Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DEYSOEFA. Ehif. 684.] HYDBEF, 1887. Llyfr LVII.] Y DIWEDDAE BABCHEDIG DE. EDWAEDS, BALA. GAN Y GOLYGYDD. (Ail Ysgrif.) 2. Edrychwn eto ar yr achos. Y mae y gallu i weled ymlaen yn gan- lyniad naturiol y gallu i weled i mewn. Yr oedd gwrthddrych ein sylwadau yn "gweled yr anweledig" yn yr ystyr hon: yr oedd yn gweled o dan y gweledig, yn y presennol. Gwelai drwy yrnddangosiadau at syl- weddau. Crefydd ydyw gwreiddyn y mawr- edd uwchaf. A dyma ydyw gwreidd- yn crefydd, "gweled yr anweledig." Ac y mae y pethau anweledig drachefn â'u gwraidd yn y Duw anweledig. Dyma oedd ffynnonell nerth Moses— ffydd yn y Duw anweledig: " ei weled Ef yr Hwn sydd yn anweledig; " (" as seeing Him who is invisible.") Dyma oedd cuddiad cryfder ein brawd a'n tad ymadawedig—yr hwn a fu am faith flynyddoedd yn Foses i'n Cyfundeb a'n oenedl ninnau—ffydd gref yn Nuw. Dyma a wnaeth ddynion mawr yr lleg bennod o'r Hebreaid—ffydd yn y Duw mawr. Dyma a wna wroniaid eto. Y mae Duw yn un mor fawr, nes y mae credu ynddo yn gwneyd dyn yn fawr. Y mae yn myned yn fawr yn mawredd Duw. Gwir fod y ffydd hon gan y credadyn lleiaf. Ond pan y mae y ffydd mewn graddau a nerth anghyffredin, megys yn Moses; a phan y mae natur wedi creu dynol- iaeth fawr i'r ffydd hon weithio ynddi a thrwyddi, yr hyn oedd hefyd yn MoseB, yna y mae ei pherchen yn dyfod yn fawr, nid yn unig o'i gymharu â'r di-ffydd, ond y mae yn dyfod yn fawr ymysg perchenogion ffydd. Yr oedd y ddynoliaeth fawr a'r ffydd fawr hon gan Dr. Edwards. Llawer gwaith y clywsom ef yn dyweyd gyda nerth ac awdurdod: " Bobl ieuainc, credwch fod Duw yn bod ! Y mae Duw yn bod ! " Nid nerth ymresymiad oedd yma. Nid allasai neb ymresymu y pwnc yn ddyfnach nag efe, mor bell ag y mae yn bosibl i'r fath bwnc gael ei ymresymu. Ond nerth uwch nag ymresymiad oedd yma—nerth ffydd, y ffydd hono sydd yn " sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled." Nerth argyhoeddiad. Enaid mawr wedi ei feddiannu i'w ddyfnderoedd gan wir- ionedd mawr. Credu yn dwyn y fath sicrwydd nes myned yn welediad ysbrydol. Cyhoeddai gyda'r fath awdurdod fod Duw yn bod, am ei fod yn gweled Duw, ac yn teimlo Duw i ddyfnderoedd ei natur. Dywedai gyda'r fath awdurdod wrth eraill am gredu, am fod pawb yn gorfod teimlo ei fod ef ei hunan yn credu. Yr un modd am y Gwaredwr an- weledig, yr Ysbryd Glân anweled- ig, y byd anweledig—ei egwyddor- ion a'i nerthoedd, nefoedd ac uffern. Yr oedd y pethau hyn iddo ef nid yn eiriau ond yn sylweddau. Yr oedd ei fywyd yn un edrychiad dwys ar "y pethau ni welir." Dammeg oedd y byd naturiol iddo ef o'r byd ysbrydol. 2 Jfi