Skip to main content

X DETSOEFA. Rhif. 677.] MAWETH, 1887. [Llyfr LYII. SYLWADAU AE EFEYDIAETH 0 DDÜWINYDDIAETH. Tra y mae rhai yn anrhydeddu Duw- inyddiaeth trwy ei galw yn " frenhines y gwyddonau " y rnae eraill yn gom- medd ei hystyried fel gwyddoneg o gwbl; rhy brin y teilynga yr enw gwybodaeth hyd ýn nod yn yr ystyr iselaf ; ac yn hyn y mae y Cyfriniwr duwiolfrydig yn cytuno â'r gwyddon digrefydd. Yn ngolwg y blaenaf, nid yw crefydd ond mater o deimlad, yn gorwedd tu allan i gylch gwrthddrych- au y deall; swydd y galon yn ei had- egau mwyaf dyrchafedig ydyw dal cymundeb â'i sylweddau ysbrydol; ac y mae y cymundeb hwnw yn ddigyf- rwng, oblegyd nid rhaid i'r galon wrth help syniadau y deall oddifewn, mwy na chynnorthwy goleuni dadguddiad oddiallan. Medda adnabyddiaeth o'r ysbrydol trwy ganfyddiad uniongyrch- ol; ac nid yw clirder y ddirnadaeth yn ymddibynu yn y mesur lleiaf ar mirhyw ymdrech o eiddo y deall ar y pryd, mwy nag ar y nerth a'r treidd- garwch a berthyn yn wreiddioi iddo. Gall y galon fod yn efíro pan fyddo y deall yn cysgu, a'r adnabyddiaeth a gyrhaeddir mewn ystad oddefol ydyw yr uchaf. Diffyg mawr y golygiad hwn ydyw ei fod yn gwahanu yr hyn a gysylltodd Duw; yr hyn a gysyllt- odd yn nghyfansoddiad y meddwl ei hun, a'r hyn a gysylltodd hefyd yn nghyfundraeth crefydd. Yn y naill mae yn ysgar y teimlad oddiwrth y deall; yn y llall mae yn gwahanu gwybodaeth oddiwrth y dadguddiad aUanol sydd yn safon iddi ac yn cyn- nwys ei mater. Ofer gan hyny ydyw dysgwyl am dduwinyddiaeth reolaidd ymysg y Cyfrinwyr: y gallu sydd mewn meusydd eraill yn chwilio, yn ymresymu ac yn dosbarthu, y mae allan o'i le wrth ei gymhwyso at beth- au ysbrydol: gellir cyrhaedd y wy- bodaeth uchaf o'r dwyfol heb egni y deall na chynnorthwy y Bibl. Yr un peth fyddai edrych am gyfundraeth o dduwinyddiaeth oddiwrth y dosbarth hwn o Gristionogion, ag a fyddai ym- ofyn am gyfundraeth wyddonol gan ddynion a gauent eu llygaid ac a dro- ent eu eefnau ar wrthddrychau natur. Os oes duwinyddiaeth gan y Cyfrin- wyr, nis gall fod yn amgen na myneg- iad o'u teimladau hwy eu hunain; nid yw o gwbl yn esboniad ar wirion- edd gwrthddrychol. Ac yn gymaint a bod teimladau yr un dyn yn am- rywio yn fawr ar wahanol adegau, a theimladau lliaws ar yr un adeg, mae yn amlwg nas gall fod ynddi gyson- deb na sefydlogrwydd: nid yw ond cais i arlunio yr hyn sydd bob moment yn cyfnewid. Er fod y ddau ddosbarth yn cytuno i ymwrthod â duwinyddiaeth, nid yd- ynt yn gwneuthur hyny yn yr un ysbryd nac oddiar yr un rhesymau. Nid all fod dau ddosbarth mwy an-