonrwydd.' Penderfynais, wrth wrandaw ar Mr. Medley, nad awn i ddim o Liverpool bellaeh heb ryw arwydd fod Rhagluniaeth yn fy arwain oddiyno. A byny a ddygwyddodd yn fuan. Aeth pob gweithfáoedd yn ddrwg yn nhrefydd mawrion y deyrnas ; y pryd hwn, yr oedd y chwyldroad mawr yn Ffrainc, a'r amser yma (1793) y tor- wyd pen y brenin yno. Fel hyn yn mis Mai y flwyddyn hòno, ymsefydlais yn Nbl- gellau, lle y ganwyd ac y magwyd fi. " Yr oedd y pryd hyn gryn ddiwygiad yn îsTolgellau; yr oedd achos crefydd gyda'r Methodistiaid yn llawer mwy siriol nag y gwelswn i ef pan yr oeddwn yno o'r blaen. Er nad oedd y proffeswyr yn gyífredin ond pobl isel eu sefyllfa, ac yn cael eu cyfrif yn rhai pur wael, ' fel ysgubion y byd,' eto yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel fel ei bobl, a hwythau yn ei ddilyn yntau, ac yn ceisio sefyll yn erbyn llygredigaethau eu cymydogaeth. Er mai chwerthin am eu penau yr oedd llawer, yr oedd cydwybodau y gwatwarwyr yn tystio mai y bobl a wawdid ganddynt oedd yn eu lle. * " c " Cefais flaenoriaid y society yn Nolgellau yn dirion iawn, a byddwn yn cyfeill- achu llawer â hwy. Byddwn yn arfer myned gyda hwy i gadw cyfarfodydd fweddiau, a societies, ar y suliau, i Aber-corris, Cwrt, Llanerch-goediog, Bwlch, dwyn-gwril,-Tŷ-Ddafydd (yn awr Sion), Bont-ddu, Llanelltyd, Llanfachreth, &c. 70. " " ' ' ' ------ Edward Foulks; ac yn y pen dwyreiniol, Mr. Charles, John Evans, Humphrey Edwards, David Edwards, David Cadwalader, a Richard Ed- wards, o'r Bala; Hugh Evans, Sarnau; John Dafydd, Llwynengan; a John \\ ìlliams, Dolyddelen. O herwydd prinder preíjethwyr, byddai raid i ni deith- 10, fel y nodwyd, i gynnal cyfarfodydd gweddíau. Yn y cyfryw gyfarfodydd, Cyfres Newit>d. " a