Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. clxxx.] RHAGFYR, 1845. [Llyfr XV. Sutomsiŵtaet^ SYLWEDD PREGETH A draddodwyd yn y Carneddi, Sir Gaernar- fon, Gorphenaf 3, 1842, gan y diweddar Mr. Benjamin Jones, Bethesda. Rhup. v. 8. 'Eithr y mae Duw yn canmol'ei gariad tuag atom ni; oblegyd, a ni eto ynbechaduriaid, i Grist farw trosom ni. Mae Duw wedi dangos ei ddaioni mewn Uawer ffordd tuag at ddyn. Mae wedi dangos ei ddaioni yn y greadigaeth. Un o'r pethau amlycaf yn ngwaith Duw yw ei ddaioni; ac wrth edrych oddi amgylch ar y greadigaeth, yr ydym yn gweled mai un anfeidrol dda y w ein Creawdwr. Mae hefyd yn ngoruchwyl- iaethau ei ragluniae th wedi rhoddi ar ddeall i bob meddwl ystyriol mai Duw trugarog yw, a'i lwybrau cyffredinol yn nhrefn ei raglun- iaeth ydynt yn dyferu brasder. Mae ei dru- garedd wedi ei hargraffu ar ei holl weithred- oedd; "ie, hyd yn nod pan yn tywallt ei farn- edigaethau ar ddynion am eu pechodau, mae trugaredd Duw yn amlwg tuag atynt yn y byd hwn. Ond dyna fel y mae gyda llawer er hyny, maent fel y grug yn y diffaethwch, heb weled pan ddel daioni. Alae dynion yn anystyriol o ddaioni Duw, ac y mae yntau weithiau, er eu ceryddu, yn attal ei ddaioni oddì wrthynt. òrwareder ninau rhag yr agwedd }ina, i fod yn ddiystyr o ddaioni Duw, ac yna i deimlo dialedd Duw amom oblegyd hyny. Ond yr amlygiad penaf o ddaioni Duw a geir yn nhrefn iachawdwriaeth pechaduriaid. ' Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom ni,' cStc. Dyma brif amlygiad o gariad Duw at bechaduriaid, sef marwolaeth Crist. Mae caríad Duw wedi ei amlygu mor helaeth yn marwolaeth Crist, fel nad oes genym ond Ẁyfeddu uwch ei ben. Mae mor helaeth } ma, fel na ddaw y saint by th o hyd i eithaf- ion yr amlygiad o hono. ' Y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom ni.' Ceir dynion weithiau yn canmol eu cariad tuag at eu cymydogion, ond heb ddim o weithredo^dd cariad. Y ffordd oreu i ddangos cariad yw mewn gweithred a gwir- ionedd; ac wrth wneud hyn yr ydym jn dilyn esiampl Duw ei hun, canys dyna y modd y mae efe wedi canmol ei gariad tuag atom ni, sef trwy i Grist, pan oeddym ni eto yn bechaduriaid, farw trosom. Mae cariad Duw yma yn myned yn anfeidroltu draw i gariad pawb; ac eithaf gweithrediadau cariad y naill ddyn tuag at y llall yw i gymydog farw yn lle cymydog arall. Mae wedi bod felly weithiau. ' Dros y da, ysgatfydd, fe feiddiai un farw hefyd;' ac y mae hyny wedi bod, ac wedi ei gofhodi ar ddalenau hanes- yddiaeth, bod rhai yn gymaint eu hagosrwydd at eu gilydd, fel y rhoddasant eu bywyd i lawr y naill dros y llall. Ond y mae cariad Duw yn myned tu hwnt i hyn; ' oblegyd, a ni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom.' Mae dynion yn marw dros eu gilydd, oblegyd rhyw gymwynasau y maent yn eu cael oddiar ddwylaw eu gilydd; ond y mae yn hollol wahanol yma, ein hymddygiad ni tuag at Dduw yw gwrthryfela yn ei erbyn, a gosod ei ddeddfau dan ein traed; ond y mae cariad Duw wedi ei amlygu mor fawr, fel y mae Cristwedi marw trosom ni, bechaduriaid; ac y mae darllen yr adnod hon yn ddigon i sicrhau y gwirionedd, fod cariad Duw at bechaduriaid yn anfeidrol fawr. ' Oblegyd, a ni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.' Sylwn yn I. Ar gariad Duw. II. Ar yr amlygiad o hono yn marwolaeth Crist ' Oblegyd, a ni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni. I. Cariad Duw. Yr ydym wedi clywed lawer gwaith fod Duw er tragywyddoldeb yn caru pechaduriaid. Efallai mai wrth gar- iad Duw yr ydym i ddeall yr amlygiadau o ddaioni Duw, neu weithrediadau o ddaioni Duw, yn achubiaeth pechaduriaid; ac y mae Duw erioed yn caru pechaduriaid, ac nid car- iad wedi cael ei achpsi gan ddim tu allan i Dduw ei hun yw hwn; mae wedi. caru o'i ewyllys da, heb ddim y tu allan iddo ei hun wedi achosi iddo garu pechaduriaid. Nid oes