Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. clxxix.] TACHWEDD, 1845. [Llyfr XV. 4iutoiu£îtòíaítf|< COFION O BREGETH Y diweddar Barch. James Hughes, Llundain, a bregethwyd yn Nghapel Pall Mall, Lwerpool, yn y fl. 1829. Salm lxxxiv. 11. " Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw; yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni attal efe ddim daioni oddiwrtb y rhai a rod- iant yn berffaith." Gwelwn fod y testyn hwn yn rhanu yn amlwg yn dair rhan,—'Haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw,—yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant,—ac ni attal'efe ddim daioni oddi- wrth y rhai a rodiant yn berffaith.' Ond ni sylwaf fi yn bresennol ond at un ran o'r tair, sef y rhan ganol,—' Yr Arglwydd a rydd râs a gogoniant.' Mae yn debyg fod Dafydd pan y llefarodd y geiriau yma yn mheÚ o Jerusalem, ac yn hynod o hiraethus: ond nid hiraethus am ei balas a'i orsedd frenhinol ydoedd, ond hir- aethus am dŷ Dduw. Ac y mae yr hiraeth a'r teimlad yma yn mhob dyn duwiol, a hyny yn mhob oes o'r byd. Mae yn rhaid fod dy gyflwr yn isel a thruenus iawn, os na elli di ddywedyd fel hyn gyda Dafydd. Mae yn wir fod rhai crefyddwyr a allant fyw cy- hyd ag afynont hebfyned i dŷ yr Argìwydd; ond ni theimlais i fy hun erioed, ac ni ddy- munwn deimlo fy hun byth, felly. Mae hir- aeth am dŷ yr Arglwydd yn un o'r nodau amlycaf oddyn duwiol. Mae Dafydd yn rhoi rheswm am ei hiraeth pan y dywed, * fod yn well ganddo gadw drws yn nhŷ ei Dduw, o flaen trigo yn mhebyll annuwioldeb;' a hyny oblegyd yr hyn sydd yn y testyn, sef, ' Haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw,' &c. Mae yr haul naturiol yn hynod o werth- fawr: pe tywyllai yr haul, byddai ynnos ddu arnom yn y fan: felly hefyd y Cristion yntau, byddai yn hollol dywyll arno ef oni bai fod yr Arglwydd yn haul a tharian iddo. Mae yr Arglwydd yn haul i'r Cristion i weled ei elynion, ac yn darian iddo i'w amddifFyn rhagddynt hwy oll. 'Yr Arglwydd arydd râs a gogoniant.' Lle bynag y rhydd efè râs, mae yn sicr o roddi gogoniant: grâs yn gyntaf, a gogoniant ar ol hyny. Ni dderbyniodd neb erioed y naill heb y llall. Yn bresennol, ni a sylwn oddiwrth y testyn ar y pethau canlynol:— I. Pa bethau sydd i ni ddeall wrth y gair grâs yn y Bibl. II. Mae pob dyn wrth natur yn hollol amddifad o râs. III. Gwelwn druenusrwydd cyfiwr pawb heb wir râs. IV. Y fraint,—-sef, < Yr Arglwydd a rydd ras,' &c. I. Paau beth sydd i ni ddeall wrth y gair gras yn y Bibl. Nid yw y gair gras yn air Cymraeg na Saesonaeg; ond y mae wedi dyfod a deilliaw i ni o ryw iaith arall. (1.) Mae gras yn arwyddo ffafr neu gy- mwynas un person i berson arall; a hyny heb un rhwymau ar y person fyddo yn gweith- redu, nac ychwaith heb un teilyngdod yn y person fyddo yn derbyn. (2.) Mae gras yn arwyddo holl gariad a threfh Duw i gadw pechaduriaid; sef holl drefh y cyfamod, a darpariaeth yr iechydwr- iaeth gogyfer â dyn. (3.) Mae gras yn arwyddo yr efengyl, yn ei geiriau, ei thystiolaethau, a'i haddewidion, —yr efengyl a'i dadguddiad dwyfol o drefh i gadw dyn wedi syrthio. Ni wybuasem ni byth am drefh i gadw dyn wedi syrthio, oni buasai fod gras yn ei dangos ac yn ei dad- guddio i ni. Gyda llawer o briodoldeb y gelwir hi yn ras; am ei bod yn dadguddio gras, ac am ei bod yn dwyn gras i ddyn- olryw. (4.) Mae gras yn arwyddo yr holl fen- dithion y mae Duw yn eu cyfranu i'r gwir gredinwyr. Mae Uawer yn gwrando yr efengyl yn barhaus, xmd nid oes gan neb ond y gwir gredadyn ías gwirioneddol yn ei galon. WtÛì ras yr wyf yn meddwl ben- dithion cyfranogol Duw,—gwreiddyn y mat- er,—duwiol anian,—a phób peth ag sydd yn