Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhip n.] CHWEFROR, 1847. [Llyfr I. Y PARCH. ROBERT GRIFFITHS, DOLGELLAU. Rhan I. Robert Griffiths ydoedd fab i Griffith a Margaret Roberts, o Dafarn y Tŷ mawr, Dolgellau. Ganed ef Hydref 13, 1770. Pan nad ydoedd ond 12 oed, bu farw ei dad. Cafodd ysgol dda er pan ydoedd yn bur ieuanc, ac wedi hyny dyg- wyd ef i fynu yn y gelfyddyd o wneuthur hetiau. Gan nad oes genym ychwaneg i'w ddywedyd am ei flynyddoedd boreuol, cyfleuwn o flaen ein darllenwyr yn ddi- ymdroi yr hyn a ysgrifenodd Mr. Griffiths o'i hanes ei hun, yn cynnwys ei helynt o ddechreuad ei argraffiadau crefyddol hyd nes y dechreuodd ar y gwaith o bregethu :— " Wedi bod yn ymddyddan â chyfaill mewn perthynas i ysgrifenu ychydig o hanes y pethau mwyaf neillduol a ddygwyddodd i mi, ar fy nhaith trwy anialwch y byd h-\n hyd yn byn, bum rai gweithiau yn eistedd i lawr gan feddwl dechreu ar hyny ; ond wedi hyny byddwn yn taflu y pin a'r papyr heibio, gan feddwl y gallai dynion gasglu mai am wag-ogoniant yr oeddwn yn ysgrifenu fy hanes. Byddwn y:i meddwl hefyd gymaint o hanesion bywydau sydd wedi eu cyhoeddi, y rhai a allasent fod yn fuddiol pe ysgrifenasid hwy yn well; ac hefyd gymaint sy genym o hanes rhai, nad oedd dim nodedig yn eu bywyd yn werth ei ysgrifenu, hyd onid ydyw yn dreulio amser yn ofer i ddarllen y cyfryw hanesion di-hanes. Braidd y ceir diwedd ar hanes ambell un, heb ddim anghyffredin yn yrholl adroddiad. Mae hyny yn rhy debyg i ragrith, a gweniaeth i'r teulu a fyddo ar ol: Fe allai y bydd un arall yn yr un gymydogaeth, wedi bod mor os nad yn fwy defnyddiol yn ei fywyd, ond heb ddim coffa am dano ef ; a bydd codi y naill, ac esgeuluso y llall, yn waeledd yn ngolwg y cyffredin. Ond meddyliais wedi hyny am yr ochr arall i'r ddalen. Ysgrythyrau felly a'm cynhyrfasant i ysgrifenu tipyn : ' A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi, y deugain mlynedd hyn, trwy yr anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi,' &c. Deut. 8.2. « Dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti.' Luc 8. 39. Gallaf hefyd dystiolaethu fod hanes duwiolion wedi bod yn fuddiol iawn i mi fy hun. Yn wyneb llawer math o brofedigaethau a'm cyfarfyddodd, bu yn gysur mawr i mi pan yn meddwl fy mod mewn anialwch ag na sangodd yr un o'r saint arno, i gael taro wrth ol troed am- bell un yno. Ac fel hyn yr wyf yn ystyried y dylem fynegi i'r rhai sydd yn ofni Duw, yr hyn a wnaeth efe i'n heneidiau. Wrth fyned at y gwaith o roddi i lawr fy hanes fy hun, dymunwn i hyny effeithio arnaf i'm darostwng i'r llwch, a'm dwyn i ganmawl gras fy Nuw yn y cwbl o'i droion tuag ataf, gan gyffesu mai daioni a thrugaredd a'm cylchynodd holl ddyddiau fy mywyd, er mai anniolchgar a drwg y cafodd Efe fyfi. J " Un o'r pethau mwyaf neillduol yr ydwyf yn ei gofio a ddechreuodd dueddu fy meddwl at radd o sobrwydd, ac i sylwi ar fy ffyrdd, oedd myned i wrandaw yn ddamweiniol ar y pregethwyr a ddeuent yn achlysurol i'n tref; rhai yn perthyn i'r Bedyddwyr, ond yn amlaf i'r Methodistiaid. Byddwn yn cael rhyw bleser neill- dunl wrth wrandaw ar bregethwr doniol; weithiau mi a gawn fwy o bleser nag mewn dim arall bron. Ond byddwn yn ceisio dilyn pleserau cnawdol ar yr un Cyfres Newydd. d