Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEPA. Rhif. 686.] RHAGFYR, 1887. Llyfr LVII.] DUW YN DAD. PREGETH GAN Y DIWEDDAR BAROH. LEWIS EDWARDS, D.D., BALA, A draddodwyd yn Nghapel Bedford Street, nos Lun Sulgwyn, 1863. (A ysgrifenwyd wrth ei gwrando, gan Mr. John Lloyd, Lẁerpool.) " Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddîoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd."—Luc xi. 2. Y mae yn anghenrheidiol eofio wrth ddarllen yr Efengylati fod dysgyblion Crist y pryd hwnw mewn sefyllfa blentynaidd iawn—mewn sefyllfa fab- anaidd. Yr oedd eu syniadau felly : ac am hyny y mae yr Arglwydd Iesu yn ymostwng i ddysgu iddynt ffurf o weddi. Nid yw yn beth annheilwng gwneyd yr un peth eto i rai yn yr un cyflwr. Y mae rhyw rai yn bod felly yn awr. Y mae plant felly; ac y mae yn ddyledswydd ar rieni i ddysgu ffurf gweddi i'r plant. Ond o bob ffurf, nid oes yr un i'w chymharu â'r hon a elwir yn gyffredin yn " Weddi yr Arglwydd." Ac heblaw hyny, byddai yn fuddiol i rai mewn oedran astudio llawer ar y weddi yma, a'i chymeryd yn gynllun, boed a fyno. Yn ysbryd y weddi hon y dylem weddio bob tro y byddwn yn nesâu at orsedd gras. Ac ymysg y rhanau eraill, dyma sylfaen gweddi— neu yn hytrach dyma ein cryfder i weddio—yr enw a roddir yma ar y Duw mawr. Dan deimlad o gynnwys yr enw mawr hwn y dylem nesâu ato: " Pan weddioch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd." Ië, dy- wedwch chwithau bawb, os nad â'r tafod, yn yr ysbryd—yn agwedd y meddwl, " Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd." Y mae golwg ar yr enw yn ddigon i ddymchwelyd pob gwrthddadleuon yn erbyn gweddi, pa un bynag ai am fendithion tymmorol ai am fendithion ysbrydol. 0 ddiffyg hyn y mae cy- maint o ysgrifenu y dyddiau hyn i geisio dadsefydlu ffydd a syniadau crefyddwyr am yr hyn yw gweddi. Raid i ni ddim cyfeirio at rai pell. Ý mae defnydd y gwrthddadleuon hyn o'n mewn ni—yn ein calon, sydd yn " ymado oddiwrth y Duw byw." Byddwn ninnau yn teimlo oddiwrth- ynt. Yr ydys yn teimlo rhyw wendid wrth ofyn am fendithion tymmorol. A yw yn rhesymol dysgwyl i'r Duw Anfeidrol gyfryngu yn ei'Ragluniaeth ar gais rhyw rai distadl fel ni ? A allwn ni ddysgwyl iddo ateb pan j gofynwn iddo am iechyd, neu pan y byddom yn gofyn am fara beunyddiol ? Yr ydym yn gwneyd hyny, y mae yn debyg; ond a ydym ni ddim yn gofyn heb gredu y gwna Duw y pethau ? Heblaw hyny, y mae oes y gwyrthiau —os bu gwyrthiau—wedi darfod. • A ydych chwi yn dysgwyl i Dduw wneyd gwyrth, am eich bod chwi yn gweddio 2 L