Skip to main content

Y DRYSORFA. Rhif. clxxviii.] HYDREF, 1845. [Llyfr xv. GENEYA A GERMANY. Y PARCH. JOHN MERLE D'AUBIGNE, JOHN RONGE, A JOHN CZERSKI. Mae Germany, a'r ymsyraudiadau pwysig sydd ynddi, yn destyn sylw llawer gwlad yn y dyddiau hyn. Hanesion y parth hwn o'r byd sydd vn llenwi misoUon, yn britho new- yddiaduron, yn destynau cyíarfodydd cref- yddol, ac yn ddadleuaeth gwresog yn ngweddi'- au miloedd lawer o dduwiolion, dros wyneb y byd, yn bresennol. Yr wyf yn ymwenieithio i mi fy hun, anwyl Olygydd y Drysorfa, y byddwch chwithau yn hynod o barodol i gyflwyno i'ch darllenwyr y sylwadau canlynol am y tri gwr enwog sydd yn peri cryn fri a hynodrwydd ar Geneva a Germany—enwau pa rai, mae yn ddir genyf, sydd yn hysbys iawn ymron yn mhob cwmwd yn y wlad—sef y Parch. John Merle D'Aubigne, John Ronge, a John Czerski. Cyn dibenu, a chan belled ag y caniata eich terfynau, amcanwyf roi rhyw fraslun o agwedd bresennol yr ymsymudiad sydd ynddi, gan hyderu y dicríon i'r ysgrif hou greu eidd- igedd newydd yn fy nghydwladwyr, i gofio Germany a'i henwogion o flaen gorseddfainc y Mawredd, ar rjngu bodd iddo fendithio yr ysgogiad sydd ynddi yn awr i fod yn dde- chreuad diwygiad grymusach a thanbeidiach na'r un a ddechreuodd ynddi yn yr amserau a aeth heibio. Heb gruglwytho eich darllenwyr â rhagym- adroddiad pellach, mi a ddechreuaf gyda I. Y Parch. J. MerleD'Aubigne.* Os awn at y gwaith o olrhain enwogrwydd D'Aubigne fel Duwinydd Protestanaidd, gall- wn fyned yn ein holau oesau lawer. Bron nad allem ddweyd ei fod wedi derbyn ei ym- lyniad a'i serch at athrawiaeth y Diwygiad Protestanaidd fel treftadaeth yn gystal a thrwy ymchwiliadau personol. Mae'n un o ddisg \ n- yddion y rhai hynod hyny mewn hanesydd- iaeth, yr Hugenots o Ffrainc. Gorfu ar ei hen daid o du ei dad, Jean Louis Merle, íFoi o Nismes i Geneva rhag yr erledigaethau creulawn hyny a ddilynodd ddiddymiad * Wedi ei dalfyru o'r Relief Magazine, am Gorphenaf, 1845. cyhoeddiad Nantes, yn y flwyddyn 1635. Cyn pen hir iawn yr ydys yn deaJl ddarfod i'r ffbadur Hugenotaidd, a'i deulu, enill cryn enwogrwydd a chyfrifiad yn y ddinas a fabwys- iadent yn gartrefle iddynt eu hunain; canys yn y flwyddyn 1743, ymbriodai ei fab, Francis Merle, âg Elizabeth, merch George D'Au- bigne, gwr boneddig urddasol o Brotestant, ag oedd yn preswylio y pryd hyny yn Geneva. Felyma yrhynodir gwrthrych yr haneshwngan waed pur Protestanaidd, o bob ochr ei achau, oherwydd bu orfod i hynafiaid D'Aubigne, yn gystal a'r Merle, ffoi o Ffrainc, can boethed oedd yr erlidigaethau pabyddol. Enülodd Theodore D'Aubigne, yr hwn oedd benaeth y teulu hwn yn nechreuad yr eilfed ganrif ar bymtheg, gryn enw a chlod fel bardd a hanesydd: ac y mae croniclau ei amseroedd ef yn dywedyd am dano fel hyn: —* Cahiniste xele si oneques il enfut^—h.y. Calfiniad selog, os bu un erioed. Yr ydoedd ysgrifeniadau y gwr hwn yn cyffroi ysbryd erlidgar y Pabyddion i'r fath raddau, fel y gorchyimnodd Louis XIII, brenin Ffrainc, i un o honynt, o'r enw His- toire Universelle de la fin du \Qmo Siecle, i gael ei losgi yn gyhoeddus yn Paris. Ac o herwydd talu o'r brenin y sylw hwn i'w waith, bamodd mai gwell a gwir angenrheid- iol oedd iddo, nid yn unig ffbrffedu ei etifedd- iaethau yn Ffrainc, ond hefyd ymadael o'r tir a'r deyrnas yn gyfan-gwbl: a chan iddo fod yn un o fyrÿrwjr Colegau Geneva pan yn ieuanc—a bod y wlad hòno yn nawddle alluog i ryddid crefyddol ar gyfandir Ewrop, ac yn brif eisteddle addysg Brotestanaidd, efe a ddychwelodd yno, ac a brynodd arglwydd- iaeth Lods, yn nghymydogaeth y dref. Yn y lle hwn yr oedd ei olynwyr yn preswylio pan y cylymwyd y cwlwm priodasol rhwng Francis Merle ac Ehzabetli D'Aubigne. A thrwy rinwedd y brîodas hon, ac yn gyfunol âg arferiad g\ffiredin ar Gyfandir Ewrop, ac yn wir yn ein gwlad rri ein hunain, ar brîodas gwr o sefyllfa^sel â boneddiges urddasol, y chwanega y jmi enw ei wraig at ei enw ei hunan—a dyna y rheswm y gelwir y gwi