Skip to main content

Y DRYSOEFA. Rhif I.] IONAWR, 1847. [Lltfr I. 33píograföaîf. Y PARCH. JOHN REES, LLÜÎîDÁIlí. Gwaith hyfryd a llesol yw astudio egwyddorion crefydd fel eu gosodir allan mewn duwinyddiaeth ; ond mwy tarawiadol i ni yw gweled crefydd yn tyfu, yn blodeuo, ac yn ffrwytho o flaen ein Uygaid mewn hanesyddiaeth. Wedi chwilio i mewn yn ol ein cyrhaeddiad i elfenau y gwirionedd, dyfnheir yr argraff ar ein raeddwl pan j cawn yr elfenau hyny wedi eu corffori, yn by w, yn siarad, ac yn gweithredu yn y frawdoliaeth ddynol. Yn niysg yr enwogion sanctaidd o genedl y Cymry, sydd ". . . , wedi mynel Draw yn lluoedd . . ." gan arddangos rhyfeddodau gras Duw yn eu bywyd a'u marwolaeth, mae gwrth" ddrych yr hanes presennol yn deilwng o gofnodaeth neillduol ; ac y mae yn syn na buasai cofìant am dano wedi ymddangos yn y Gymraeg yn mhell cyn hyn. Ganwyd John Ree3 yn mhlwyf St. Pedr, Caerfyrddin, Ebrill 20, 1770. Yr oedd ei fam yn aelod o gyfundeb y Wesleyaid, a byddai yntau yn arfer myned gyda hi er yn blentyn i wrandaw pregethau. Yr oedd pan yn ieuanc iawn yn profi argraff» iadau crefyddol ar ei feddyliau. Pan yr oedd yn unarddeg oed, bu farw ei dad. Yn fuan wedi byny efe a ddywedodd wrth ei fam fod arno awydd sefydlu a chynnal i fynu addoliad teuluaidd ; hithau a gydsyniodd ; a thra y bu ef gartref, paräodd i weddio yn gyson yn y teulu. Dygwyd ef i fynu yn y gelfyddyd o gryddiaeth. Yr eedd y pryd hyn yn elynol iawn i athrawiaeth Galfinaidd ; cyfrifai nad oedd ei phleidwyr nemawr gwell nag ysbrydion drwg. Pa fodd bynag cymhellwyd ef un tro i wrandaw pregethwr poblogaidd perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, ac nis gallai ymattal heb wylo dan y bregetb. Parodd hyn i'w ragfarn leiâu, ond yr oedd ei olygiadau egwyddorol yn dal yr un. Rhag bod yn faich ar ei fam, yr hon yr oedd ganddi blant eraill i ofalu am dan- ynt, efe a adawodd ei gartref, ac a aeth i weithio i Bristol. Yr oedd yno yn foesol ei fuchedd,. ac yn gwrandaw yn gyson ar weinidogaeth y Wesleyaid. Yn mhen ychydig fisoedd, efe a symudodd oddiyno i Lundain. Ar y cyntaf, yr oedd yn y ddinas fawr yn cadw at ei arferion da. Bu yn f>nych yn gwrandaw ar yr hybarch John Wesley yn pregethu am bump o'r gloch y boreu. Yr oedd ar ei wely angeu yn cofio yn dda am un o'i bregethau. Y testun oedd, " Gwyn ei fyd y dyn a ofno yn wastadol;" a'r penau oeddynt:—Ofnwch Dduw—ofnwch angelion—ofnwch y diafol —ofnwch eich hun. Ond yn mhen ychydig, efe a aeth i afael cyfeillach lygredig, a'i gymdeithion ofer a'i denasant ymlaen i wageddau ffol a phechadurus, ac efe a syrthiodd i liaws o bechodau cyhoeddus. Yn nghanol ei annuwioldeb yr oedd ei gydwybod yn ei aflon- yddu yn ddirfawr ; yn ol ei eiriau ei hun, yr oedd " yn pechu ac yn edifarhau, ac yn edifarhau ac yn pechu," yr hyn oedd yn gwneyd ei fywyd yn faich iddo. Yr oedd yn ceisio ymryson â phechod yn ei nerth ei hun, heb feddwl dim am roddi ei hunan yn bechadur tlawd i Grist Iesu. Ond dygwyddodd i"r traethodyn a elwir "Dyferyn o fêl o'r graig Crist," gan Mr. Wilcox, ddyfod i'w law, yn mha un y darllenodd, " Edrych, broffeswr sydd wedi dy lanhau oddi allan, ar í\>d Crist wrth wraidd dy grefydd, onide ni bydd ond fel canwyll oleu i'th oleuo yn ddyfnach i uffern." Cyfres Newydd. a